Heddlu'n ymchwilio i roddion Reform UK

Richard Tice

Mae'r heddlu'n cynnal ymchwiliad i daliadau i Reform UK gan gwmni sy'n cael ei reoli gan ddirprwy arweinydd y blaid, Richard Tice. 

Yn y cyfnod cyn Etholiad Cyffredinol 2024, cafodd rhodd o £250,000 ei rhoi i'r blaid ddwywaith gan Britain Means Business, yn ôl papur The Times. 

Roedd Richard Tice yn gadeirydd y blaid yn y cyfnod hwnnw. 

Yn ôl Mr Tice, cafodd yr arian ei roi i'w gwmni gan Fiona Cottrell, sydd wedi cyfrannu arian droeon i Reform UK, a mam George Cottrell, y gŵr sydd wedi ei gael yn euog o dwyll, sydd â chysylltiadau agos ag arweinydd Reform UK, Nigel Farage.

Mae adroddiadau iddi roi £1 miliwn i Britain Means Business fis Mehefin 2024, a chafodd hanner y swm hwnnw ei roi yn ddiweddarach i Reform. 

Yn ôl The Times, cafodd cyfrif banc Reform ei rewi yn ystod yr Etholiad Cyffredinol diwethaf ar ôl i'r rhoddion gael eu rhoi.    

Yn ôl y BBC, mae'r heddlu yn archwilio'r taliadau ar gyfer cwmni Richard Tice.

Dywedodd Mr Tice: "Dyma'r tro cyntaf i mi glywed am hyn - os yn wir, pam fod Heddlu'r Met yn nodi hynny wrth y BBC cyn cysylltu â phobl sydd o ddiddordeb?"  

Mae Fiona Cottrell wedi cael cais am sylw.

Holi dau berson 

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK: "Mae Reform wastad yn sicrhau ei fod yn dilyn yn llym, ganllawiau'r Comisiwn Etholiadol ar roddion, fel sydd wedi ei nodi yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000."

Yn ôl Heddlu'r Met, mae dau berson wedi eu holi hyd yn hyn, o dan rybudd.  

Dyweodd llefarydd ar ran y llu: "Dechreuodd ymchwiliad fis Chwefror 2025 ar ôl i'r Comisiwn Etholiadol gyfeirio'r mater atom, mewn cyswllt â rhoddion a gaofodd eu rhoi i blaid wleidyddol cyn Etholiad Cyffredinol 2024 yn y DU. 

"Mae ditectifs o dîm ymchwiliad arbennig y Met yn ymchwilio i droseddau honedig o dan adran 61 y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

"Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi bod yn cynghori, ac mae dau o bobl wedi eu holi o dan rybudd hyd yn hyn. Doed neb wedi ei arestio.  

"Nid yw trosedd yn y categori hwn yn un y gall y Comisiwn Etholiadol ei hymchwilio, ac felly, mae'n fater i'r heddlu."

Pan gafodd Mr Tice ei holi yn flaenorol sut y cafodd afael ar yr arian, dyweodd: "Rydw i wedi adnabod y teulu Cottrell, mae fy nheulu wedi adnabod y teulu Cottrell a'r teulu Hesketh yn ehanagach, ers 50 mlynedd.

"Teulu aristocrataidd hynod o lwyddiannus, ac i fi, mae hi'n rhoddwr derbyniol, a dyna ddiwedd y mater."  

Yn ôl llefarydd ar ran y Blaid Lafur, mae'r "honiadau a sgandalau am roddion yn dal i bentyrru ar gyfer Reform."

"Mae'n glir fod Reform yn credu fod rheolau ar gyfer eraill," meddai.

Mae arweinydd Reform UK Nigel Farage wedi rhoi'r gorau i fod yn Aelod Seneddol Clacton er mwyn ymgeisio eto mewn is-etholiad, ar ôl i gwestiynau gael eu holi am rodd o £5 miliwn a dderbyniodd gan y biliwnydd Christopher Harborne.

Yn ôl Mr Farage, mae'r is-etholiad a fydd yn cael ei gynnal ar 13 Awst yn ornest "y bobl yn erbyn y sefydliad." 

 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.