‘Penderfyniad anghywir’: Galw am ganiatáu i gefnogwyr pêl-droed o Israel fynd i gêm Aston Villa

Villa Park

Bydd swyddogion Llywodraeth y DU yn cyfarfod ddydd Gwener i “weld a oes datrysiad” ar ôl i gefnogwyr pêl-droed o Israel gael eu gwahardd rhag mynd i gêm bêl-droed yn Birmingham.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod y penderfyniad i wahardd cefnogwyr clwb Maccabi Tel Aviv o gem Aston Villa yn “anghywir”.

Ni fydd unrhyw gefnogwyr o’r clwb yn Israel yn cael mynd i’r gêm Cynghrair Europa oherwydd pryderon diogelwch.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr eu bod nhw’n pryderu am eu gallu i ddelio ag unrhyw brotestiadau pan fydd y tîm o Israel yn chwarae yn Villa Park ar ddydd Iau, 6 Tachwedd.

Ond mae UEFA, sy'n cynnal Cynghrair Europa, wedi galw ar awdurdodau'r DU i sicrhau y gallai cefnogwyr Maccabi Tel Aviv fynd i’r gêm yn Birmingham.

Mewn datganiad, dywedodd y corff: “Mae UEFA eisiau i gefnogwyr allu teithio a chefnogi eu tîm mewn amgylchedd diogel a chroesawgar, ac mae'n annog y ddau dîm a'r awdurdodau i gytuno ar weithredu'r mesurau priodol sy'n angenrheidiol i ganiatáu i hyn ddigwydd.”

Dywedodd Aston Villa: "Mae'r clwb mewn deialog barhaus â Maccabi Tel Aviv a'r awdurdodau lleol drwy gydol y broses.

"Mae diogelwch cefnogwyr sy'n mynychu'r gêm a diogelwch trigolion lleol yn flaenoriaeth wrth wneud unrhyw benderfyniad."

Dywedodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer fod "y penderfyniad yn anghywir".

Ysgrifennodd ar blatfform cyfryngau cymdeithasol X mai "rôl yr heddlu yw sicrhau y gall pob cefnogwr pêl-droed fwynhau'r gêm, heb ofni trais nag unrhyw fygythiad".

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, fod y penderfyniad yn destun "cywilydd cenedlaethol".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.