Agor safle newydd yng Nghaergybi i drwsio olwynion trên sydd wedi'u difrodi

Gorsaf TFW Caergybi

Fe fydd safle newydd i drwsio olwynion sydd wedi eu gwisgo neu wedi'u difrodi yn agor yng Nghaergybi ddydd Gwener. 

Mae'r peiriant gwerth £10.5m yn offeryn cynnal a chadw pwysig, ac sydd yn rhan o fenter Rhwydwaith Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae'n golygu na fydd angen i drenau yng Ngogledd Cymru deithio i'r safle presennol lle mae'r peiriant yn Nhreganna, Caerdydd bellach.

Dywed y Llywodraeth y bydd "fflyd gyfan" o drenau Trafnidiaeth Cymru yn cael eu cynnal a'u gwasanaethu yn gyflymach. 

Mae'r prosiect wedi'i gwblhau ar amser cyn tymor yr hydref, pan fydd dail sy'n disgyn yn gwneud olwynion wedi'u cynnal yn dda yn bwysicach fyth. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Bydd ein cyfleuster newydd yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos, gan leihau'n sylweddol yr amseroedd trwsio i drenau fod yn ôl ar waith a gwneud yn siŵr fod pobl yn gallu cyrraedd lle maen nhw'n mynd gyda llai o darfu.

Ychwanegodd Ryan Williams, Cyfarwyddwr Peirianneg Trafnidiaeth Cymru: "Mae'r cyfleuster newydd hwn yn gam mawr ymlaen gan sicrhau bod ein fflyd o drenau ar gael yn gynt, yn enwedig wrth i ni fynd i fisoedd anoddach yr Hydref a'r Gaeaf. 

"Bydd yn ein helpu inni redeg yn fwy effeithlon, cryfhau ein galluoedd cynnal a chadw mewnol ymhellach, ac yn dangos ein hymroddiad i ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.