'Brawychus': Dedfrydu dyn 19 oed o'r Rhondda oedd â bron i 200 lluniau o natur rywiol o blant
Mae dyn 19 oed o’r Rhondda wedi ei ddedfrydu i wyth mlynedd yn y carchar ar ôl perswadio plant i anfon bron i 200 o luniau o natur rywiol iddo.
Roedd Cory Jones o Ynyswen wedi magu perthynas gyda 37 o blant rhwng 10 a 16 oed ar y cyfryngau cymdeithasol gan eu gorfodi yn y pen draw i rannu lluniau a fideos rhywiol o’u hunain gydag ef.
Anfonodd Jones luniau a fideos rhywiol ohono'i hun at y plant hefyd.
Pan wrthododd rhai o'r plant ei geisiadau am fwy o luniau, roedd wedi bygwth cyhoeddi’r delweddau ohonynt ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae bellach wedi pledio’n euog i 69 o droseddau yn cynnwys blacmel, achosi i blentyn gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol a dosbarthu delweddau anweddus.
Wedi iddo gael ei arestio, daeth swyddogion o hyd i 172 o ddelweddau anweddus o blant.
Cafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener. Fe fydd yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes hefyd.
'Brawychus'
Dywedodd Lisa McCarthy o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd Cory Jones yn dwyllodrus ac yn ystrywgar, gan orfodi plant i gymryd rhan mewn gweithredoedd i fodloni ei foddhad rhywiol ei hun a blacmelio rhai drwy fygwth cyhoeddi delweddau camfanteisio yn rhywiol ar y cyfryngau cymdeithasol pan wnaethant wrthod gwneud hynny.
“Roedd hwn yn ymchwiliad sylweddol a chymhleth, gyda nifer y plant a ddioddefodd yn eithaf brawychus.
“Cyflwynwyd yr achos hwn o ganlyniad i gyswllt sylweddol rhwng Gwasanaeth Erlyn y Goron a Heddlu De Cymru. Hoffai Gwasanaeth Erlyn y Goron ddiolch i'r dioddefwyr am eu dewrder wrth ddod â Cory Jones o flaen ei well.
“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd troseddu rhywiol yn erbyn plant o ddifrif a bydd yn defnyddio holl bwysau'r gyfraith i ddod â'r rhai sy'n cyflawni troseddau o'r fath o flaen eu gwell.”
Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng 11 Medi 2022 a 6 Tachwedd 2024.
Ymhlith y troseddau y mae wedi ei gael yn euog ohono y mae 27 o droseddau cyfathrebu rhywiol gyda phlentyn, yn ogystal a 14 trosedd i’w wneud ag achosi plentyn i wylio gweithred rywiol.