Blaenafon: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth

Blaenafon

Mae’r heddlu wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio dyn 47 oed ym Mlaenafon yn Nhorfaen.

Fe dderbyniodd Heddlu Gwent adroddiad yn ystod oriau mân ddydd Gwener fod dyn wedi dioddef anafiadau difrifol mewn cyfeiriad ar Rodfa Glan yr Afon yn y dref.

Fe aeth swyddogion, gan gynnwys swyddogion heddlu arfog a pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn ogystal â hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru i’r cyfeiriad.

Er gwaethaf ymdrechion i'w achub, roedd y dyn wedi marw yn y fan a’r lle. 

Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac mae swyddogion arbenigol wedi cael eu neilltuo i roi cymorth iddyn nhw trwy gydol yr ymchwiliad.

Mae dyn 34 oed o Dorfaen wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, Ditectif Brif Arolygydd Jitka Tomkova-Griffiths: “Rydyn ni’n deall bod adroddiadau o’r natur yma’n gallu peri pryder, ond rydyn ni wedi arestio dyn o’r ardal ac nid ydyn ni’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad yma.

“Bydd preswylwyr yn gweld mwy o swyddogion heddlu yn yr ardal wrth i’n hymholiadau ni barhau. 

“Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth, siaradwch gyda’n swyddogion neu cysylltwch â ni yn y modd arferol.”

Gall unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â ni drwy ffonio 101, anfon neges uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol, neu drwy ddefnyddio’r ffurflen ar ein gwefan a chrybwyll rhif cofnod 2500331809.

Gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw hefyd, ar-lein neu ar y ffôn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.