Mared Griffiths: Hogan o Drawsfynydd yn 'byw'r freuddwyd' gyda Manchester United

Mared Griffiths: Hogan o Drawsfynydd yn 'byw'r freuddwyd' gyda Manchester United

"Pwy ‘sa’n meddwl ‘sa hogan o Drawsfynydd yn symud i seinio i Manchester United yn 17 oed?"

Dros yr haf fe wnaeth Mared Griffiths wireddu breuddwyd ac arwyddo cytundeb proffesiynol gyda Manchester United.

Daw hynny ychydig fisoedd ar ôl sgorio dwy gôl ar ei hymddangosiad cyntaf i'r clwb yng Nghwpan yr FA a wedyn chwarae dros dîm menywod Cymru am y tro cyntaf.

Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai bythgofiadwy i'r ferch 18 oed, ac roedd arwyddo ei chytundeb proffesiynol cyntaf yn un o'r uchafbwyntiau.

"Pan o’dd y beiro yn twtshad y papur er mwyn seinio professional contract gynta’ fi o’dd o’n deimlad anhygoel i fi a fy nheulu," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ma’r gwaith caled wedi talu ar ei ganfed, nid jyst i fi ond i’r teulu hefyd.

"O’dd o’n teimlad a hannar cael y teulu yna hefo fi ar y diwrnod yn seinio y contract.

"Dwi'n meddwl hebddyn nhw, heb ymroddiad mam, mynd a fi i training bob diwrnod, mynd a fi i gêms bob wythnos ar hyd y tymor yn y tywydd ofnadwy a bob dim, 'sa dim o hyn wedi digwydd.

"O’dd cael hi yn ista wrth y’n ochr i ar y diwrnod, o’dd o jyst yn diwrnod bach hapus idda ni."

Image
Mared Griffiths yn arwyddo ei chytundeb proffesiynol gyntaf
Mared Griffiths yn arwyddo ei chytundeb proffesiynol cyntaf. Llun: Manchester United

Dechreuodd diddordeb Mared ym mhêl-droed dyfu wrth wylio ei brodyr yn chwarae yn Nhrawsfynydd.

Roeddynt yn chwarae i Glwb Bro Hedd Wyn Celts, tîm y byddai Mared yn chwarae iddo ac ennill tlysau gyda nhw.

Fe aeth Mared o chwarae gyda'r bechgyn yn Nhrawsfynydd i Academi Merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn y Gogledd.

Mae'r academi yn canolbwyntio ar ddatblygu chwaraewyr elitaidd 12-16 oed, gan sicrhau llwybr iddynt tuag at dimau cenedlaethol Cymru.

Yn yr academi roedd Mared yn chwarae yn erbyn timoedd bechgyn o oedrannau gwahanol.

Heb y profiad hwnnw, ni fyddai Mared wedi arwyddo i Manchester United, meddai.

"Dwi’n meddwl o’dd y step o Gogledd Academi i United, mae o’n rywbath mawr achos ma’r lefel yn hollol wahanol o Gymru i Lloegr.

"Ond dwi’n meddwl heb fod yn yr academi, ‘swn i ddim yn fa’ma ‘wan achos ma’r gwaith caled ma’r staff ‘di neud yn fan ‘na wedi gweithio er mwyn neud i fi fod y playar ydw i heddiw."

Image
Mared yn chwarae i Academi Gogledd Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Mared yn chwarae i Academi Gogledd Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Nid Mared yw'r unig aelod o'i theulu i chwarae i'r academi, gyda'i chwaer fach Cadi yn chwarae yno ar hyn o bryd.

"Ma' fy chwaer bach i yn chwara’ yn yr academi ‘wan a ma hi’n deud bod hi’n sbïo fyny arna' i sydd yn beth neis i glywad," meddai Mared.

"Ond dwi’n gwybod heb y staff a’r facilities genna hi yn fan 'na, neith hi ddim neud hi, er dwi’n deud wrthi bob dydd i ddal i weithio’n galad.

"Dwi’n meddwl ma bob dim s’genna hi o ddydd i ddydd yn help mawr iddi fynd i glwb mowr."

Dylanwad Jess Fishlock

Ddydd Mercher roedd prif sgoriwr Cymru Jess Fishlock wedi cyhoeddi ei bod am ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Fishlock ydy'r chwaraewr cyntaf yn hanes Cymru i ennill 150 o gapiau dros ei gwlad, gan hefyd dorri'r record am y nifer o goliau i Gymru gyda 48.

Mae 20 mlynedd o fwlch mewn oedran rhwng Mared Griffiths a Fishlock - ac fe fydd y ferch o Drawsfynydd yn rhan o'r garfan genedlaethol unwaith eto ar gyfer gêm olaf Fishlock yn y crys coch, yn erbyn Awstralia ar 25 Hydref.

Wrth gyd-chwarae ar y cae ymarfer mae Mared wedi bod yn gwneud bob dim o fewn ei gallu i ddysgu gan Fishlock.

"Dwi’n dysgu llawer iawn o betha’ gan Jess Fishlock o gamp i gamp," meddai.

"Dwi'n meddwl y ffordd mae’n chwarae y ffordd mae’n dallt y gêm, darllan be’ sy’n mynd i ddigwydd, lle mae angan bod, pa sgiliau i defnyddio.

"A jyst yr mentality, winning mentality i feddwl bod ni ddim yn wlad mowr.

"Dwi'n meddwl ‘swn i’n hoffi bod fel Jess Fishlock nesa’, ‘sa pawb yn gallu bod.

"Ond ‘ma ’na rywbeth unigryw amdani sydd yn ‘neud hi’n berson mor anhygoel i’r wlad."

Image
Mared Griffiths yn ymarfer aer y cae gyda Jess Fishlock
Dywedodd Mared ei bod wedi dysgu llawer gan Jess Fishlock. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

'Bythgofiadwy'

Enillodd Mared ei chap gyntaf dros Gymru yn erbyn Sweden ym mis Chwefror eleni.

Roedd hi hefyd yn y garfan ar gyfer y noson hanesyddol pan enillodd Cymru eu lle yn EURO 2025 trwy guro Gweriniaeth Iwerddon.

Nid yw'r chwaraewr canol cae wedi chwarae i Manchester United y tymor hwn hyd yma, ond mae'n gobeithio dysgu o ymarfer gyda'r garfan a gwthio am safle cyson yng ngharfan Cymru.

"Pan nes i gynrychioli ‘ngwlad yn ôl ym mis Chwefror o’dd o’n deimlad anhygoel," meddai.

"Do’n i ddim yn disgwyl dim byd felly yn chwarae i’r tîm dan 17.

"Ond roedd o’n brofiad bythgofiadwy a dwi jyst isho dal i wthio ar hynny ‘wan a dal i ddatblygu."

Ychwanegodd: "Dwi isho bod yn y garfan, bod yn y matchday squads a cael munuda’ yma ac acw.

"Dwi ddim yn disgwyl dim byd gormod achos ti’n gorfod earnio’r spot a ma’ digon o bobl experienced eraill allan yna ond ma' rhaid fi cael y cyfleoedd a cymryd mantais ohonyn nhw."

Image
Fe ddaeth Mared oddi ar y fainc yn erbyn Sweden i ennill ei chap gyntaf dros Gymru
Fe ddaeth Mared oddi ar y fainc yn erbyn Sweden i ennill ei chap gyntaf dros Gymru. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

'Bod y person gora dwi'n gallu'

Mae Mared wedi cyflawni tipyn yn ei gyrfa fer hyd yma, ond mae'n cymryd pethau o ddydd i ddydd wrth ymarfer yn Carrington ym Manceinion.

Wrth iddi edrych ymlaen at y tymor presennol yn y Womens Super League, mae hi'n gobeithio gallu ennill munudau ar y cae.

"Wrth edrych yn ôl o fod fa’ma ‘wan, ‘ma ’na lot o betha ‘di digwydd mewn amsar byr, ond, dwi’n edrych arno fel rhywbath bach o ‘ngyrfa.

"Dwi’n gobeithio bod ‘na ddigon, digonadd o betha’ mowr eraill yn digwydd."

Er ei bod hi wedi sgorio yng Nghwpan yr FA ac yn parhau i sgorio dros dimau ieuenctid Cymru, gwneud ei gwlad a'i theulu yn falch yw ei blaenoriaeth.

"Dwi ‘di rhoid ‘heina ’wan yn y gorffennol, a dwi jyst yn trio dal i nocio’r drysa’ petha’ eraill a jyst dal i weithio’n galad a bod y person gora’ dwi’n gallu bod on ac off y pitch.

"Dangos i bawb yn y wlad be’ dwi’n gallu ‘neud a dangos i fy hun a fy nheulu be’ dwi’n gallu ‘neud fwy ’na dim byd.

"Ac ar ddiwedd y dydd jyst neud pawb yn prowd dwi’n meddwl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.