Teulu Virginia Giuffre 'yn eu dagrau' ar ôl i'r Tywysog Andrew ildio ei holl deitlau brenhinol

Y Tywysog Andrew

Mae teulu Virginia Giuffre wedi dweud iddyn nhw fod “yn ein dagrau” wrth groesawu’r newyddion y bydd Tywysog Andrew yn ildio ei holl deitlau, gan gynnwys ei deitl brenhinol mwyaf adnabyddus, Dug Efrog.

Fe gyhoeddodd Andrew ddatganiad ddydd Gwener yn dweud na fyddai bellach yn defnyddio’r “teitlau na'r anrhydeddau a roddwyd i mi mwyach" a hynny "gyda chytundeb Ei Fawrhydi".

Daeth ei benderfyniad yn dilyn pwysau cynyddol ar y Tywysog Andrew wedi i adroddiadau ddod i'r amlwg am ei berthynas â'r pedoffeil Jeffrey Epstein, a'i berthynas ag ysbïwr Tsieineaidd honedig.

Daw'r cyhoeddiad ychydig ddyddiau yn unig ar ôl cyhoeddi hunangofiant Virginia Giuffre, a fu farw ym mis Ebrill.

Yn ôl adroddiadau, roedd y cyn-ddug wedi talu miliynau o bunnoedd i ddod ag achos ymosodiad rhywiol sifil ganddi yn ei erbyn i ben yn 2022. Roedd hynny er iddo ddweud nad oed erioed wedi cwrdd â hi.

Image
Virginia Giuffre
Virginia Giuffre

'Tystiolaeth'

Dywedodd brawd Ms Giuffre, Sky Roberts, bod ei chwaer wedi dweud y gwir bob tro wrth siarad â BBC Newsnight wedi’r cyhoeddiad. 

“Rydyn ni wedi bod yn crio llawer o ddagrau o hapusrwydd a thristwch. Dwi'n hapus achos mewn ffordd mae hyn yn cyfiawnhau Virginia. "

Roedd Ms Guiffre wedi honni ei bod hi wedi cael ei gorfodi i gael rhyw gyda’r Tywysog Andrew ar dri achlysur gwahanol, gan gynnwys pan oedd hi’n 17 oed a dan reolaeth y pedoffeil Jeffrey Epstein. 

Dywedodd Mr Roberts y byddai’n “croesawu” trafodaeth gyda Senedd y DU neu’r Brenin er mwyn “cyflwyno’r dystiolaeth” a fyddai yn sicrhau bod llais ei chwaer yn parhau i gael ei chlywed. 

Yn ogystal â theitl 'Dug Efrog', roedd gan y Tywysog Andrew, ddau deitl anrhydeddus arall, sef Iarll Inverness a Barwn Killyleagh.

Er iddo ildio ei deitlau swyddogol, fe fydd yn parhau i fod yn dywysog, ar ôl cael ei eni'n fab i Elizabeth II.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.