Caergybi: Mwyafrif o blaid symud ysgol uwchradd i safle newydd
Roedd mwyafrif y rheini a ymatebodd i ymgynghoriad ar ddyfodol ysgol uwchradd yng Nghaergybi o blaid symud i safle newydd.
Roedd Ysgol Uwchradd Caergybi ymhlith y cyntaf yng Nghymru i wynebu problemau yn ystod argyfwng concrit RAAC yn 2023. Mae’r adeilad yn heneiddio ac mae angen gwaith cynnal a chadw helaeth arno.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ystyried opsiynau gan gynnwys ailadeiladu’r hen ysgol ar ei safle presennol neu symud disgyblion i ysgol newydd. Byddai hynny’n costio tua £66 miliwn, meddai’r cyngor, gyda £60.7 miliwn yn dod drwy fodel buddsoddi cydfuddiannol Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn ymgynghoriad statudol, daeth adroddiad i’r casgliad mai “yr ymateb mwyaf priodol yw adeiladu ysgol newydd”. Safle Canolfan Hamdden Caergybi sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar “y cynnig i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer pobl 11–18 oed” rhwng 5 Mehefin a 17 Gorffennaf 2025.
Derbyniwyd 1,023 o ymatebion, gan gynnwys 429 (42%) gan drigolion lleol, 329 (32.3%) gan ddysgwyr/disgyblion a 229 (22.5%) gan rieni neu warcheidwaid.
Cytunodd tua 79% â’r cynnig ac anghytunodd 21%. Roedd tua hanner y rhai a oedd yn anghytuno wedi nodi bod y safle arfaethedig ger y ganolfan hamdden “yn rhy bell o’r safle presennol a chanol y dref”.
“Ychydig iawn o sylwadau oedd ynghylch cost uchel yr adeilad ysgol newydd arfaethedig,” meddai’r adroddiad.
'Wedi gwneud ei gwaith'
Disgrifiodd yr adroddiad sut y bu darganfod RAAC yn cael “effaith sylweddol” ar yr ysgol ac ar addysg y disgyblion rhwng mis Medi 2023 a mis Ionawr 2024.
Daeth y cyngor i’r casgliad bod angen “gwariant sylweddol”. Nododd adroddiad Estyn “gyflwr gwael” yr ysgol ac y byddai angen £29 miliwn mewn atgyweiriadau.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones, cyn-ddisgybl yn yr ysgol, fod y dref wedi bod angen ysgol newydd “ers talwm”.
Dywedodd: “Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn mynd rhagddo heb ormod o broblemau ynghylch y costau.
“Os edrychwch ar yr hen ysgol, mae wedi gwneud ei gwaith — mae llawer o ddisgyblion wedi dod drwy ei drysau dros y blynyddoedd.”
Cyflwynwyd canfyddiadau’r ymgynghoriad i Bwyllgor Craffu Corfforaethol y cyngor ddydd Mercher.