Arestio dyn ar amheuaeth o ymosod wedi digwyddiad ym maes awyr Heathrow
Arestio dyn ar amheuaeth o ymosod wedi digwyddiad ym maes awyr Heathrow
Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ôl i nifer o bobl gael eu heffeithio gan “math o chwistrell pupur” gan grŵp o ddynion ym maes awyr Heathrow.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb i’r digwyddiad ym maes parcio aml-lawr terfynell (terminal) 3 yn y maes awyr fore dydd Sul gan gynnwys heddlu arfog.
Cafodd un dyn ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa tra bod ymholiadau'r heddlu’n parhau.
Fe gafodd rhai pobl eu cludo i’r ysbyty ond ni chredir bod eu hanafiadau'n newid bywyd nac yn bygwth bywyd.
Dywedodd y maes awyr fod criwiau wedi bod yn y maes parcio aml-lawr yn nherfynell 3.
Ychwanegodd Gwasanaeth Ambiwlans Llundain fod "digwyddiad sylweddol" wedi'i ddatgan am tua 08:40.
Dywedodd y gwasanaeth eu bod nhw wedi danfon ystod “llawn" o adnoddau ac mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel un sy'n parhau.
Cafodd gwasanaethau'r Tiwb a'r rheilffordd eu amharu, gyda rhywfaint o oedi ar Linell Elizabeth a Llinell Piccadilly.
Dywedodd National Rail yn ddiweddarach fod llinellau wedi'u hailagor gan ganiatáu i drenau alw yn Heathrow ar ôl “i’r gwasanaethau brys ddelio â digwyddiad yn y maes awyr".
Mae Heathrow yn cynghori teithwyr i ganiatáu amser ychwanegol wrth deithio i'r maes awyr ac i wirio gyda'u cwmni hedfan.