Kevin Sinfield yn cwblhau ei her eithafol ddiweddaraf i gefnogi elusen MND

Kevin Sinfield

Mae’r cyn-chwaraewr rygbi’r gynghrair Kevin Sinfield wedi cwbblhau ei her eithafol ddiweddaraf i godi arian i elusen cyflwr Motor Niwron (MND).

Fe ddaeth ei her ddiweddaraf i ben yn stadiwm Headingley yn Leeds brynhawn dydd Sul ar ôl iddo redeg saith marathon ultra mewn saith diwrnod mewn saith dinas neu ranbarth gan gwblhau dros 300 cilomedr ar hyd y ffordd.

Fe ddechreuodd yr her 7 in 7 yn East Anglia ar 1 Rhagfyr ac fe deithiodd i Abertawe ar 3 Rhagfyr gan gwblhau taith o amgylch y ddinas gan gychwyn a gorffen yn stadiwm Swansea.com.

Mae Kevin Sinfield OBE, sydd yn adnabyddus am chwarae dros Leeds Rhinos ac yn ddiweddarach fel hyfforddwr i dîm rygbi’r undeb Lloegr, wedi llwyddo i godi miliynau o bunnoedd dros elusen MND Association dros y blynyddoedd.

Ei ysbrydoliaeth er mwyn gwneud yr heriau oedd cefnogi ei ffrind a chyn cyd-chwaraewr, Rob Burrow, a gafodd ddiagnosis MND yn 2019 a bu farw ym mis Mehefin 2024.

Mae Sinfield a’i gefnogwyr bellach wedi casglu dros £11 miliwn dros yr elusen gan gynnwys dros £1 miliwn am yr her 7 in 7.

Ei nod oedd codi £777,777 ond roedd y cyfanswm dros £1.15 miliwn erbyn y diwedd.

Mae’r rhif 7 yn arwyddocaol i Sinfield oherwydd dyna oedd rhif crys Rob Burrow pan oedd yn chwarae.

Dywedodd Sinfield ar ddiwedd y daith brynhawn dydd Sul: “I’r Gymuned MND a’r bobl rydyn ni wedi’u cyfarfod ar y ffordd, drwy gydol yr wythnos ddiwethaf, drwy gydol y pum mlynedd diwethaf, i bawb rydyn ni wedi’u cyfarfod – rydych chi’n gymuned hollol brydferth.

“Mae’n rhaid i ni barhau i ymladd dros y Gymuned MND.”

Llun: Leeds Rhinos

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.