Angen i weinidog nid comisiynydd gymryd cyfrifoldeb am safonau'r iaith Gymraeg medd Reform
Mae angen i weinidog yn Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich am gynnal safonau’r iaith Gymraeg yn hytrach na rhoi’r cyfrifoldeb i Gomisiynydd yr Iaith, meddai Reform.
Wrth ymddangos ar raglen Politics Wales dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru, James Evans bod angen cael gwared ar dargedau mympwyol.
Awgrymodd hefyd y dylai cyfrifoldebau Comisiynydd yr Iaith gael eu trosglwyddo yn ôl i weinidog y Gymraeg o fewn y llywodraeth.
Ar hyn o bryd Comisiynydd y Gymraeg sydd â’r cyfrifoldeb am osod a gorfodi dyletswyddau drwy safonau’r Gymraeg, a chynnal ymholiadau statudol i ddefnydd yr iaith.
“Rydw i am weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu, ac mae'n tyfu, ond does dim angen y targedau mympwyol a'r comisiynwyr arnom ni,” meddai James Evans.
Ychwanegodd: “Rydyn ni am weld cyfrifoldeb yn cael ei roi yn ôl i weinidogion.
“Bydd gweinidog y Gymraeg yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg fel sydd ar hyn o bryd, a'u cyfrifoldeb nhw fydd dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif am gyflawni.
“Mae angen i weinidogion fod yn atebol am yr hyn maen nhw'n ei wneud, a pheidio â rhoi’r cyfrifoldeb i’r cyrff cwango hyn.”
Dywedodd bod hefyd angen “cyfrifoldeb ehangach ar draws y llywodraeth dros yr iaith Gymraeg - yn y sector addysg, er enghraifft, ac mewn materion gwledig”.
“Mae angen i'r gwasanaeth iechyd gefnogi'r iaith Gymraeg,” meddai.
“Nid wyf yn credu mai comisiynydd na tharged yw'r ffordd orau o wneud hynny.”
Ymateb
Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg, Heledd Fychan AS: “Mae Reform yn honni eu bod yn cefnogi’r Gymraeg, ond mae’n glir mai eu hagenda go iawn yw i wanhau’r iaith. Byddai dileu targedau a chael gwared ar Gomisiynydd y Gymraeg yn golygu colli arfau pwysig i helpu'r iaith i dyfu.
“Mae Plaid Cymru yn gwybod mai dim ond gyda chamau gweithredu sy’n cael eu cefnogi gan nodau clir ac atebolrwydd priodol all yr iaith Gymraeg ffynnu.
“Dyna pam, yn ein cynllun 100 Diwrnod Cyntaf, rydym wedi amlinellu sut y byddwn yn ehangu gofal plant cyfrwng Cymraeg, yn adolygu Cynlluniau Strategol a Chynlluniau Cyflawni’r Gymraeg mewn Addysg i gryfhau targedau lleol, yn dechrau deddfu i amddiffyn ardaloedd dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg, ac yn dechrau gweithio i ymestyn Safonau’r Iaith Gymraeg i gyrff a Llywodraeth y DU sy’n gweithredu yng Nghymru, a gwasanaethau gan gynnwys cyfathrebu, banciau, meysydd parcio ac archfarchnadoedd.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Mae’r iaith Gymraeg yn eiddo i bob un ohonom, ac mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i’n targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wrth i ni adeiladu dyfodol tecach i Gymru.
“Pe bai Reform UK yn gofalu am Gymru a’r iaith Gymraeg, ni fyddent yn camsillafu geiriau Cymraeg ar flaen eu maniffesto eu hunain, ac yn sicr ni fyddent yn treulio cymaint o amser yn bychanu Cymru i lawr trwy honni ei bod wedi torri.”
Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi mynegi pryderon ynghylch cynlluniau “peryglus” Reform ar gyfer yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymru.
Dywedodd y mudiad nad oedd yr iaith yn “ffynnu” ac nad oedd polisïau pendant gan Reform i newid hynny.
“Mae’n amlwg nad oes gan y blaid unrhyw ddiddordeb gwirioneddol yn yr iaith Gymraeg na’n cymunedau, a byddai’r ddau mewn perygl enfawr o dan lywodraeth Reform,” meddai Owain Meirion, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
Mae Newyddion S4C wedi gwahodd y pleidiau eraill i ymateb.
