Rhyddhau delwedd o ddyn a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn cronfa ddŵr ym Mhowys
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhyddhau delwedd ddigidol o ddyn a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn cronfa ddŵr ym Mhowys ym mis Hydref 2024 fel rhan o apêl o'r newydd i'w adnabod.
Mae'r llu wedi gweithio gyda Face Lab ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl i gynhyrchu delwedd realistig o wyneb y dyn wedi bron i 16 mis o ymholiadau i geisio ei adnabod.
Fe dderbyniodd yr heddlu adroddiadau am gorff dyn yng Nghronfa Ddŵr Claerwen yng Nghwm Elan gan gerddwr ar 17 Hydref 2024.
Doedd dim eiddo personol o amgylch y gronfa ddŵr a dim oriawr na gemwaith ar gorff y dyn. Yr unig eitem oedd ar gael i swyddogion i wneud ymholiadau amdano oedd siwt wlyb, neu 'wetsuit'.
Y gred yw ei fod wedi bod yn y dŵr am hyd at 12 wythnos cyn cael ei ddarganfod.
Er gwaethaf yr ymdrechion, nid yw'r dyn wedi cael ei adnabod.
Aflwyddiannus
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting, sydd wedi arwain yr ymchwiliad: “Pan gafodd y darganfyddiad ei adrodd i ni, fe wnaethon ni ddechrau gweithio ar unwaith i sefydlu pwy oedd y dyn hwn.
"Yn sgil absenoldeb eiddo personol heblaw am y siwt wlyb yr oedd yn ei wisgo, a dim dogfennau adnabod na cherbydau gerllaw, fe wnaethon ni ddechrau cydweithio â lluoedd heddlu cyfagos i wirio am bobl oedd ar goll nad oedd wedi cael eu darganfod.
"Pan yr oedd hyn yn aflwyddiannus, fe wnaethom ni ehangu ein hymholiadau i gysylltu â phob llu heddlu yn y DU, yn ogystal â chwilio drwy Gronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu, a chyhoeddi bwletinau i heddluoedd dramor drwy Interpol."
Mae ymholiadau hyd yn hyn wedi caniatáu i'r heddlu gyhoeddi disgrifiad ysgrifenedig o'r dyn, gan ddatgan bod y dyn rhwng 30 a 60 oed, yn chwe troedfedd o daldra, yn pwyso rhwng 202lbs a 220lbs ac o dras Ewropeaidd gwyn.
Mae swyddogion bellach wedi mynd gam ymhellach gan ail-greu ei wyneb drwy ddefnyddio technoleg Face Lab ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl.
Yn ôl y llu, y gobaith yw y gallai rhyddhau delwedd realistig gyrraedd rhywun a allai helpu yn yr achos.
Derbyniodd y tîm yn Face Lab luniau, adroddiad post-mortem, adroddiad deintyddol fforensig a sgan CT o'r dyn a fu farw er mwyn cynhyrchu'r delwedd o'i wyneb.
Wedi i'r ddelwedd 3D gael ei chwblhau, fe ddefnyddiodd Face Lab gyfeiriadau fforensig ar sail rhyw, oedran a nodweddion i greu cyfres o haenau.
'Y cyfle gorau'
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Ponting: "Hyd yma, yr unig eitem sydd wedi bod ar gael i ddatblygu yn ein hymchwiliad oedd y siwt wlyb yr oedd y dyn yn ei wisgo, a wnaeth ein darparu ni â gwybodaeth gyfyngedig o ran ei oedran a'i bwysau.
"O ganlyniad i Face Lab, rydym ni bellach wedi derbyn amcangyfrif clir a manwl o edrychiad y dyn, a dwi wir yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at wybodaeth bositif.
"Mae'r ddelwedd eisoes wedi cael ei phrosesu drwy Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu i weld os oedd rhywbeth yn cyfateb, ac wedi cael ei rannu gydag Interpol, ac rydym ni unwaith eto yn gofyn i'r cyhoedd am eu cymorth.
"Rydym yn teimlo mai dyma'r cyfle gorau i adnabod y dyn oherwydd fe all y llun yma gael ei rannu ar draws y DU a thramor yn ein hymdrechion i'w adnabod."
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Face Lab ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl, yr Athro Caroline Wilkinson: "Mae Face Lab yn cydweithio â lluoedd heddlu o bob cwr o'r byd a gall darlunio wynebau o weddillion dynol weithredu fel teclyn ar gyfer adnabod, a darparu agweddau newydd o'r ymchwiliad i adnabod y dyn."
Mae'r llu yn annog unrhyw un a wnaeth ymweld â Chronfa Ddŵr Claerwen rhwng Gorffennaf a 18 Hydref 2024, ac a welodd unrhyw beth a allai helpu â'r ymholiadau, i gysylltu â nhw.
