Bruin y sbaniel yn dod i'r brig yn sioe gŵn Crufts 2026
Mae sbaniel o'r enw Bruin wedi cael ei goroni yn gi gorau sioe Crufts 2026 yn yr NEC yn Birmingham.
Trechodd Bruin, sy'n bedair oed, o Wlad yr Haf, 18,000 o gŵn eraill o bob cwr o'r byd dros y pedwar diwrnod diwethaf i hawlio prif anrhydedd y sioe ddydd Sul.
Bruin oedd enillydd y grŵp 'Gundog' yn gynharach yn y sioe hefyd.
Dyma'r tro cyntaf i sbaniel math Clumber ennill gwobr ci gorau'r sioe ers 1991.
Dywedodd ei berchenog Lee Cox: “Mae'n anhygoel, beth alla i ei ddweud? Fedra i ddim ei gredu. Diolch yn fawr iawn.
“Mae'n wych i'r brîd hwn. Wyddoch chi, mae'n… am y tro cyntaf yn fy mywyd, dw i'n methu dweud dim.”
Wrth ddisgrifio ei gymeriad, dywedodd Mr Cox: “Ychydig o diva, ychydig fel fi mewn gwirionedd, yn hoffi cael ei ffordd ei hun, yn hamddenol iawn, ond ni fydd byth, byth yn fy siomi.”
Yn gynharach disgrifiodd Bruin fel “cymeriad cartŵn mewn cot wen flewog”.
Llun: PA
