Plant ag anghenion arbennig ym Merthyr yn cael diwrnod mabolgampau 'am y tro cyntaf'

mabolgampau 1.jpg

Bydd diwrnod mabolgampau arbennig yn cael ei chynnal ddydd Sul gan roi’r cyfle i blant sydd ag anghenion arbennig gymryd rhan mewn digwyddiad o’r fath “am y tro cyntaf".

Nod y diwrnod yw caniatáu i blant sydd ag anghenion arbennig yn ardal Merthyr Tudful i allu “fod yn rhan” o’r byd chwaraeon. 

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar safle Ysgol Uwchradd Afon Taf, a hynny gan wirfoddolwyr Spectrum Support Hub sydd yn dathlu blwyddyn ers cael ei sefydlu. 

Tair mam sydd y tu ôl i'r grŵp sydd bellach wedi cefnogi “miloedd” o deuluoedd ar draws y sir dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Image
mabolgampau 2.jpg

Lynne Dockerty yw cadeirydd y clwb, ac ar y cyd gyda Rebbecca Curtis a Rebekah Thomas, maen nhw’n benderfynol o sicrhau bod eu plant a phlant yr ardal yn “cael mynediad at bob dim, yn union yr un fath ag unrhyw blentyn arall".

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Lynne: “Mae’r plant yn haeddu cael yr un cyfleoedd ag unrhyw blentyn arall felly dan ni wedi penderfynu cynnal mabolgampau arbennig ar gyfer unigolion ag anghenion arbennig. 

“Mae rhai o’r plant yn y system addysg prif ffrwd ac nid ydynt erioed wedi cael cyfle go iawn i fod yn rhan o ddiwrnod mabolgampau nac i deimlo eu bod wedi’u cynnwys mewn chwaraeon. 

“Felly efallai y byddai’r diwrnod yn edrych yn wahanol i fabolgampau eraill, ond mae’n gyfle iddyn nhw gael eu cynnwys a mwynhau’r profiad."

Image
mabolgampau 3.jpg

Profiadau newydd

Yn ôl Lynne, dyma’r tro cyntaf iddi gofio digwyddiad o’r fath yn cael ei gynnal ym Merthyr Tudful. 

Mae’n dweud bod ‘na alw am wasanaethau Spectrum Support Hub, gyda theuluoedd o Gaerffili ac Aberdâr yn aml yn teithio i sesiynau’r grŵp. 

Dywedodd bod nifer fawr o’r plant yn ei chael hi’n anodd i “fod pwy ydyn nhw” y tu allan i’r grŵp gan fod pobl eraill yn gallu eu beirniadu.

“Yr hyn dan ni eisiau gwneud yw troi hynny mewn i rywbeth positif oherwydd y gallai hynny effeithio iechyd meddwl eu rhieni hefyd," meddai.

“Dan ni eisiau creu profiadau positif fel y gallai’r plant cael mynediad at bob y mae plant niwro-nodweddiadol (‘neurotypical’) yn eu gwneud hefyd.”

Image
Paul Meek ac Alex
Paul Meek (dde) gyda'i fab Alex (chwith)

Clwb Pêl-droed Heolgerrig Red Lion ym Merthyr sydd yn noddi’r digwyddiad, a hynny er cof am fab cadeirydd y clwb a fu farw.

Bu farw Alex Meek, oedd yn adnabyddus fel sefydlydd clwb pêl-droed merched Heolgerrig Red Lion yn ei dref, i hunanladdiad yn 2023.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Paul Meek mai “dyma beth y byddai Alex eisiau” wrth drafod ei benderfyniad i gefnogi’r digwyddiad. 

Mae Paul bellach wedi darparu crysau i’r plant a fydd yn cymryd rhan yn y mabolgampau “gyda logo Alex ar un ochr a logo Spectrum ar yr ochr arall".

“Fe fydd tîm o Red Lion, yn ogystal â fy merch Gemma, yn mynd yna a fyddwn ni’n trio eu helpu nhw gymaint ag y gallwn ni," meddai.

Os ydy cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.