Apêl yn cyrraedd £20,000 i ailadeiladu Clwb Athletau Penarth

Clwb Rygbi Penarth

Mae ymgyrch codi arian i ailadeiladu Clwb Athletau Penarth wedi cyrraedd £20,000.

Fe gafodd yr adeilad, sydd yn gartref i Glwb Rygbi Penarth, Clwb Criced Penarth, a Chlwb Hoci Menywod Penarth ei ddifrodi'n sylweddol wythnos yn ôl.

Ychydig ddyddiau wedi hynny fe gafodd ymgyrch codi arian ei greu er mwyn ailadeiladu'r clwb a phrynu cyfarpar newydd a gafodd ei golli.

Cafodd sawl eitem werthfawr eu colli hefyd, gan gynnwys rhodd o ben anifail y Springbok a gafodd ei gyflwyno gan dîm rygbi'r Barbariaid wedi iddyn nhw guro De Affrica ym Mharc yr Arfau yn 1961.

Ddydd Sadwrn fe enillodd Clwb Rygbi Penarth eu gêm gyntaf ers y digwyddiad, gyda buddugoliaeth 52-33 yn erbyn Llanbedr Pont Steffan.

Fe gafodd yr ornest ei chwarae ym Mharc yr Arfau, cartref Rygbi Caerdydd.

Ar dudalen yr ymgyrch codi arian mae'r clwb yn dweud bod eu "calonnau wedi torri" ond nad ydyn nhw "am roi'r gorau" i ailadeiladu'r adeilad.

"Mae'r clwb wedi bod yn fwy na lleoliad i chwarae rygbi, criced a hoci, mae'n galon ein cymuned.

"Mae ein calonnau wedi torri, ond nid ydym yn rhoi'r gorau iddi.

"Rydym angen ein cymuned yn fwy nag erioed. Rydym yn codi arian i gychwyn ar waith adeiladu hanfodol, prynu cyfarpar newydd, cefnogi ein timoedd a chadw'r clwb i redeg."

Mae'r clwb wedi gosod targed o £25,000 ar gyfer y gwaith ailadeiladu.

‘Trasig’

Dros yr wythnos diwethaf mae clybiau eraill yn yr ardal wedi cydymdeimlo â’r clwb yn dilyn y tân.

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) a chlwb Rygbi Caerdydd wedi addo rhoi cymorth i'r clwb.

Dywedodd Geraint John, cyfarwyddwr cymunedol URC mai'r dasg gyntaf yw "cael chwaraewyr nôl ar y cae", ac fe ddigwyddodd hynny gyda Chaerdydd yn cynnal gêm Penarth yn erbyn Llanbedr Pont Steffan ddydd Sadwrn.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth Clwb Rygbi’r Barri gynnig benthyg eu cyfleusterau i’r clwb dros dro.

“Mae ein meddyliau a chydymdeimladau gyda chwaraewyr, pwyllgor ac aelodau Clwb Rygbi Penarth.

“Mae hwn yn ddigwyddiad trasig oherwydd rydym yn gwybod bod hanes ein clybiau i’w gweld ar waliau ein clybiau a chartrefi.

"Mae Clwb Rygbi Penarth yn glwb sydd â hanes enfawr ac rydym yn gobeithio eu bod yn gallu ail-adeiladu ac adfer mor fuan â phosib.”



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.