'Dwi eisiau siarad yr iaith gyda fy nheulu': Y comedïwr Mike Bubbins yn dysgu Cymraeg
'Dwi eisiau siarad yr iaith gyda fy nheulu': Y comedïwr Mike Bubbins yn dysgu Cymraeg
Mae'r comedïwr Mike Bubbins wedi herio'i hun i ddysgu Cymraeg, a hynny yn y gobaith o allu "siarad Cymraeg gyda'i deulu".
Mae cyfres newydd ar S4C 'Mike Bubbins: Un Mewn Miliwn' yn dilyn taith y comedïwr, a gafodd ei fagu yn y Barri, dros gyfnod o flwyddyn wrth iddo ddysgu'r iaith.
Mae Mike wedi ceisio dysgu Cymraeg o'r blaen, ond mae'n benderfynol o lwyddo y tro hwn mewn addewid i'w ferch, Elli.
"Dwi’n Gymro," meddai Mike wrth Newyddion S4C.
"Dwi’n meddwl bod e’n bwysig i fi ddysgu Cymraeg achos mae fy mhlant yn mynd i ysgol Gymraeg felly dwi eisiau siarad Cymraeg gyda fy nheulu."
Yn ystod ei flwyddyn o ddysgu, mae Mike wedi cael y cyfle i ymarfer ei iaith gyda sawl person gwahanol.
"Siarad Cymraeg gyda Syr Gareth Edwards yn Parc yr Arfau, siarad Cymraeg gyda Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan yn y Senedd, a siarad Cymraeg gyda fy merch Elli yn y gegin," meddai.
Mae'r seren Mammoth yn dychwelyd i'w hen ysgol i weld sut mae'r genhedlaeth nesaf yn cael eu trochi yn yr iaith Gymraeg.
"Roeddwn i’n nerfus am anfon fy mhlant i ysgol Gymraeg pan oedden nhw’n fach,” meddai.
“Syniad fy ngwraig oedd hynny mewn gwirionedd. Doedden i ddim yn siŵr amdano o gwbl, oherwydd mae’r Saesneg yn bwysig os ydych chi’n byw yn y wlad hon, ond maen nhw’n caru fe. Eu cenhedlaeth nhw fydd y genhedlaeth i drwsio fe."
Ag yntau yn cyflwyno'r podlediad The Socially Distant Sports Bar, mae Mike yn dweud y byddai'n dymuno cyflwyno podlediad yn y Gymraeg un diwrnod hefyd.
Dywedodd Anna Fflur Jones, Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Caerdydd wrth Newyddion S4C: "Mae o'n hanfodol bo' ni'n cael rywun mor uchel ei broffil â Mike Bubbins wedi dod i ddysgu Cymraeg efo ni yma yn Dysgu Cymraeg Caerdydd, gobeithio bo' hwnna wedyn yn denu pobl eraill.
"Dangos iddyn nhw os ydi Mike Bubbins yn gallu gwneud hyn, mi ydw inna hefyd felly mae o'n ysbrydoli cenhedlaeth newydd i ddod ata ni ag yn siaradwyr newydd."
Mae Mike hefyd yn gobeithio y bydd yn dod yn un o'r miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Hoffwn i fod yn un o’r miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dwi’n meddwl bod hynny’n realistig, traean o’r boblogaeth," meddai.
" Dwi eisiau bod yn un mewn miliwn, dyna’r cynllun.”
Ychwanegodd Anna Fflur Jones: "Mae o'n galonogol iawn i ni glywed fod Mike isio bod yn un o'r miliwn yna, ma'n holl waith ni yn cael ei arwain gan y targed yna a'r flaenoriaeth sydd gan Llywodraeth Cymru a wedyn drwy law y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sydd yn ariannu ni.
"Mae o'n wych bo' 'na rywun fel ffigwr cyhoeddus yn helpu ni tuag at y targed."
Fe fydd pennod gyntaf 'Mike Bubbins: Un Mewn Miliwn' yn cael ei darlledu ar S4C nos Sul am 20:00, ac ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer.