Meta yn cytuno i setliad o hyd at $18 biliwn dros honiadau o niwed i blant
Mae Meta wedi cytuno i dalu hyd at $18 biliwn a chyflwyno cyfyngiadau newydd ar Facebook ac Instagram er mwyn datrys honiadau bod y llwyfannau wedi niweidio plant a phobl ifanc.
Roedd 29 o daleithiau ar draws America wedi honni bod Meta wedi cynllunio’r llwyfannau mewn ffordd oedd yn gwneud plant yn gaeth iddyn nhw, wedi camarwain defnyddwyr am eu diogelwch ac wedi casglu data personol plant yn amhriodol.
Mae'r setliad yn datrys hawliadau cyfreithiol gafodd eu dwyn gan 29 o daleithiau ac yn dod â threial ffederal yng Nghaliffornia oedd wedi cael cryn sylw i ben.
Mae Meta wedi gwadu’r honiadau yn ei erbyn.
Cyfyngiadau newydd
Dan delerau'r cytundeb, bydd defnyddwyr yn eu harddegau yn cael eu cyfyngu, yn ddiofyn, i gyfanswm o ddwy awr y dydd ar Facebook ac Instagram.
Ni fydd amser sy'n cael ei dreulio'n anfon negeseuon neu'n gwylio cynnwys hir yn cyfrif tuag at y terfyn hwnnw.
Bydd seibiant gorfodol hefyd yn ymddangos ar ôl 15, 60 a 90 munud o ddefnydd, a bydd mynediad at brif nodweddion y llwyfannau yn cael ei rwystro rhwng hanner nos a 06:00.
Bydd hysbysiadau yn cael eu diffodd yn ystod oriau ysgol, a bydd angen caniatâd rhiant i lacio'r cyfyngiadau.
Gwirio oedran
Mae Meta hefyd wedi cytuno i gryfhau'r ffordd maen nhw'n gwirio oedran a'i reolaethau i rieni, yn ogystal â chyfyngu ar gynnwys yn ymwneud â bwlio, anhwylderau bwyta, hunan-niweidio a hunanladdiad.
Bydd rhai filters harddwch a nodweddion sy'n dangos faint o bobl sydd wedi hoffi cynnwys hefyd yn cael eu cyfyngu.
Bydd y newidiadau yn cael ei asesu'n rheolaidd gan archwiliwr annibynnol.
Roedd yr achos ffederal yn cynnwys honiadau bod Meta wedi casglu data gan ddefnyddwyr yr oedd yn gwybod eu bod yn blant, heb roi gwybod i'w rhieni na chael eu caniatâd.
Honnwyd hefyd bod y cwmni wedi defnyddio'r wybodaeth i hyfforddi modelau dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (generative AI.)
Mae Meta wedi dadlau ers tro nad yw caethiwed i gyfryngau cymdeithasol yn cael ei gydnabod fel cyflwr seiciatrig.
Mae cytundeb dydd Mercher hefyd yn datrys achosion gan Galiffornia, Illinois, New Mexico a Washington DC ynghylch honiadau preifatrwydd yn ymwneud â sgandal Cambridge Analytica.
Bydd y taleithiau hynny'n derbyn cyfanswm o $459.3 miliwn.
Roedd Cambridge Analytica wedi casglu data personol miliynau o ddefnyddwyr Facebook heb eu caniatâd.
Mae Meta a'r cwmnïau y tu ôl i Snapchat, YouTube a TikTok yn dal i wynebu miloedd o achosion eraill dros honiadau eu bod wedi cynllunio eu llwyfannau i fod yn gaethiwus i blant a phobl ifanc.
Yn gynharach eleni, cafodd Meta orchymyn i dalu $375 miliwn yn New Mexico ar ôl i reithgor benderfynu bod y cwmni wedi camarwain defnyddwyr ynghylch diogelwch ei lwyfannau.
Cafodd y cwmni orchymyn hefyd i dalu $567 miliwn ychwanegol i gronfa iechyd meddwl pobl ifanc.
Mae Meta wedi dweud y bydd yn apelio.
Cynlluniau'r DU
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i wahardd llwyfannau cyfryngau cymdeithasol rhag cynnig eu gwasanaethau i blant dan 16 oed.
Byddai'r gwaharddiad yn cynnwys Facebook, Instagram, Snapchat, TikTok, YouTube ac X, ond nid gwasanaethau negeseuon fel WhatsApp a Signal.
Mae disgwyl i'r rheoliadau cyntaf gael eu gosod gerbron Senedd y DU erbyn diwedd 2026, gyda'r mesurau'n dod i rym yng ngwanwyn 2027.
Mae'r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi cyrffyw cyfryngau cymdeithasol diofyn rhwng hanner nos a 06:00 ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed.
Bydd nodweddion fel fideos sy'n chwarae'n awtomatig a ffrydiau diddiwedd o gynnwys personol hefyd yn cael eu diffodd yn ddiofyn ar gyfer y grŵp oedran hwnnw.