Cwest: Yr Athro Jason Arday wedi marw 'o achosion annaturiol'

Jason Arday

Mae cwest wedi clywed bod yr Athro Jason Arday wedi marw "o achosion annaturiol" yn ei gartref yn ne Llundain.

Daeth aelodau o’i deulu o hyd i’r Athro Arday yn “anymatebol” yn ei gartref yn Battersea brynhawn 14 Awst.

Fe gafodd cwest ei agor yn Llys Crwner De Canol Llundain ddydd Mercher.

Roedd y dyn 41 oed wedi ymddiswyddo o’i swydd fel athro cymdeithaseg addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt yn gynharach ym mis Awst.

Daeth yr Athro Arday i sylw rhyngwladol yn sgil honiadau yn y wasg am lên-ladrad yn ei waith academaidd a ffugiadau mewn cofnodion hunangofiannol. 

Dywedodd yr uwch-grwner, Dr Julian Morris: “Mae’r gwahanol adroddiadau wedi rhoi rheswm i mi amau bod yr Athro Arday wedi marw o achosion annaturiol 12 diwrnod yn ôl.

“Felly, mae’n rhaid i mi agor ymchwiliad. Byddaf yn rhoi cyfarwyddiadau pellach i swyddog y crwner.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.