Deuddeg o Brydain ymhlith cannoedd ar goll wedi llifogydd yn Nepal

Nepal

Mae 12 dinesydd Prydeinig ymhlith cannoedd o bobl sydd ar goll wedi i lifogydd enfawr daro rhannau o Nepal.

Cafodd y llifogydd pwerus yn rhanbarth Rasuwa, sy'n agos i'r ffin â Tibet yn China, ei ysgogi gan dirlithriad ddaeth â rhew a chreigiau i lawr o'r mynyddoedd.

Yn ôl bwrdd twristiaeth y wlad, mae 384 o ymwelwyr ar goll, gan gynnwys dinasyddion India, yr Unol Daleithiau a Malaysia, yn ogystal ag ymwelwyr o Nepal ei hun.

Dywedodd yr awdurdodau lleol bod afon Bhotekoshi wedi gorlifo fore Mercher, gan ddinistrio sawl pentref yn ogystal â ffyrdd a phrosiectau trydan dŵr. Mae lluniau o'r ardal yn dangos pentrefi wedi eu gorchuddio â dŵr mwdlyd, trwchus.

Hyd yma, mae swyddogion wedi cadarnhau bod wyth person wedi marw, ond mae'r niferoedd yn debygol o gynyddu'n sylweddol.

Llun: Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.