O leiaf 25 o bobl wedi marw yn dilyn tân mewn clwb nos yn India

Clwb nos Goa

Mae dau ddeg pump o bobl wedi cael eu lladd yn dilyn tân mewn clwb nos poblogaidd yn rhanbarth arfordirol Goa yn India.

Yn ôl adroddiadau lleol mae staff a thwristiaid ymhlith y meirw.

Mae'r heddlu'n credu bod silindr nwy wedi ffrwydro yng nghegin y clwb, gan achosi i dân ledu trwy'r adeilad am hanner nos amser lleol nos Sadwrn.

Dywedodd swyddogion fod chwech o bobl mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Dywedodd prif weinidog Goa, Pramod Sawant, wrth newyddiadurwyr fod "tri i bedwar" o dwristiaid wedi marw ond ni roddodd eu hoedran na'u cenedligrwydd.

Mae'r Indian Express yn adrodd bod y tân wedi torri allan mewn clwb o'r enw Birch ar un o draethau mwyaf poblogaidd yr ardal.

Llun: Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.