Marchnad Nadolig Caerdydd 'mor bwysig' i ddangos 'beth sydd gan Gymru i gynnig'

Marchnad Nadolig Caerdydd 'mor bwysig' i ddangos 'beth sydd gan Gymru i gynnig'

Wrth i nifer ddechrau paratoi ar gyfer ‘Dolig eleni, mae busnesau annibynnol wedi sôn am bwysigrwydd marchnad boblogaidd yn y brifddinas er mwyn gallu dangos “be’ sydd gyda Chymru i gynnig.” 

Ac wrth i Farchnad Nadolig Caerdydd ddathlu 31 mlynedd ers cael ei sefydlu, mae nifer yn falch o allu cael y cyfle i barhau i werthu eu cynnyrch wyneb yn wyneb.  

Mae Llŷr Morris o Lanelli yn cyd-berchennog ar gwmni canhwyllau Milltir Sgwâr, hynny gyda’i wraig Llinos Hallet sy’n wreiddiol o Frynaman. 

Image
Llyr Morris
Llŷr Morris 

Wedi iddyn nhw ymgartrefu yn Nhrelluest yng Nghaerdydd fe sefydlodd y gŵr a gwraig eu cwmni adeg y cyfnod clo yn 2020, ac mae Cymru wrth wraidd eu gwaith. 

“Ni’n neud canhwyllau soy sy’n seiliedig ar ardaloedd gwahanol o Gymru,” esboniodd Llŷr wrth Newyddion S4C.  

“Ni’n trio plethu arogleoedd yr ardal gyda’r gannwyll – amser chi’n cynnau’r gannwyll mae’n atgoffa chi o’ch milltir sgwâr.” 

Image
Canhwyllau

Dyma fydd y chweched flwyddyn yn olynol i’r cwmni gwerthu eu cynnyrch ym Marchnad Nadolig Caerdydd, ac mae’n gyfle i ddathlu cynnyrch a chrefftwyr Cymreig, medd Llŷr. 

“Mae lot o bobl yn dod o bant i ddod i Gaerdydd a maen nhw’n gallu gweld cwmnïau fel un ni sy’n siarad Cymraeg, gyda cynnyrch Cymraeg. 

“So mae lot o bobl yn gweld rhywbeth gwahanol falle bydden nhw ddim yn os bydden nhw’n mynd i rai yn Lloegr.”

'Pwysig i'r teulu'

Dywedodd nifer o berchnogion bod y digwyddiad, sy’n para rhwng 13 Tachwedd a 23 Rhagfyr, yn hollbwysig iddyn nhw o ran cynnal eu busnesau trwy gydol y flwyddyn. 

Ac yn ôl Jane Hall, rheolwr gweithredu Craft*folk sy’n gyfrifol am drefnu’r Farchnad ‘Dolig, mae eu presenoldeb hefyd yn hwb i fusnesau eraill yng nghanol y ddinas hefyd. 

Mae’r cwmni gwin teuluol o Gaerfyrddin, Celteg, wedi bod yn cymryd rhan ym Marchnad ‘Dolig Caerdydd ers degawd bellach. 

Image
Ryan Shipp
Ryan Shipp

“Mae’n bwysig iawn,” medd Ryan Shipp. “Odd dad fi [Neil Shipp] wedi dechrau fe, ond nawr ni’n ‘neud e. 

“Mae’n bwysig i’r teulu ‘neud e achos mae'n rhaid i ni gael arian. Mae pobl yn bendant yn fwy parod i ddod i’r Farchnad Nadolig.”

Image
Gail Griffiths-Warner
Gail Griffiths-Warner

Mae Gail Griffiths-Warner o Bontypridd hefyd wedi cynnal stondin bob blwyddyn ers iddi sefydlu ei busnes The Unique Cushion Co. bum mlynedd yn ôl. 

“Dyma yw adeg y flwyddyn ble dan ni’n ‘neud y rhan fwyaf o’m harian. 

“Mae lot o bobl yn dweud eu bod yn hapus iawn i wario arian ar fusnes annibynnol… ac mae nifer yn dweud eu bod wedi rhoi’r gorau i siopa ar-lein ac yn penderfynu dod i’r marchnadoedd Nadolig yn benodol.” 

Image
Cynnyrch

'Costau byw'

Ond mae rhai wedi dweud eu bod yn teimlo rhyw faint o bryder gan ddweud bod yna lai yn ymweld â’r cabanau yng nghanol y ddinas eleni. 

Mae Gaynor Knight o Riwbeina, Caerdydd yn helpu ei ffrind a pherchennog cwmni canhwyllau Gweni, Amanda James, cynnal ei stondin trwy gydol y mis. 

“Yn ôl Amanda, ‘odd hi’n teimlo bod yna ostyngiad yn y gwerthu, a dwi’n gallu deall pam,” medd Gaynor.  

“Mae costau byw yn uchel a dweud y gwir dyw hwn ddim yn rheidrwydd, moethusrwydd yw prynu cannwyll ynde fe?” 

Image
Gaynor Knight gyda chwsmer
Gaynor Knight gyda chwsmer

Tywydd garw yw un o’r pryderon mwyaf wrth gynnal y stondinau, medd Agnieszka Garwacka sy’n wreiddiol o Wlad Pwyl. 

A hithau wedi ymgartrefu yng Nghymru ers 20 mlynedd bellach, mae perchennog y busnes dillad Nesting Tendencies, yn dweud mai dyma yw’r gaeaf gwaethaf y mae wedi ei gweld. 

Ond mae’n ddiolchgar bod pobl yn fodlon prynu eitemau gan grefftwyr a busnesau annibynnol o hyd, meddai. 

“Dwi’n ymwybodol iawn y gallai pobl mynd i’r archfarchnad a phrynu rhywbeth a fyddai’n perfformio yn yr un modd am ffracsiwn o’r gost. 

“Ond mae’r ffaith bod pobl yn parhau i ddod ac yn penderfynu gwario eu harian ar bobl go iawn sy’n lleol i’r ardal, mae hwnna’n hynod o werthfawr i mi.

Image
Nesting Tendencies
Agnieszka Garwacka

'Rhan fawr o Nadolig yng Nghaerdydd'

Dywedodd Jane Hall fod nifer y bobl sy’n ymweld â Marchnad Nadolig Caerdydd yn amrywio o ddydd i ddydd, gyda’r tywydd yn cael effaith mawr ar nifer y cwsmeriaid. 

A hithau wedi bod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad ers 25 mlynedd, mae’n dweud fod y niferoedd eleni yn debyg iawn i’r hyn a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf. 

“Dan ni’n gwybod mai ni fyddai un o’r prif resymau dros gynnydd yn nifer y bobl sy’n ymweld â chanol y ddinas yn ystod Tachwedd a Rhagfyr. 

“Yn ogystal ag ymweld â’r stondinau, mae pobl hefyd yn ymweld â siopau parhaol gan hybu gwerthiant yn gyffredinol.” 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd bod y Marchnad yn “rhan bwysig o'r arlwy ers blynyddoedd maith.” 

“Maent yn parhau i fod yn rhan fawr o'r hyn sy'n gwneud y Nadolig yng Nghaerdydd yn arbennig,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.