Ysgol Dyffryn Aman: Arestio bachgen 14 oed ar amheuaeth o fygwth lladd
Mae’r heddlu'n dweud eu bod nhw wedi arestio bachgen yn ei arddegau ac wedi gweithredu i ddiogelu disgyblion yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Gwener.
Fe gafodd bachgen 14 oed ei arestio ar amheuaeth o fygwth lladd yn dilyn adroddiadau am negeseuon a anfonwyd dros y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw wedi derbyn adroddiad am negeseuon bygythiol yn cael eu hanfon ddydd Gwener, Hydref 17.
Fe arweiniodd hynny at gymryd camau i ddiogelu disgyblion yn Ysgol Dyffryn Aman, yn Rhydaman.
Fe gafodd y bachgen 14 oed ei arestio nos Wener, ac mae ymholiadau'n parhau.
Dywedodd y Prif Arolygydd Mike Llewellyn: “Hoffwn sicrhau rhieni, a'r gymuned ehangach, y cymerwyd camau cyflym i ddiogelu disgyblion ac i ddod o hyd i’r unigolyn sydd dan amheuaeth cyn gynted ag y derbyniwyd yr adroddiad hwn.
“Efallai y byddwch yn sylwi ar bresenoldeb heddlu uwch na'r arfer yn yr ardal dros y dyddiau nesaf.
“Bydd y rhain yno er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i'r rhai sy'n byw ac yn mynychu'r ysgol yn yr ardal.”
Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin bod yr ysgol wedi ei gloi ei lawr er budd diogelwch disgyblion a staff am gyfnod byr brynhawn ddydd Gwener, a bod y gwersi wedi parhau.