'Gwobr fawr': Aaron Ramsey yn cynnig $20,000 er mwyn dod o hyd i’w gi
Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey, wedi dyblu y wobr ariannol er mwyn dod o hyd i’w gi Halo i $20,000 mewn doleri Americanaidd.
Mae’r ci bellach wedi bod ar goll ers bron i bythefnos ym Mecsico.
Ac mae cyn-chwaraewr canol cae Arsenal a Chaerdydd wedi bod yn defnyddio ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol i apelio am unrhyw wybodaeth i geisio dod o hyd i anifail anwes y teulu.
Mewn neges ar ei gyfrif Instagram mae bellach wedi cynnig “gwobr fawr” er mwyn dod o hyd i’w gi.
Mae'r chwaraewr 34 oed ar hyn o bryd yn chwarae i dîm y Pumas ym Mecsico, ac fe gafodd y neges ei chyhoeddi mewn Sbaeneg (iaith swyddogol y wlad).
“Gwobr o $20,000 am ddod o hyd i Halo,” meddai.
Mewn neges arall dywedodd ei fod ef a’i deulu “i gyd yn gweddïo ei bod hi'n iawn fel y gall fod yn ôl gyda ni yn fuan.”
Inline Tweet: https://twitter.com/aaronramsey/status/1979181771129262461
Mae ei negeseuon ar wefan X (Twitter gynt) wedi ei gweld gan ddegau o filoedd o bobl ers iddo ddechrau apelio am gymorth.
Fe ddywedodd yn wreiddiol fod Halo wedi mynd ar goll yn ardal San Miguel de Allende yn Guanajuato.
Nid oedd Ramsey, sydd â 86 cap dros ei wlad, yn rhan o garfan Cymru ar gyfer y gemau rhyngwladol y mis hwn oherwydd anaf.