‘Diolchgar’: Digwyddiad arbennig i gofio ‘ystod eang’ gwaith Geraint Jarman
Mae gwraig y ddiweddar Geraint Jarman wedi dweud y bydd digwyddiad arbennig i ddathlu ei fywyd a gwaddol yn gyfle i “gofio am ei ystod eang o waith”.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi y digwyddiad arbennig i ddathlu bywyd y canwr, bardd a'r cynhyrchydd teledu a fu farw ar 2 Mawrth eleni yn 74 oed.
Bydd y noson yn cael ei chynnal ar 27 Tachwedd 2025 yng ngofod Cabaret Canolfan Mileniwm Cymru.
Bydd unrhyw roddion o werthiant tocynnau yn mynd i gronfa newydd Ymddiriedolaeth Geraint Jarman “wedi’i hysbrydoli gan ei fywyd a’i waith i gefnogi creadigrwydd lleisiau newydd o bob cefndir a chymuned”.
Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu gyda chefnogaeth teulu Geraint, sydd wedi gweithio gyda thîm archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddewis uchafbwyntiau o’i yrfa.
Wrth siarad ar ran y teulu a’i ferched, Lisa, Hanna a Mared, dywedodd ei wraig weddw Nia Caron ei fod yn “bwysig i ni fel teulu fod Geraint yn cael ei gofio am ei ystod eang o waith”.
“Mae cymaint o bobl yn ei adnabod fel canwr-gyfansoddwr medrus, ond roedd yn diddori mewn llawer mwy, yn cynnwys radio, ffilm a theledu,” meddai.
“Gyda dyfodiad S4C fe lwyddodd i wireddu ei weledigaeth gyda rhaglenni fel Fideo 9.
“Rydym yn ddiolchgar i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am ei anrhydeddu yn y ffordd arbennig hon.”
'Eicon'
Fel rhan o’r noson sydd mewn partneriaeth ag Archif Ddarlledu Cymru bydd y darlledwraig Lisa Gwilym, a weithiodd yn agos gydag ef am flynyddoedd lawer, yn cadeirio panel o gydweithwyr a ffrindiau, gan rannu ac archwilio cyfoeth o luniau a sain archif.
Gyda’i gilydd, byddant yn tywys y gynulleidfa drwy uchafbwyntiau o’i archif, gan gwmpasu actio, cyflwyno, cynhyrchu, a’i yrfa nodedig fel canwr a chyfansoddwr, medden nhw.
Ymhlith y clipiau a fydd yn cael eu rhannu ar y noson mae recordiadau ohono yn lleisio’r Superted poblogaidd a’r Smurfs Cymreig, ynghyd â chynyrchiadau teledu fel Fideo 9, Criw Byw a Grito’r Hewl i Fethlehem.
Bydd ei berfformiadau cerddorol yn rhychwantu’r degawdau, gan ddechrau gyda’i wreiddiau reggae ym Mae Caerdydd.
Bydd y panelwyr yn trafod uchafbwyntiau ei archif ar y noson yn cynnwys Keith Murrell, a weithiodd gyda Geraint yn gynnar yn ei yrfa ganu; Dafydd Rhys o Gyngor Celfyddydau Cymru, cydweithiwr ym myd darlledu am flynyddoedd lawer; a’r actores Sue Roderick, a fydd yn myfyrio ar yrfa actio a chyflwyno Geraint, gan gynnwys ei rôl fel PC Gordon Hughes ochr yn ochr â hi yn Glas y Dorlan (1977).
Bydd gwesteion ychwanegol o bob rhan o fywyd proffesiynol Geraint Jarman hefyd yn bresennol, yn rhannu atgofion a mewnwelediadau, meddai’r trefnwyr.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Roedd Geraint Jarman yn eicon gwirioneddol o ddiwylliant Cymru, ac mae ei waith yn cwmpasu cymaint o feysydd, o gerddoriaeth i ddarlledu i actio.
“Mae Archif Darlledu Cymru yn bodoli i gadw a rhannu’r lleisiau a’r straeon sydd wedi llunio Cymru fodern, ac mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddathlu cyfraniad rhyfeddol Geraint Jarman.
“Drwy arddangos ei archif yn y digwyddiad byw hwn ac yn ddiweddarach ar-lein, rydym yn rhoi cyfle i bobl archwilio lled ei dalent a gweld yr effaith barhaol a gafodd ar ein bywyd diwylliannol.
“Gobeithiwn y bydd pawb yn ymuno â ni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru neu ar-lein i ddarganfod ac anrhydeddu ei etifeddiaeth nodedig.”
Mae Archif Ddarlledu Cymru yn bartneriaeth rhwng y Llyfrgell, ITV Cymru Wales, BBC Cymru Wales, ac S4C.
Mae tocynnau i “Geraint Jarman – Cofio’r Dyn ei Hun”, gyda rhoddion awgrymedig i Ymddiriedolaeth Geraint Jarman bellach ar gael o www.wmc.org.