
Cynnal gorymdaith dros annibyniaeth yn Y Rhyl
Fe gafodd gorymdaith o blaid annibyniaeth yng Nghymru ei chynnal yn Y Rhyl heddiw, gyda'r trefnwyr yn dweud bod 2,000 yn bresennol.
Dyma’r 10fed orymdaith gan YesCymru a AUOBCymru ers y cyntaf yng Nghaerdydd yn 2019.
Dywedodd Bleddyn Williams, un o’r trefnwyr lleol eu bod nhw wedi "dewis Rhyl am reswm".
"Ystad y Goron sy’n berchen ar ffermydd gwynt oddi ar ein harfordir, ond mae’r elw’n llifo i San Steffan yn lle bod o fudd i bobl gogledd Cymru," meddai.
"Dyma’r enghraifft ddiweddaraf o pam na all Cymru ddibynnu ar San Steffan i weithredu er ein lles ni – waeth pa blaid sydd mewn grym."
Fe wnaeth yr Aelod o’r Senedd dros yr etholaeth, Gareth Davies, feirniadu'r orymdaith gan ddweud bod yr ymgyrchwyr wedi eu “cludo ar fws o rannau eraill o Gymru”.

Ymysg y siaradwyr oedd wedi eu trefnu ar gyfer y rali oedd Llŷr Gruffydd AS, sy'n cynrychioli Gogledd Cymru dros Blaid Cymru, a Phil Davies, Dirprwy Arweinydd Plaid Werdd Cymru.
Dywedodd Llŷr Gruffydd: "Dylai Cymru fod yn genedl gyfoethog - rydym yn gyfoethog o ran ynni, dŵr, cynhyrchu bwyd ac adnoddau naturiol, ond nid yw pobl Cymru yn gweld y cyfoeth hwnnw yn eu cymunedau.
“Rydym yng nghefn y ciw o ran buddsoddi yn y Deyrnas Gyfunol.”
Dywedodd Phil Davies: "Rwy’n edrych ymlaen at wneud achos clir Plaid Werdd Cymru dros Weriniaeth gwbl annibynnol Gymreig - yn rhydd o faglau San Steffan a’r Frenhiniaeth - annibyniaeth sy’n gwneud bywydau pobl yn well.”
‘Rhoi darlith’
Ond dywedodd yr Aelod o’r Senedd Ceidwadol dros Ddyffryn Clwyd, Gareth Davies, bod yr ymgyrchwyr yn “ceisio rhoi’r argraff bod cefnogaeth yn lleol o blaid chwalu'r Deyrnas Unedig”.
“Y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o bobl wedi teithio yma neu wedi cael eu cludo ar fws o rannau eraill o Gymru i orymdeithio o amgylch canol y dref gan wneud llawer o sŵn,” meddai.
“Nid ydynt yn ymweld gyda'r bwriad o wrando ar bryderon pobl leol, ond i roi darlith i bobl ar eu fersiwn nhw o Gymreictod.”
Ychwanegodd: “Gobeithio y byddan nhw'n gwario llawer o arian yn ein busnesau lleol yng nghanol y dref cyn mynd yn ôl i Aberystwyth, Gwynedd a Cheredigion.”

Yn dilyn yr orymdaith, fe fuodd rali ac areithiau yn yr Arena Digwyddiadau gyda cherddoriaeth fyw gan TewTewTennau, Tara Bethan a Jacob Elwy, ymysg eraill.
Dywedodd Tara Bethan, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Tara Bandito, a gafodd ei magu yn y Rhyl bod yr orymdaith yn profi bod "gyda ni'r gallu a'r adnoddau i sefyll yn dal fel cenedl annibynnol".
Mae gorymdeithiau eraill dros annibyniaeth wedi digwydd yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr Tudful (2019), Caerdydd a Wrecsam (2022), Abertawe a Bangor (2023), Caerfyrddin (2024), a’r Barri yn gynharach eleni.