Teyrnged i aelod o dîm y Scarlets a drechodd y Crysau Duon

Roy Shunto Thomas

Mae teyrnged wedi’i rhoi gan y Scarlets i ddyn na wnaeth erioed ennill cap i Gymru – ond a drechodd ddau dîm cenedlaethol serch hynny.

Roedd Roy 'Shunto' Thomas, sydd wedi marw yn 82 oed, yn aelod o dîm Llanelli a drechodd y Crysau Duon 9–3 ym Mharc y Strade yn 1972.

Roedd y dyn o Benclawdd ar Benrhyn Gŵyr hefyd yn aelod o dîm Abertawe a fu’n fuddugol yn erbyn Awstralia yn St Helen’s ym 1966.

Er nad enillodd gap dros Gymru, eisteddodd ar y fainc dros ei wlad ddim llai na 26 o weithiau heb fynd ar y cae unwaith, pan oedd yn ddirprwy i Jeff Young a Bobby Windsor.

Roedd ar y fainc drwy gydol ymgyrchoedd y Pum Gwlad yn 1972, 1974, 1975 a 1976 heb lwyddo i gael munud o chwarae.

Fe ddechreuodd i Ddwyrain Cymru mewn gêm ddi-gap yn erbyn Tonga ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd ym mis Hydref 1974.

Daeth ei lysenw, nid o 'shunto' y pac ar y cae rygbi, ond o’i dad, a oedd â’r gwaith o symud y wagenni o gwmpas yn y pwll glo.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd y Scarlets: “Rydym yn drist iawn o glywed am farwolaeth Roy ‘Shunto’ Thomas, aelod o dîm Llanelli a gurodd y Crysau Duon ym 1972.

“Chwaraeodd Roy 184 o gemau i’r clwb rhwng 1970 a 1977. Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Roy.”

Llun: Y Scarlets.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.