Cludo disgybl o Ynys Môn i'r ysbyty wedi digwyddiad yn ymwneud â sylwedd mewn fêp

Zack Masters-Mazzone

Mae mam i blentyn o Ynys Môn wedi rhybuddio am beryglon fepio ar ôl i’w mab gael ei gludo i’r ysbyty oherwydd sgil effeithiau ‘sylweddau amheus’ mewn fêp.

Dywedodd Beth Masters-Mazzone o Gaergeiliog bod ei mab 14 oed, Zack, sydd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Bodedern, wedi cymryd tro ar fêp yn ystod cyfnod egwyl ddydd Iau.

Fe wnaeth Zack fynd “yn wael iawn” ac yn anwybodol yn fuan ar ôl dod i gyswllt â’r fêp, yn ôl ei fam.

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd Ms Masters-Mazzone ei galw i'r ysgol ac fe gludodd ei mab yn syth i’r ysbyty.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau ddydd Gwener eu bod wedi dechrau ymchwiliad i’r digwyddiad.

Nid oedd yr ysgol am wneud unrhyw sylw am y mater, ond dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn eu bod yn "cefnogi’r ysgol gyda’i ymateb a llesiant y disgyblion."

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Ms Masters-Mazzone: “Yn wirion, fe wnaeth Zack gymryd ychydig o fêp rhywun ar egwyl yn yr ysgol heddiw ac fe aeth yn wael iawn, yn wan ac roedd yn gwbl anymwybodol am bedair awr, hyd yn oed gyda doctoriad a nyrsus yn gwneud popeth i’w ddeffro, nid oedd yn ymateb i brofion poen hyd yn oed.

Image
Ysgol Uwchradd Bodedern

“I weld fy mab yn eistedd yn y car ac yng ngwely’r ysbyty yn gwbl ddi-fywyd, ac yn cael ei gario i mewn i’r ysbyty, mae’n boen na allaf egluro.

"Fe allai fod hwn wedi lladd fy mhlentyn! Fe allwn ni fod wedi bod yn egluro i dri plentyn ifanc heno [nos Iau] pam nad oedd eu brawd fyth yn dod adref."

Fe wnaeth Ms Masters-Mazzone gadarnhau ddydd Gwener fod Zack bellach yn "effro ac yn ymateb, ond yn flinedig iawn ac yn wan."

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi eu galw i'r ysgol ddydd Iau yn dilyn y digwyddiad.

Mae swyddogion y llu yn bresennol yn yr ysgol ddydd Gwener i siarad â disgyblion, wrth i ymchwiliad i'r dygwyddiad barhau.

Dywedodd y Prif Arolygydd, Jon Aspinall, mai eu blaenoriaeth yw i “ddiogelu unrhyw bobl ifanc yn yr ardal rhag niwed.

“Mae digwyddiadau o’r math yma yn brin, ac rydym yn cymryd hyn yn ddifrifol iawn, ac i ddarganfod amgylchiadau'r digwyddiad ddoe,” meddai.

“Rydym eisoes wedi dechrau gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu mwy o addysg i rieni a phobl ifanc ynglŷn â'r pwnc a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hyn yn fuan.

“Mae ein hymchwiliadau’n parhau, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad yma i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.

“Gall rhieni a gofalwyr ddod o hyd i wybodaeth am risgiau fêps ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.”

'Cefnogi'r ysgol'

Wrth ymateb i'r digwyddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc Cyngor Môn, Aaron C. Evans:

“Yn gyntaf oll, dymunwn wellhad buan i’r person ifanc sydd wedi ei effeithio.

“Mae diogelwch a llesiant yr holl ddisgyblion yn parhau’n flaenoriaeth uchel i’n hysgolion a’r Cyngor Sir.

“Rydym yn ymwybodol o’r digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Bodedern ddoe ac yn cefnogi’r ysgol gyda’i ymateb a llesiant y disgyblion.

“Rydym wedi cydweithio’n agos ag ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn i’r afael â fepio a byddwn hefyd yn cydweithio’n agos â Heddlu Gogledd Cymru dros y dyddiau nesaf. 

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau defnyddiol i rieni a gofalwyr o’r enw Pobl ifanc a fepio - gwybodaeth-i-rieni-a-gofalwyr yr ydym yn annog teuluoedd i’w ddarllen yn ofalus.

“Mae fêps, wrth gwrs, wedi eu gwahardd yn ein holl ysgolion.

“Mae Safonau Masnach Ynys Môn hefyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru er mwyn atafaelu cynnyrch fepio anghyfreithlon ac atal gwerthu fêps i blant o dan oed.”  

Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r heddlu, gan ddyfynnu’r cyfeirnod C161060.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.