Dyn yn euog o ddynladdiad ar ôl ymosodiad yn Wrecsam

Paul Ince

Mae dyn 31 oed wedi cael ei ganfod yn euog o ddynladdiad dyn arall yn Wrecsam yn 2023.

Roedd Paul Ince, o Ffordd Cefn, Abenbury, Wrecsam, wedi gwadu iddo ladd John Ithell, 59 oed, ond fe ddaeth rheithgor i'r casgliad ei fod yn euog ar ddiwedd achos llys wyth diwrnod o hyd yn Llys y Goron yr Wyddgrug.

Yn oriau mân 12 Mehefin, 2023, dyrnodd Paul Ince John Ithell yn ei wyneb mewn ymosodiad y tu allan i floc o fflatiau yn Wrecsam.

Syrthiodd Mr Ithell yn erbyn ffens a tharo ei ben ar lawr concrit a achosodd anaf difrifol i'w ben.

Bu farw yn ddiweddarach yr un diwrnod, ychydig oriau ar ôl yr ymosodiad.

Bydd Ince yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Mawrth 18 Tachwedd.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Katie Doyle o Heddlu Gogledd Cymru ar ddiwedd yr achos: “Mae ein cydymdeimlad diffuant yn parhau gyda theulu John Ithell heddiw ar ddiwedd yr achos hwn.

“Ni all unrhyw ganlyniad wneud yn iawn am golled bywyd a’r galar a achoswyd, ond rwy’n gobeithio y gall euogfarn Ince ddod â rhywfaint o dawelwch i deulu John wrth iddynt barhau i ddod i delerau â’u colled drasig.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.