Y Tywysog Andrew yn ildio ei holl deitlau brenhinol

andrew

Mae'r Tywysog Andrew wedi cyhoeddi ei fod yn ildio ei holl deitlau, yn cynnwys ei deitl brenhinol mwyaf adnabyddus, Dug Efrog.

Er ei fod yn ildio ei deitlau swyddogol, fe fydd yn parhau i fod yn dywysog, ar ôl cael ei eni'n fab i Elizabeth II.

Mae'n debyg na fydd ei gyn-wraig, Sarah Ferguson, hefyd yn parhau i ddefnyddio ei theitl Duges Efrog.

Yn ogystal â theitl 'Dug Efrog', roedd gan y Tywysog Andrew, ddau deitl anrhydeddus arall, sef Iarll Inverness a Barwn Killyleagh.

Mewn datganiad, dywedodd y Tywysog Andrew: "Mewn trafodaeth â'r Brenin, a'm teulu agos ac ehangach, rydym wedi dod i'r casgliad bod y cyhuddiadau parhaus amdanaf yn tynnu sylw oddi wrth waith Ei Fawrhydi a gweddill y Teulu Brenhinol.

"Rwyf wedi penderfynu, fel yr wyf bob amser wedi gwneud, rhoi fy nyletswydd i'm teulu a'm gwlad yn gyntaf. 

"Rwy'n sefyll wrth fy mhenderfyniad bum mlynedd yn ôl i gamu'n ôl o fywyd cyhoeddus.

"Gyda chytundeb Ei Fawrhydi, rydym yn teimlo bod yn rhaid i mi fynd gam ymhellach nawr. Felly, ni fyddaf yn defnyddio fy nheitlau na'r anrhydeddau a roddwyd i mi mwyach.

"Fel y dywedais o'r blaen, rwy'n gwadu'r cyhuddiadau yn fy erbyn yn gryf."

Daw'r penderfyniad yn dilyn pwysau cynyddol ar y Tywysog Andrew wedi adroddiadau cynyddol ddod i'r amlwg am ei berthynas â'r pedoffil Jeffrey Epstein, a'i berthynas ag ysbïwr Tsieineaidd honedig.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.