Carbon monocsid: Rhybudd mam gollodd ei phlentyn pum mlwydd oed

ITV Cymru
Adele

Mae mam a gollodd ei phlentyn pum mlwydd oed a’i mam gu a’i thad cu i achos o wenwyno carbon monocsid wedi codi pryderon am dwf mewn achosion yng Nghymru.

Roedd mab Adele Thomas, McCauley Levi Thomas, wedi bod yr aros yng nghartref y teulu ym Mhontllanfraith dros hanner tymor yr Hydref yn 2005.

Bu farw ynghyd â Patrick a Gloria Chidgey, 71 a 68 oed, yn 2005 - y tri wedi’u gwenwyno gan garbon monocsid a ollyngodd o simnai wedi’i blocio.

“Does dim modd gwelod, blasu na ogleuo carbon diocsid,” meddai Adele Thomas.

“Roedd fy nhad cu ar lawr y gegin a roedd fy mam gu a McCauley lan llofft a wedi marw yn eu cwsg.

“Hoffwn pe bawn i wedi gwybod am y peryglon. Beth sy’n fy ngwneud i mor drist oedd bod modd ei stopio rhag digwydd. Roedd modd ei stopio.”

Image
Patrick a Gloria Chidgey
Patrick a Gloria Chidgey

Ers hynny, mae Adele wedi treulio bron i ddau ddegawd yn rhybuddio eraill am beryglon carbon monocsid, ac mae'r rhybudd hwnnw'n teimlo'n fwy brys nag erioed, meddai. 

Mae ffigurau newydd yn dangos bod achosion wedi mwy na dyblu ers y pandemig. 

Eleni yng Nghymru, mae mwy na 100 o achosion wedi'u hadrodd, o'i gymharu ag ychydig dros 50 bum mlynedd yn ôl. 

Y gred yw bod y cynnydd yn gysylltiedig â’r argyfwng costau byw, a bod nifer o deuluoedd ddim yn talu i wirio offer gwresogi neu wneud yr atgyweiriadau sydd eu hangen arnynt.

Mae carbon monocsid yn cronni pan fydd ffliwiau wedi'u blocio, boeleri heb eu gwasanaethu neu fentiau wedi'u gorchuddio.

Mae larwm yn costio llai nag £20 - pris bach i'w dalu, meddai Adele.

“Rydw i eisiau dweud wrth bobl, plis, gwnewch yn siwr bod eich larwm yn gweithio,” meddai. 

“Gwenewch yn siwr bod gan aelodau o’ch teulu chi larwm. 

“Mae'r Nadolig yn dod. Mae'n anrheg fach hyfryd. Gall achub bywyd rhywun, a does dim modd rhoi pris ar hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.