Cyrffyw ar Faes Carafanau yr Eisteddfod i bawb o dan 16 oed
Cyrffyw ar Faes Carafanau yr Eisteddfod i bawb o dan 16 oed
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyflwyno cyrffyw o 23:00 ar y Maes Carafanau i bawb dan 16 oed.
Dywedodd yr Eisteddfod eu bod nhw'n ymateb i bryderon pobl ar y maes carafanau.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y brifwyl eu bod nhw'n ystyried terfynu tenantiaeth y rheini nad oedd yn cadw eu plant allan o drwbl.
Mewn datganiad at breswylwyr y maes carafanau dyma nhw'n dweud:
"Da ni wedi derbyn nifer o gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y maes carafanau dros y nosweithiau diwethaf.
"Mae grwpiau o bobol ifanc wedi bod yn crwydro a hel mewn gwahanol rannau o’r maes gan beri pryder i breswylwyr a difrodi eiddo carafanwyr eraill.
"Yn dilyn rhagor o drafferthion nos Fawrth 'da ni wedi gorfod cymryd camau pellach.
"O nos Fercher 9 Awst fe fyddwn ni’n cyflwyno cyrffyw am 11pm i bawb o dan 16 oed."
Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol mai cyfrifoldeb rhieni oedd edrych ar ôl eu plant.
"Os na fydd y sefyllfa yn gwella heno byddwn yn terfynu tenantiaeth y rheini sydd a'r cyfrifoldeb dros y bobl ifanc," medden nhw.