
Etholiad Cyffredinol '24: Y canlyniadau o'r etholaethau
Y prif bwyntiau:
- Mae Llafur wedi ennill mwyafrif ac fe fydd y blaid yn ffurfio y llywodraeth nesaf gyda Keir Starmer yn Brif Weinidog.
- Mae Llafur Cymru wedi ennill Canol a De Sir Benfro, Bangor Aberconwy, Gogledd Clwyd, Dwyrain Clwyd, Wrecsam, Maldwyn a Glyndŵr, Bro Morgannwg, Sir Fynwy a Phen-y-bont ar Ogwr oddi wrth y Ceidwadwyr.
- Mae Plaid Cymru wedi ennill Ynys Môn a Chaerfyrddin.
- Does yr un sedd Geidwadol yn weddill yng Nghymru, y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers 1997.
- Mae y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill un sedd sef Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, eu sedd gyntaf yng Nghymru ers 2017.
Crynodeb
04:08
Starmer yn hawlio buddugoliaeth
03:35
Ysgrifennydd Cymru David TC Davies wedi colli ei sedd
02:15
Plaid Cymru yn cipio Ynys Môn
21:12
Dadansoddi’r arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio
21:00
Canlyniad yr arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio
18:21
Croeso i flog byw Etholiad Cyffredinol 2024
05:17
Diolch i chi am ddilyn y blog byw
Gyda'r holl ganlyniadau o Gymru i mewn rydyn ni'n cau pen y mwdwl ar y blog yma.
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi ein dilyn ni ar y blog byw drwy'r nos.
Bydd yr ymdriniaeth o'r etholiad yn parhau ar hafan Newyddion S4C.
Yn y cyfamser mae'r drafodaeth eisoes wedi symud ymlaen at yr etholiad nesaf yn barod, sef etholiad Senedd 2026.
Dyma Richard Wyn Jones gyda'r gair ola'...
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1809092324695179531
04:45
Canran Llafur o'r bleidlais wedi syrthio yng Nghymru

Er bod Cymru yn goch i gyd bron a bod, mae canran y Blaid Lafur o'r bleidlais yng Nghymru wedi syrthio -3.9% ar 2019, i 37.0%.
Daeth y Ceidwadwyr yn ail er bod eu canran o'r bleidlais wedi syrthio −17.9% i 18.2%.
Cynyddodd pleidlais Reform 11.5% i 16.9%, ac fe gynyddodd pleidlais Plaid Cymru 4.9% i 14.8%.
Fe gododd pleidlais y Blaid Werdd hefyd 3.7% i 4.7%, ac roedd cynnydd bach ym hleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol o 0.5% i 6.5% .
• Rhondda ac Ogwr (48%)
Mae'r canlyniadau i gyd i'w gweld yma.
04:16
Y Ceidwadwyr wedi colli bob etholaeth yng Nghymru

Mae'r Ceidwadwyr wedi colli sedd Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Gyda Llafur hefyd wedi cipio Sir Fynwy, mae'n golygu bod y Ceidwadwyr wedi colli pob sedd yng Nghymru.
Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol etholaeth yng Nghymru am y tro cyntaf ers 2017.
Mae rhestr llawn o'r holl ganlyniadau fan hyn.
04:08
Starmer yn hawlio buddugoliaeth

Mae Llafur wedi ennill buddugoliaeth yn yr Etholiad Cyffredinol gan gyrraedd 326 o etholaethau.
Dywedodd Keir Starmer ei fod eisiau "adfer y delfrydau sy'n dal y genedl ynghyd".
04:03
Jacon Rees-Mogg yn colli ei sedd

Mae'r cyn aelod o gabinet Llywodraeth Geidwadol y DU, Jacob Rees-Mogg, wedi colli ei sedd yn North East Somerset and Hanham i'r Blaid Lafur.
03:47
Craig Williams yn colli ei sedd ym Maldwyn a Glyndŵr

Mae Craig Williams o'r Ceidwadwyr wedi colli ei sedd ym Maldwyn a Glyndŵr i'r Blaid Lafur.
Roedd Craig Williams yn wynebu cyhuddiadau o fetio ar ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol.
Dyma'r tro cyntaf erioed i Lafur ennill Maldwyn, yr unig etholaeth yng Nghymru nad oedden nhw erioed wedi ei hennill.
03:44
Y Prif Weinidog yn cadw ei sedd ond yn dweud y bydd yn ymddiswyddo

Mae Rishi Sunak wedi cadw ei sedd ond wedi dweud bod Llafur wedi ennill yr etholiad a'i fod wedi ffonio Keir Starmer i'w longyfarch.
Dywedodd y byddai yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog.
03:37
Plaid Cymru yn cadw Dwyfor Meirionnydd

Mae Plaid Cymru wedi cadw sedd Dwyfor Meirionnydd gyda mwyafrif swmpus i Liz Saville Roberts.
03:35
Ysgrifennydd Cymru David TC Davies wedi colli ei sedd

Mae Ysgrifennydd Cymru David TC Davies wedi colli ei sedd.
Ef yw'r Ysgrifennydd Cymru cyntaf erioed i golli ei sedd tra'n gwasanaethu yn y swydd. One ef yw'r pumed cyn Ysgrifennydd Cymru sy'n gadael San Steffan eleni.
03:17
Plaid Cymru yn ennill Ceredigion

Mae Ben Lake o Blaid Cymru wedi cadw sedd Ceredigion Preseli gyda mwyafrif sylweddol.
03:03
Llafur yn dal gafael yn Llanelli yn wyneb her sylweddol gan Reform

Mae Llafur wedi dal gafael ar Llanelli yn wyneb her sylweddol ac annisgwyl gan blaid Reform.
Meddai Richard Wyn Jones: "Mae Llafur wedi crafu ennill mewn llwyth o seddi a dwi'n siwr nad oedden nhw wedi sylwi eu bod nhw o dan y fath bwysau."
Cofiwch bod yr holl ganlyniadau ar gael fan hyn.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1809064133838492097
02:53
Cyn Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn colli ei sedd yn Sir Benfro

Mae Cyn Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi colli ei sedd i'r Blaid Lafur yn Sir Benfro.

02:45
Plaid Cymru yn ennill Caerfyrddin

Buddugoliaeth mawr arall nodedig i Blaid Cymru wrth iddyn nhw gipio Caerfyrddin.
Roedd yr ymgeisydd Ceidwadol Simon Hart yn brif chwip yn Llywodraeth y DU.
Roedd yn sedd darged amlwg i Lafur hefyd, gyda Keir Starmer yn ymweld ddydd Mercher.
Mae'n golygu bod Plaid Cymru wedi ennill eu dwy sedd darged.

02:37
Jeremy Corbyn yn ennill fel ymgeisydd annibynnol

Mae Jeremy Corbyn wedi curo ei gyn-blaid, Llafur, yn Islington North fel ymgeisydd annibynnol.
Fe gafodd cyn-arweinydd y blaid fwy na 24,000 o bleidleisiau o gymharu gyda Llafur oedd yn ail gyda mwy na 16,000.
02:29
Nigel Farage wedi ei ethol yn Clacton

Ar ei wythfed ymgais mae Nigel Farage wedi ennill sedd yn San Steffan.
"Fe wnaf i fy ngorau i roi Clacton ar y map," meddai.
Enillodd gyda 46% o'r bleidlais. Syrthiodd pleidlais y Ceidwadwyr 44%.
02:24
Llafur yn cipio Bangor Aberconwy

Mae Llafur wedi cipio Bangor Aberconwy o afael yr ymgeisydd Ceidwadol, Robin Millar.
Daeth Plaid Cymru yn ail a'r Ceidwadwyr yn drydydd, o drwch blewyn.
"Os yw Caerfyrddin yn mynd o'u plaid nhw, mae'n bosib mai dyma ganlyniad gorau Plaid Cymru erioed mewn etholiad cyffredinol," meddai Richard Wyn Jones.
02:15
Plaid Cymru yn cipio Ynys Môn
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1809050951254151326
Mae Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn am y tro cyntaf ers dechrau'r ganrif.
Mae Llinos Medi, ymgeisydd Plaid Cymru, yn ei dagrau, wedi iddi gipio y sedd gan Virginia Crosbie o'r blaid Geidwadol, gan sicrhau mwyafrif o 637.
"Mae popeth yn bosib os ydych chi'n mynd amdani," meddai.
Mae'n golygu bod Virginia Crosbie wedi colli ei sedd, ond gyda chwymp llai o lawer yn ei phleidlais na nifer o ymgeiswyr Ceidwadol eraill.
Derbyniodd Plaid Cymru 10,590 pleidlais, gyda'r Ceidwadwyr yn sicrhau 9,953 o bleidleisiau.
Ieuan Môn Williams o'r Blaid Lafur oedd yn drydydd, gyda 7,619 o'r pleidleisiau.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1809049754401137014
02:05
Syr Keir Starmer yn cadw ei sedd yn Holborn a St Pancras

Gydag arwyddion cryf y gallai’r blaid Lafur hawlio mwyafrif hanesyddol o 410 o seddi, mae’r arweinydd Syr Keir Starmer wedi cadw ei sedd gan sicrhau 18,884 o bleidleisiau a mwyafrif o 11,572 yn etholaeth Holborn a St Pancras.
Mae sawl canlyniad arall wedi dod o Gymru yn y cyfamser gan gynnwys Gŵyr, Torfaen, Cearffili a Rhondda ac Ogwr, pob un yn sedd Llafur cadarn.
Mae Llafur wedi ennill deg sedd yng Nghymru hyd yma a'r un blaid arall wedi ennill yr un.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1809046852462862713
01:58
Sut mae pethau'n edrych yng Nghaerfyrddin ac Ynys Môn?
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1809034895206875485
Mae tynged sedd etholaeth Ynys Môn yn dal i fod yn agos, medd Plaid Cymru. Ond mae'r frwydr yn dynn rhyngddi a'r Blaid Lafur.
Inline Tweet: https://twitter.com/RhysOwen1234/status/1809034330720571764
Inline Tweet: https://twitter.com/DeansOfCardiff/status/1809042604543099070
01:53
Llafur yn cipio sedd yr SNP

Mae Llafur wedi cipio un o seddi'r SNP, Kilmarnock and Loudoun.
Dywedodd cyn arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon, "nad yw'n noson dda i'r SNP gyda'r ffigyrau yma".
Roedd yr arolwg barn wrth i bobl adael y blychau pleidleisio yn awgrymu y gallen nhw golli pob un ond 10 o etholaethau.
01:44
George Galloway wedi colli ei sedd

Mae arweinydd Plaid y Gweithwyr, George Galloway wedi colli i Lafur yn etholaeth Rochdale.
Fe gollodd ei sedd i Paul Waugh, cyn ohebydd gyda’r Evening Standard.
Daeth Reform yn dryddydd a’r Ceidwadwyr yn bedwerydd.
01:37
Llafur yn cipio Wrecsam a'n cadw Pontypridd

Fel y disgwyl mae Llafur wedi cipio Wrecsam, gyda chwymp sylweddol ym mhleidlais y Ceidwadwyr.
Mae Llafur hefyd wedi ennill Pontypridd.
"Maen nhw'n ganlyniadau mor od," meddai Richard Wyn Jones. "Maen Llafur yn ennill wrth i bobl eraill faglu."
01:29
Canlyniad Gorllewin Abertawe

Mae Llafur wedi cadw sedd Gorllewin Abertawe.
Mae'n gwymp o 10% ym mhleidlais Llafur. Mae'r Ceidwadwyr wedi dod yn 5ed.
Inline Tweet: https://twitter.com/RhysWilliamsTV/status/1809037235679080908
01:23
Reform wedi ennill eu sedd gyntaf
Mae Reform wedi ennill sedd gyntaf y blaid, sef y cyn AS dros y Blaid Geidwadol Lee Anderson yn Ashfield.
Fe wnaethon nhw ennill 43% o'r bleidlais, cynnydd o 38% ar yr etholiad diwethaf.
01:12
Canlyniad Bro Morgannwg

Cyn-Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn colli ei sedd ym Mro Morgannwg i'r Blaid Lafur.
Dywedodd Richard Wyn Jones ei fod yn ganlyniad "rhyfeddol". "Mae cefnogaeth Llafur wedi gostwng."
01:04
Llafur yn cipio Pen-y-bont ar Ogwr

Canlyniad cyntaf Cymru - Mae'r Blaid Lafur wedi cipio Pen-y-bont ar Ogwr oddi ar y Ceidwadwyr, sydd wedi dod yn drydydd.
"Mae Llafur wedi sefyll yn ei unfan a dweud y gwir," meddai Richard Wyn Jones. "Mae'r Ceidwadwyr wedi syrthio oddi ar glogwyn."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1809032471209492606
00:57
Mark Drakeford yn 'teimlo' dros Vaughan Gething
00:56
Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio sedd

Mae’r Democratiaid Rhyddfryfol wedi cipio eu sedd gyntaf o’r noson.
Llwyddodd Tom Gordon o’r Democratiaid Rhyddfrydol i gipio sedd Harrogate a Knaresborough o’r Ceidwadwyr gyda 23,976 o bleidleisiau, gyda Andrew Jones o’r blaid Geidwadol yn derbyn 12,135 o bleidleisiau.
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, wedi diolch i'w gefnogwyr, gan ddweud bod y pôl piniwn yn awgrymu canlyniad gorau i'w blaid ers canrif.
Yn ddiddorol iawn roedd canrannau y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr yma yn union yr un fath ag yn arolwg barn olaf YouGov. Mae hynny'n awgrymu y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio nifer o etholaethau Ceidwadwol ar draws Lloegr.

00:45
Penny Mordaunt yn 'debygol' o golli ei sedd

Mae Newyddion S4C ar ddeall bod y bleidlais yn "debygol" o fynd yn erbyn Penny Mordaunt.
Roedd hi'n ddarpar arweinydd posib i'r Ceidwadwyr os yw Rishi Sunnak yn camu o'r neilltu.
00:40
Y Blaid Lafur yn obeithiol ym Maldwyn a Glyndŵr
Mae'n debyg bod y Blaid Lafur yn dechrau teimlo'n 'obeithiol' am sedd etholaeth Maldwyn a Glyndŵr.
Inline Tweet: https://twitter.com/RhysWilliamsTV/status/1809014956437729613
Mae'r ffiniau etholaethol wedi newid i'r ardal hon, ond roedd yr hen sedd, Maldwyn wedi'i chynrychioli gan y Ceidwadwyr ers 2010.
Yr AS presennol yw Craig Williams, sy'n wynebu cyhuddiadau o fetio ar ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol.
00:31
Nigel Farage yn ymateb i lwyddiant cynnar Reform

Mae arweinydd Reform UK, Nigel Farage, wedi disgrifio'r posibilrwydd o lwyddiant i'w blaid yn yr etholiad cyffredinol fel cam “enfawr”.
Roedd canlyniadau'r pôl piniwn ar ddiwedd y pleidleisio nos Iau yn awgrymu hwb i Reform ar ddechrau'r noson, gyda'r blaid yn gwthio’r Torïaid i’r trydydd safle mewn pedair etholaeth.
Daeth y blaid yn ail, o flaen y Ceidwadwyr yn Houghton a De Sunderland, Canol Sunderland Central, Washington a De Gateshead, a Blyth ac Ashington.
Mae awgrym y gallai'r blaid ennill 13 o seddi, yn ôl arolwg ar gyfer BBC, Sky ac ITV.
Darllenwch fwy yma.
00:27
'Ai Vaughan Gething yw'r dyn cywir i arwain Llafur?'
00:23
Y diweddaraf o Gaerfyrddin a Llanelli
Mae Plaid Cymru yn obeithiol o ennill Caerfyrddin, a Llafur yn dweud nad ydyn nhw'n sicr yno.
Roedd Keir Starmer wedi ymweld â Chaerfyrddin ddydd Mercher.
Inline Tweet: https://twitter.com/adrianmasters84/status/1809016579897610382
Er hynny, mae'n parhau yn frwydr agos rhwng y pleidiau:
Inline Tweet: https://twitter.com/adavies4/status/1809015142866121045
Mae Ellis Roberts ein gohebydd yn y cyfrif hefyd yn dweud ei bod hi o bosib yn agos rhwng Llafur a Reform yn Llanelli.
00:15
Llafur yn hyderus yng Nghanolbarth a De Sir Benfro
Inline Tweet: https://twitter.com/adrianmasters84/status/1809009918638170267
00:11
Robert Buckland yn ‘rhwystredig’ am 'fethiannau' ei blaid

Mae Robert Buckland wedi dweud ei fod yn ‘rhwystredig’ fod y blaid Geidwadol wedi colli yn yr Etholiad Cyffredinol.
“Ar ôl 14 mlynedd, ac mae gen i ofn bod llawer o hyn wedi bod yn sgil methiannau ein hunain, ac mae’n rhaid i ni wynebu hynny ar unwaith.”
00:07
Cyn Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn 'ffyddiog'
00:00
Cwymp yn y bleidlais?
Mae 'bwlch sylweddol’ yn nifer y bobl sydd yn pleidleisio o gymharu â’r gorffennol yn ôl Richard Wyn Jones.
Er nad ydym ni’n gwybod faint yn union sydd wedi pleidleisio eto yn llawn, mae Richard Wyn Jones yn rhagweld y bydd tua 15% yn llai o’r boblogaeth yn pleidleisio o’i gymharu â’r etholiad ym 1997.
Fe bleidleisiodd 71% o’r boblogaeth ym 1997 pan enillodd Tony Blair yr etholiad.
Inline Tweet: https://twitter.com/RhysOwen1234/status/1809004336564797863
23:52
Lle mae disgwyl i Reform wneud yn dda yng Nghymru?
Gyda'r arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio yn awgrymu y gallai Reform ennill mwy o seddi na'r hyn oedd arolygon eraill yn rhagweld, mae'n bosib y gallai'r blaid fod yn ail mewn tua 12 sedd etholaeth yng Nghymru
Inline Tweet: https://twitter.com/RhysWilliamsTV/status/1809004585006108746
Inline Tweet: https://twitter.com/RhysWilliamsTV/status/1809006601023451465
23:47
Kinnock: 'Atgyfodiad Lasarus'
Mae’r Arglwydd Kinnock wedi dweud bod awgrym y pôl piniwn o lwyddiant y blaid Lafur yn ymdebygu i atgyfodiad Lasarus.
Dywedodd y cyn-arweinydd Llafur wrth ITV: “Cynnydd o 208, yn ôl y pôl piniwn, sydd i’w briodoli’n uniongyrchol i Keir Starmer a’r hyn y mae wedi ei gyflawni mewn pedair blynedd, dwy ohonynt yn ystod y cyfnod clo, neu’r cyfnod clo rhithiol pan roedd yr un peth y mae arweinwyr yn ei ddibynnu arno – cyswllt gyda’r cyhoedd – yn absennol.
“Dyma’r atgyfodiad mwyaf ers Lasarus.
“Rhaid i mi ddweud rwyf fi wrth fy modd am y ffaith bod y dyn aeddfed cwbl ddibynadwy yma, Keir Starmer, a’i wraig am fynd drwy’r drws yna yfory.”
23:44
Y cynnydd ym mhleidlais Reform ‘ychydig yn llai na’r disgwyl’

Mae’r canlyniadau cyntaf yn cyd fynd gyda’r arolwg o farn pobol yn gadael y gorsafoedd pleidleisio, yr exit poll, meddai'r Athro John Curtice.
Dywedodd bod y canlyniadau hyd yma o ardaloedd lle oedd pleidlais Gadael uchel yn refferendwm 2016 ac felly nid oedd yn synnu o weld pleidlais Reform yn codi.
“Mae’r cynnydd ym mhleidlais Reform – o tua 13 i 18 canran – mewn gwirionedd ychydig yn llai nag oedden ni’n ei ddisgwyl,” meddai.
“Roedden ni’n rhagweld y byddai Reform yn gwneud yn dda yn yr etholaethau hyn a’n gyrru pleidlais y Ceidwadwyr i lawr mwy nag mewn etholaethau Llafur.”
23:38
Etholiadau Dewi Llwyd
Newyddion S4C fu'n holi Dewi am rai o'r prif atgofion sydd wedi aros yn y cof ar hyd y blynyddoedd.
Beth ydi'r canlyniad fwyaf anisgwyl i chi weld ar noson etholiad?
"Mae canlyniad etholiad 1997 yn aros yn y cof, nid am ei fod yn annisgwyl ond am fod mwyafrif Tony Blair a Llafur Newydd mor fawr. Mi gafodd pawb ei synnu gan ganlyniad etholiad 2017. Roedd pawb yn disgwyl i Theresa May ennill gyda mwyafrif cyfforddus, ond nid felly y bu.
"Mae’r cyflwynydd yn cael gwybod rhyw hanner awr cyn y rhaglen beth ydy canlyniad yr arolwg o’r modd mae pobl wedi pleidleisio, ac mae hwnnw fel arfer yn gwbl gywir. Dwi’n cofio Vaughan Roderick a finna’n rhyfeddu ein bod ni ar fin cael senedd grog.
"Ond rhaglen refferendwm nid etholiad ydy’r un a fydd yn aros hiraf yn y cof. Refferendwm datganoli 1997. Am dri o’r gloch y bore roedd hi’n ymddangos fod yr ochr ‘IE’ yn mynd i golli, ac mi adawodd Dafydd Iwan y stiwdio yn ei ddagrau.
"Ond tua phedwar o’r gloch mi gawson ni wybod gan John Meredith yng Nghaerfyrddin mai fel arall y byddai hi, o drwch blewyn. Ni oedd y rhaglen gyntaf i gyhoeddi’r newydd hwnnw, ac erbyn hynny roedd Dafydd yn ôl yn ei sedd!"

23:32
Bosib bod Reform yn ail yn Wrecsam
Mae Gwyn Loader, prif ohebydd Newyddion S4C yn dweud ei fod yn bosib bod Reform wedi dod yn 2il yn Wrecsam, gyda'r Ceidwadwyr yn 3ydd.
Mae arweinydd Reform Nigel Farage wedi cyhoeddi neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud eu bod nhw'n mynd i ennill "llawer iawn, iawn" o etholaethau.
Inline Tweet: https://twitter.com/Nigel_Farage/status/1809001481057468643
23:26
Llafur yn 'hyderus' eu bod nhw wedi cipio Bro Morgannwg

Mae y Blaid Lafur yn 'hyderus' eu bod nhw wedi ennill Bro Morgannwg.
Fe fyddai yn golygu bod Alun Cairns cyn Ysgrifennydd Cymru wedi colli ei sedd.
23:15
Cyn Ysgrifennydd Cymru yn colli ei sedd

Mae cyn Ysgrifennydd Cymru, Robert Buckland, wedi colli ei sedd yn Swindon South i Heidi Alexander o'r Blaid Lafur.
Dywedodd wrth Sky News ei fod "yn gadael San Steffan i dreulio mwy o amser gyda gwleidyddiaeth".
Ef oedd yr Ysgrifennydd Cymru cyntaf nad oedd yn cynrychioli etholaeth yng Nghymru ers rhai blynyddoedd. Mae'n hanu o Lanelli.
23:01
Etholiadau Dewi Llwyd

Newyddion S4C fu'n holi Dewi am rai o'r prif atgofion sydd wedi aros yn y cof ar hyd y blynyddoedd.
Ydych chi'n cofio eich noson etholiad gyntaf?
"Etholiad 1983 oedd y tro cyntaf imi ddarlledu trwy’r nos, ac mae’r cof am y noson ychydig yn niwlog erbyn hyn! Ond mae’r gwrthgyferbyniad rhwng y rhaglen honno â’r rhai a ddaeth yn ei sgil yn aruthrol. Bellach mae’r cyfrifiadur yn cynnig môr o wybodaeth o fewn eiliadau.
"Bryd hynny roedd y canlyniadau’n cael eu rhoi imi ar ddarnau o bapur. Roedd hi hefyd yn noson ardderchog i’r Ceidwadwyr a Margaret Thatcher, ac roedd y darpar Aelod Seneddol Ceidwadol, Rod Richards yn rhan o’n tîm cyflwyno ni. Ei waith oedd dangos ar fap y newid gwleidyddol oedd yn digwydd, ond darn enfawr o bapur oedd y map hwnnw, a Rod yn defnyddio ffon fach i bwyntio tuag ato. Erbyn heddiw mae’r cyfan yn swnio’n amaturaidd iawn!"
22:53
Ai Reform fydd yr ail blaid fwyaf yng Nghymru?
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1808996654021824786
Does dim disgwyl i Reform ennill sedd yng Nghymru - ond mae'n bosib mai nhw fydd yr ail blaid fwyaf o ran canran y pleidleisiau.
22:43
Ynys Môn: Gobaith i Blaid Cymru?
Mae'n rhy gynnar i wybod beth fydd y canlyniad ar Ynys Môn sy'n ras tair ceffyl ond mae sibrydion oddi yno bod y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur yn ansicr a fyddwn nhw'n fuddugol.
Arweinydd y cyngor Llinos Medi yw ymgeisydd Plaid Cymru yno.
Inline Tweet: https://twitter.com/RhysOwen1234/status/1808992906096607575
Inline Tweet: https://twitter.com/RhysOwen1234/status/1808988656394457210
22:37
Nigel Farage 'wedi llwyddo i apelio at fwy o bobol'
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1808992604542947552
"Roedd syniad fod pobl oedd yn cefnogi UKIP yn perthyn i glybiau golff ac yn gyrru Jaguars gyda'r to i lawr ac yn gwisgo 'gloves' gyrru."
Ond mae Nigel Farage wedi llwyddo i apelio at lawer yn fwy meddai Golygydd Materion Cymreig y BBC Vaughan Roderick.
"Mae'n bleidlais da iawn i Reform," meddai Richard Wyn Jones. "Mae'n ymddangos bod pleidlais y blaid Geidwadol wedi shifftio i Reform."
22:32
Arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn 'hynod siomedig'

Mae arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew RT Davies wedi dweud ei fod yn “hynod siomedig” gyda’r canlyniad tebygol.
Dywedodd fod angen “edrych ar beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn San Steffan dros y pum mlynedd diwethaf sydd wedi bod yn heriol a dweud y lleiaf”.
22:20
Y canlyniad cyntaf - Reform ar i fyny

Houghton and Sunderland South yw'r canlyniad cyntaf un, sef buddugoliaeth ddisgwyliedig i Lafur.
Roedd 7% o gynnydd i Lafur a 19% o gwymp i'r Ceidwadwyr, a Reform i fyny 13%.
"Y stori fawr yw Reform," meddai Richard Wyn Jones. "Y Ceidwadwyr ar i lawr a Reform yn codi.
"Mae'n bosib mai Reform fydd yr ail blaid fwyaf yng Nghymru."
Mae'n debyg ei fod yn agos iawn rhwng y Ceidwadwyr a Reform yn Wrecsam.
22:09
Ysgrifennydd Cymru'n credu ei fod wedi colli ei sedd yn Sir Fynwy

Mae Ysgrifennydd Cymru'n dweud ei fod wedi colli ei sedd, yn dilyn cyhoeddi canlyniad pôl piniwn ar ddiwedd y pleidleisio ddydd Iau.
Dywedodd David TC Davies mewn cyfweliad gyda'r BBC ei fod yn credu bod yr ymgeisydd Llafur yn Sir Fynwy, Catherine Fookes, am fod yn fuddugol.
Dywedodd Mr Davies: "Rwyf wedi cael cefnogaeth wych gan y gangen yn lleol, ond y ffaith yw bod pobl eisiau newid.
"Dyna'r ffordd y mae'n mynd gyda democratiaeth. Fi fydd y cyntaf i gydnabod y bydd buddugoliaeth anferth am fod i Lafur ac yn sicr ni fyddaf yn y Senedd ar ddiwedd y noson a rwy'n rhoi hynny ar gofnod."
Darllenwch fwy yma.
22:01
Cyfnod 'rhwystredig'
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1808981875467178137
Mae'r Aelod o Senedd Cymru Ceidwadol Samuel Kurtz yn dweud ei bod wedi bod yn "gyfnod o rwystredigaeth" i bob plaid yn ystod yr ymgyrch etholiadol.
21:55
Y seddi i gadw golwg arnyn nhw

Ddydd Sadwrn roedden ni wedi rhestru pedair sedd allweddol yng Nghymru i gadw golwg arnyn nhw.
Y seddi oedd Ynys Môn, Caerfyrddin, Maldwyn a Glyndŵr ac Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe.
Mae'r arolwg wrth adael y gorsafoedd pleidleisio yn awgrymu y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gyda sicrwydd o 99%.
Mae yn awgrymu y bydd y Ceidwadwyr yn ennill Maldwyn a Glyndŵr gyda sicrwydd o 97%.
Mae'n awgrymu bod Plaid Cymru wedi ennill Caerfyrddin gyda sicrwydd o 96% ac Ynys Môn gyda sicrwydd o 69%.
Ond dim ond arolwg yw hwn wrth gwrs - dyw'r pleidleisiau heb eu cyfri' eto!
21:37
'Noson wael i'r SNP' meddai Nicola Sturgeon

Ni fydd nos Iau “yn noson dda i’r SNP” meddai Nicola Sturgeon, wrth i’r pôl piniwn ar ddiwedd y pleidleisio awgrymu y gallai cynrychiolaeth y blaid ddisgyn i gyn lleied â 10 sedd yn yr Alban.
Cafodd arolwg y BBC/ITV/Sky ei gyhoeddi wrth i’r blychau pleidleisio gau am 22.00, gan awgrymu mwyafrif o 170 sedd i Lafur ar draws y DU.
Mae’n ymddangos bod llwyddiant plaid Syr Keir Starmer wedi ymestyn i’r Alban, gyda’r awgrym y gallai'r SNP golli 38 sedd o’i gymharu ag etholiad 2019.
Wrth siarad ar ITV, dywedodd cyn-arweinydd yr SNP: “Nid yw hon yn noson dda i’r SNP ar y canlyniadau hyn.
“Rwy’n meddwl y bydd cwestiwn a oedd digon yn yr ymgyrch i roi, i bob pwrpas, llais unigryw i’r SNP mewn etholiad a oedd yn ymwneud â chael y Torïaid allan a’u disodli â Llafur.”
Mae disgwyl mai canlyniad cyntaf yr Alban fydd Rutherglen, a allai gael ei gyhoeddi am 01:00.
Dywedodd Nicola Sturgeon ei bod yn credu y byddai canlyniadau’r arolwg yn gywir ar y cyfan.
21:34
Ydi Ysgrifennydd Cymru wedi colli ei sedd yn Sir Fynwy?
Inline Tweet: https://twitter.com/elliwsan/status/1808976480640324013
Mae Newyddion S4C yn adrodd bod Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, yn dweud ei fod wedi colli ei sedd yn Sir Fynwy.
Ond mae yr arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio - yr exit poll - yn awgrymu ei fod wedi ei chadw hi.
Yn ein stiwdio mae'r Athro Richard Wyn Jones yn dweud ei fod yn dangos bod angen bod yn ofalus gyda'r arolwg.
"Mi wnes i ddweud ar y cycchwyn ar ol gweld y rhagolwg bod rhaid i ni fod yn ofalus," meddai. "Mae beth ydan ni'n ei glywed o Fynwy yn tanlinellu bod angen i ni fod yn ofalus."
21:29
Gwyliwch: Cyhoeddi canlyniad yr arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio
Dyma'r foment y gwnaeth Bethan Rhys Roberts gyhoeddi canlyniad yr arolwg wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1808974905985159666
21:21
Pryd ydan ni’n disgwyl y canlyniadau cyntaf?

Bydd yr ychydig seddi cyntaf yn rhoi syniad da i ni a ydi’r ‘exit poll’ yn agos ati.
Tua 23.30 mae disgwyl y sedd gyntaf, sef Blyth & Ashington yn Sir Northumberland yng ngogledd Lloegr.
Mae disgwyl i’r seddi cyntaf o Gymru, Wrecsam, Gorllewin Abertawe a Bro Morgannwg, gyrraedd o tua 1.30 ymlaen.
Mae Bro Morgannwg yn un o brif dargedau'r Blaid Lafur yng Nghymru a bydd yn rhoi syniad da i ba raddau mae’r rhod wedi troi yma.
Mae rhestr llawn o’r canlyniadau Cymreig a brasamcan o pryd fyddwn nhw’n cyhoeddi fan hyn.
21:12
Dadansoddi’r arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio
Roedden ni wedi pwyso a mesur yn flaenorol beth fyddai yn noson siomedig neu lwyddiannus i’r pleidiau ddydd Mercher.
Os yw’r arolwg ymadael yn gywir, a fydd y pleidiau yn bles ai peidio?
Llafur – Bydd Llafur yn hapus iawn i gael mwyafrif ysgubol ond mae ychydig yn llai nag oedd rhai arolygon barn yn ei awgrymu.
Ceidwadwyr – Mae ychydig yn well nag oedd rhai o’r arolygon barn yn ei awgrymu, ond dyma fydd canlyniad gwaethaf y blaid ers 1906.
Democratiaid Rhyddfrydol – Mae 61 o seddi tua’r un faint ag oedd yr arolygon barn wedi awgrymu.
Reform – Bydd Reform yn hapus iawn i gael 13 o seddi, sef mwy nag oedd rhai arolygon wedi awgrymu.
SNP – Byddai 10 o seddi yn ganlyniad siomedig iawn i’r blaid.
Plaid - Mae’n anodd gwybod pa mor gywir yw’r arolwg yn achos Plaid Cymru ond fe fyddai pedair sedd yn awgrymu eu bod nhw’n ennill Caerfyrddin ac Ynys Môn.
21:00
Canlyniad yr arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio

Mae’r arolwg wrth i bobl adael y blychau pleidleisio (exit poll) wedi cyrraedd ac mae’n awgrymu bod y Ceidwadwyr yn wynebu chwalfa hanesyddol.
Mae’r awgrymu'r canlyniad canlynol:
Llafur – 410
Y Ceidwadwyr – 131
Y Democratiaid Rhyddfrydol – 61
Yr SNP - 10
Reform UK - 13
Plaid Cymru – 4
I roi’r rhifau yma yn eu cyd-destun, y fuddugoliaeth fwyaf erioed oedd 418 o etholaethau gan y Blaid Lafur yn 1997.
Y nifer isaf erioed o etholaethau i’r Torïaid eu hennill ers datblygu’n un o brif bleidiau gwleidyddol y DU yn yr 1830au oedd 156 yn Etholiad Cyffredinol 1906.
Mae’r arolwg hwn yn hanesyddol wedi bod yn hynod o agos ati, ond nid yw’n manylu ar ba etholaethau yn union fydd yn cael eu hennill a’u colli.
Mae yna ddigon i gnoi cil arno yma!
18:21
Croeso i flog byw Etholiad Cyffredinol 2024

Noswaith dda bawb a chroeso i flog byw Etholiad Cyffredinol 2024, un sy’n addo parhau yn hir yn y cof.
Gobeithio y gwnewch chi aros gyda ni ar draws ein gwefan, ap, cyfryngau cymdeithasol (ar wefan X fydd yr ymdriniaeth yn benna’ wrth i’r canlyniadau gyrraedd).
Ac wrth gwrs hefyd rhaglen Etholiad 2024 ar S4C a fydd ar yr awyr o 21.55 hyd nes 6.00 fore Gwener.
Mae’r bylchau pleidleisio yn parhau ar agor nes 22.00 ac felly os nad ydych chi wedi bwrw eich pleidlais eto dyma eich cyfle chi. Mae modd dod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio agosaf fan hyn.
Unwaith mae’r blychau pleidleisio yn cau fe gawn ni arolwg barn sydd wedi ei gasglu wrth i bobol adael 100-150 o orsafoedd pleidleisio ledled y Deyrnas Unedig.
Mae’r arolwg hwn yn hanesyddol wedi bod yn hynod o agos ati (e.e. yn 2019 fe ddywedodd y byddai'r Ceidwadwyr yn cael 268 o seddi ac fe wnaethon nhw gael 265).
Bydd gwell syniad bryd hynny i ba ffordd mae’r gwynt yn chwythu, ond wrth gwrs ni fyddwn ni’n gwybod yn union pa etholaethau sydd wedi newid dwylo.
Mae llai o etholaethau yng Nghymru tro 'ma - mae 40 wedi eu cwtogi i 32 - ac mae gan bob un ond Ynys Môn ffiniau newydd, sy'n golygu bod rywfaint o ansicrwydd ychwanegol hefyd.
I gael gwybod hynny gobeithio y gwnewch chi aros yn ein cwmni ni nes oriau mân y bore!