Protestio wrth i Reform ennill 5 sedd
Cafodd nifer o brotestwyr eu cludo allan o gynhadledd i'r wasg gan Reform UK yn Llundain ddydd Gwener wrth i'r blaid ddathlu ennill pum sedd yn yr Etholiad Cyffredinol.
Dywedodd y cadeirydd Nigel Farage ei fod yn bwriadu "democrateddio'r " blaid" a'i gwneud yn "fwy proffesiynol."
Ychwanegodd y byddai'n cael gwared ag "afalau drwg" o fewn y blaid wedi nifer o gwynion bod rhai o aelodau Reform wedi gwneud sylwadau hiliol ac homoffobic yn ystod yr ymgyrch.
Enillodd y blaid eu pumed sedd bnawn Gwener wedi ail-gyfri yn etholaeth de Basildon. enillodd eu hymgeisydd James McMurdoch gyda mwyafrif o 98 pleidlais yn unig dros y Blaid Lafur.
Llwyddodd Mr Farage i gael ei ethol fel Aelod Seneddol yn Clacton, ar ei wythfed ymgais.
Llun: PA