Newyddion S4C

Etholiad '24: Pryd fydd etholaethau Cymru yn cyhoeddi?

Etholiad 2024

Ydych chi’n bwriadu aros i fyny drwy’r nos ar y 4ydd a 5ed o Orffennaf i glywed canlyniadau yr etholaethau yng Nghymru?

Dyma amcangyfrif o bryd y bydd pob etholaeth yn cyhoeddi.

Mae'r holl amseriadau yn rhai bras ac fe allen nhw gael eu heffeithio gan oedi wrth ddilysu a chyfrif pleidleisiau, neu ailgyfrif.

Bu newidiadau sylweddol i ffiniau yn yr etholiad hwn ac mae hyn yn golygu bod yna hefyd fwy o ansicrwydd na’r arfer am amseru cyhoeddi'r canlyniadau.

Tua 23.30 mae disgwyl y sedd gyntaf, sef Blyth & Ashington yn Sir Northumberland yng ngogledd Lloegr.

Bydd llawer o sylw i’r sedd gyntaf i weld a oes y symudiad disgwyliedig wedi bod oddi wrth y Blaid Geidwadol i’r Blaid Lafur, neu beidio.

Am 1.30 bydd East Kilbride & Strathaven yn cyhoeddi yn yr Alban. Fe fydd yn rhoi syniad i ni a yw'r SNP yn colli tir i’r pleidiau eraill gan gynnwys y Blaid Lafur, fel mae’r arolygon barn yn ei awgrymu.

Am 1.45 bydd Sir De Caergrawnt yn cyhoeddi. Dyma un o brif seddi targed y Democratiaid Rhyddfrydol a bydd yn rhoi syniad i ni a ydyn nhw yn mynd i fod yn ennill seddi oddi wrth y Ceidwadwyr yn y ‘wal las’.

Mae disgwyl i’r seddi cyntaf o Gymru, Gorllewin Abertawe a Bro Morgannwg, gyrraedd am 2.00. Mae Bro Morgannwg yn un o brif dargedau'r Blaid Lafur yng Nghymru a bydd yn rhoi syniad da i ba raddau mae’r rhod wedi troi yma.

Am 3.00 bydd sedd allweddol arall, Ynys Môn, yn cyrraedd. Mae hon yn ras y mae tair plaid yn gobeithio ei hennill, rhwng Plaid Cymru, Llafur a’r Ceidwadwyr.

Bydd Caerfyrddin chwarter awr yn ddiweddarach yn sedd allweddol arall i’r tair brif blaid yng Nghymru.

Am 3.00 hefyd daw cyhoeddiad Torfaen, sedd lle y bydd Reform UK yn gobeithio gwneud yn dda. Daeth Plaid Brexit yn drydydd yma yn 2019.

Yn hollbwysig i obeithion y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru fydd etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yn ne Powys a fydd yn cyhoeddi tua 4.00. 

Does gan y blaid yr un aelod yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae’n debygol mai dyma eu gobaith pennaf.

Mae disgwyl i’r etholaeth olaf yng Nghymru, Gorllewin Caerdydd, gael ei chyhoeddi am 4.45 gyda buddugoliaeth ddisgwyliedig i’r Blaid Lafur ar ddiwedd beth ddylai - os yw’r arolygon barn yn gywir - fod yn noson dda iddyn nhw ar draws y DU.

Amser cyhoeddi arfaethedig pob sedd yng Nghymru

2.00:

– Gorllewin Abertawe

– Bro Morgannwg

2.15:

- Gŵyr

2.30:

– Caerffili

– Gogledd Clwyd

– Gorllewin Casnewydd ac Islwyn

3.00:

– Alun a Glannau Dyfrdwy

– Bangor Aberconwy

– Dwyfor Meirionnydd

– Dwyrain Casnewydd

— Pontypridd

– Rhondda ac Ogwr

– Torfaen

- Wrecsam

—Ynys Môn

3.15:

– Caerfyrddin

—Llanelli

– Merthyr Tudful ac Aberdâr

4.00:

– Aberafan Maesteg

– Blaenau Gwent a Rhymni

– Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe

– Pen-y-bont ar Ogwr

– Dwyrain Caerdydd

– De Caerdydd a Phenarth

–Ceredigion Preseli

– Dwyrain Clwyd

– Canolbarth a De Sir Benfro

4.30:

– Gogledd Caerdydd

— Sir Fynwy

— Maldwyn a Glyndwr

– Castell-nedd a Dwyrain Abertawe

4.45:

– Gorllewin Caerdydd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.