Etholiadau'r Senedd: Darpar ymgeiswyr Llafur Cymru yn 'rhwystredig' gyda'r broses o'u dewis

Newyddion S4C

Etholiadau'r Senedd: Darpar ymgeiswyr Llafur Cymru yn 'rhwystredig' gyda'r broses o'u dewis

Mae yna rwystredigaeth ymysg darpar ymgeiswyr Llafur Cymru ynghylch y broses o ddewis ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd fis Mai, mae Newyddion S4C wedi cael gwybod. 

Mae rhai ymgeiswyr wedi'u dewis a’u cadarnhau ond mae eraill yn dal i aros am benderfyniad ac yn cwyno eu bod wedi derbyn ychydig neu ddim cyfathrebiad gan y blaid yn ganolog.

Roedd rhai aelodau yn gobeithio y byddai’r broses ddethol wedi’i chwblhau erbyn y gynhadledd wanwyn, ond nawr mae yna amau na fydd y broses yn dod i ben tan yr Hydref.

Yn ôl Llafur Cymru, mae’r broses o ddewis a rhestru ymgeiswyr ar gyfer y rheiny sy’n gobeithio cael eu hailethol wedi’i wneud a mae cwblhau’r broses ar gyfer “y slotiau sy’n weddill” yn parhau i fynd rhagddi. 

Mae BBC Cymru yn deall bod rhai dyddiadau cau i wneud cais i fod yn ymgeisydd wedi'u hymestyn tan 3 Awst.

“Mae pobl yn cymryd fod yn rhaid bod na rhyw gynllwyn tu ôl i’r oedi,” meddai un darpar ymgeisydd. 

“Mae’n rwystredig, dyma'r broses mwya amhroffesiynol dwi wedi gweld mewn unrhyw faes tu fewn neu tu fas i wleidyddiaeth trwy fy ngyrfa.”

'Cwyno'

Pwyllgor Gweithredol Llafur Cymru sy’n gyfrifol am ystyried pob ymgeisydd sy'n gwneud cais, trwy broses o “due dilligence”. 

O dan y system etholiadol fwy cyfrannol newydd, unwaith y caiff uchafswm o wyth ymgeisydd eu cymeradwyo, bydd canghennau lleol a sefydliadau eraill y blaid yn pleidleisio i raddio eu dewisiadau. 

Fe fydd y broses yn cael ei defnyddio i ddewis wyth ymgeisydd terfynol, a fydd wedyn yn sefyll yn un o’r 16 o etholaethau newydd ar gyfer y Senedd. 

Fe ddywedodd darpar ymgeisydd arall ei fod yn ymaddangos fod yna ddiffyg brys o fewn y blaid gan ystyried fod yna etholiad ymhen llai na blwyddyn. 

“Maer Blaid Lafur angen wirioneddol mynd ati ar frys gyda'r broses o ddewis ymgeiswyr," meddai.

“Mae yna gryn dipyn ohonyn ni wedi cwyno am y ffordd mae'r blaid wedi delio efo'r broses o 'due diligence' or ymgeiswyr.

“Mae angen sicrhau ein bod yn cael ymgeiswyr o ansawdd, lleol, sydd yn dymuno gweithio yn galed dros eu cymunedau.”

Yn ôl darpar ymgeisydd arall, sydd wedi bod drwy'r broses dethol debyg yn y gorffennol mae'r broses yn sylweddol "off track" a'i fod yn "rhwystredig iawn ar lefel bersonol, rwyf wedi gorfod gwrthod swydd sydd wedi achosi ansicrwydd ac anhawster". 

"Dydw i ddim yn siŵr os mai mater o ddiffyg adnoddau yw e a phobl rhyw ymdeimlad o burnout yn dilyn etholiad y llynedd ynghyd a threfnu cynhadledd wanwyn," meddai.

Ymateb

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae Llafur Cymru ar hyn o bryd yn rhedeg prosesau dewis ar gyfer y 16 etholaeth newydd a ffurfiwyd ar gyfer etholiadau’r Senedd nesaf yn 2026 yn dilyn amserlen sydd wedi ei chytuno gan y Pwyllgor Gweithredol Cymreig.

"Mae'r raddfa ar gyfer yr holl rai sy'n ceisio ailddewis wedi cwblhau. 

"Mae'r rheini sydd wedi gwneud cais i fod yn ymgeisydd ar gyfer y slotiau sy'n weddill wedi bod trwy broses due dilligence cadarn, ac mae'r broses o wneud rhestr fer o'r ymgeiswyr hynny yn parhau."

Lle mae’r pleidiau eraill arni?

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod yn “yn barod wedi dewis a chadarnhau dros 80 o ymgeisyddion ar gyfer etholiadau'r Senedd yn dilyn prosesau dewis lleol wedi eu harwain gan aelodau'r Blaid”.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig mae’r broses o ddethol yn mynd rhagddi gyda disgwyl y byddwn nhw'n gosod trefn ymgeiswyr ar y rhestrau erbyn diwedd mis Medi.

Yn ôl Reform UK mae’r blaid yn gobeithio cael ymgeiwsyr yn eu lle erbyn “ddiwedd y flwyddyn”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.