Cenarth: 19 mlynedd o garchar i ddau am gynllwynio i lofruddio gŵr mewn carafán
Mae dau o bobl wedi eu cael eu dedfrydu i 19 mlynedd yn y carchar am gynllwynio i lofruddio gŵr mewn maes carafanau yng Nghenarth, Sir Gaerfyrddin.
Roedd Ethel Michelle Mills, 46 oed, sydd yn cael ei hadnabod yn Michelle, wedi bod yn cael perthynas y tu allan i’w phriodas, gyda Geraint Berry sy'n 46 oed.
Roedd y ddau wedi cynllwynio i lofruddio ei gŵr.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener fe gafodd y ddau eu dedfrydu i 19 o flynyddoedd yr un dan glo.
Ar 20 Medi 2024, pan oedd Mrs Mills a'i gŵr, Christopher Mills, yn eu carafán yng Nghenarth, roedd dau ddyn wedi ymosod ar Mr Mills. Roedd gan y dynion mygydau a gynnau.
Llwyddodd Mr Mills i ymladd yn erbyn y dynion, ac fe wnaethon nhw ffoi o’r maes carafanau.
Fodd bynnag, cawson nhw eu canfod yn cuddio mewn llwyni mewn ardal gyfagos gan hofrennydd yr heddlu.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Mills a Berry wedi bwriadu llofruddio Christopher Mills a gwneud i'w farwolaeth ymddangos fel hunanladdiad.
Ond roedd yr heddlu wedi darganfod llythyr hunanladdiad ffug, a oedd yn cynnwys DNA oedd yn cyfateb i DNA Michelle Mills.
Cafwyd Michelle Mills a Geraint Berry yn euog o gynllwynio i lofruddio gan reithgor yn Llys y Goron Abertawe ar 21 Hydref.
Plediodd trydydd diffynnydd, Steven Thomas, yn euog o fod ag arf ffug yn ei feddiant, gyda'r bwriad o wneud i Christopher Mills feddwl bod gweithred dreisgar ar fin cael ei chyflawni yn ei erbyn e, neu berson arall.
Cafwyd yn ddieuog gan y rheithor o'r cyhuddiad o gynllwynio i lofruddio.
Fe gafodd Thomas ei ddedfrydu i 12 mis yn y carchar
Dywedodd Georgia Jones o Wasanaeth Erlyn y Goron bod y cynllwyn gan Michelle Mills a Geraint Berry yn un "dideimlad."
“Dyma gynllwyn cythreulig, dideimlad a llofruddiol a ddyfeisiwyd gan wraig a'i chariad i ladd ei gŵr," meddai.
“Roedd y dystiolaeth yn rhoi darlun clir oedd yn dangos bod y ddau ddiffynnydd wedi bod yn trafod gwahanol ffyrdd o ladd Mr Mills yn ystod yr wythnosau cyn yr ymosodiad.
“Fodd bynnag, chwalwyd eu cynlluniau pan lwyddodd Mr Mills i ymladd yn ddewr yn erbyn ei ymosodwyr.
“Hoffem ddiolch i Mr Mills, a'r tystion eraill, am eu cefnogaeth drwy gydol yr achos hwn, gan ein galluogi i ddod â'r troseddwyr hyn o flaen eu gwell.”