Cyn-gynghorydd o Wynedd wedi torri côd ymddygiad safonau medd tribiwnlys
Mae tribiwnlys safonau wedi dod i'r casgliad fod cyn-gynghorydd gyda Chyngor Gwynedd wedi torri côd ymddygiad i gynghorwyr.
Roedd Iwan Huws wedi derbyn rhybudd amodol am drosedd o “Dwyll drwy gamddefnyddio swydd” drwy geisio twyllo ei gyflogwr wrth gamddefnyddio arian meddai tribiwnlys Panel Dyfarnu Cymru.
Fe ddaeth y tribiwnlys i'r penderfyniad mewn gwrandawiad yn achos Mr Huws ddydd Mercher, gan gyhoeddi eu canfyddiad nos Iau.
Gwahardd
Yn eu Hysbysiad o'r Penderfyniad yn dilyn y gwrandawiad, dywedodd y Panel fod Mr Huws wedi ei wahardd rhag bod yn gynghorydd am dair blynedd.
Dywedodd y Panel mewn datganiad: "Derbyniodd Panel Dyfarnu Cymru gyfeiriad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru parthed honiad wnaed ynglŷn â’r cyn-Gynghorydd Huws.
"Yr honiad oedd iddo dorri côd Ymddygiad Cyngor Sir Gwynedd trwy dderbyn Rhybudd Amodol am drosedd o “Dwyll drwy gamddefnyddio swydd” drwy geisio twyllo ei gyflogwr, wrth gamddefnyddio arian."
Mae rhybudd amodol gan yr heddlu yn ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio ag amodau penodol, yn hytrach na wynebu erlyniad yn y llysoedd.
Cyn y gellir rhoi'r rhybudd, rhaid i'r unigolyn gyfaddef y drosedd a chytuno i amodau'r rhybudd.
'Anfri'
Ychwanegodd canfyddiadau Panel Dyfarnu Cymru: "Cafodd ei ystyried yn rhesymol fod rhybudd amodol a chamymddygiad yr Aelod wedi dod â'i swydd fel aelod â’i Gyngor Sir i anfri.
"Penderfynodd y Tribiwnlys Achos yn unfrydol y dylai’r cyn-Gynghorydd gael ei anghymhwyso rhag dal swydd gyhoeddus mewn unrhyw awdurdod perthnasol, fel y’i diffinir yn adran 49(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, am gyfnod o dair blynedd o ddyddiad y dyfarniad."
Fe fydd rhagor o fanylion yr achos yn cael eu cyhoeddi maes o law mewn Adroddiad Penderfyniad.
Mae gan Mr Huws yr hawl i geisio caniatad yr Uchel Lys i apelio’n erbyn dyfarniad y tribiwnlys.
Roedd Iwan Huws yn gweithio fel Uwch Swyddog Morwrol i Gyngor Môn, ond mae'r cyngor wedi gwrthod dweud wrth Newyddion S4C pryd a pham y gadawodd y swydd honno, a hynny ar sail preifatrwydd.
Mewn Cais Rhyddid Gwybodaeth i'r cyngor ym mis Hydref, gofynnodd Newyddion S4C i'r cyngor os oedd Mr Huws wedi ymddiswyddo, cael ei ddiswyddo neu adael yn wirfoddol?
Mewn ymateb, dywedodd y cyngor fod y wybodaeth yma "wedi’i heithrio o dan Adran 40 (2) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gan y gall ei rhyddhau arwain at adnabod unigolion, a fyddai yn ei dro yn effeithio ar eu hawl i breifatrwydd."
Gofynnodd Newyddion S4C i'r cyngor hefyd os oedd neu oes yna ymchwiliad mewnol gan Gyngor Môn i benderfyniadau a wnaeth Iwan Huws yn rhinwedd ei waith fel swyddog cyflogedig gyda’r cyngor cyn iddo adael yr awdurdod?
Ymateb Cyngor Môn oedd: "Ni all Gyngor Sir Ynys Môn gadarnhau na gwadu a yw’r wybodaeth hon yn cael ei chadw yn unol ag adran 40(5b)(a) Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000."
Gwrthododd y cyngor ddweud hefyd os oedd Iwan Huws wedi bod yn destun ymchwiliad troseddol tra'r oedd yn gweithio i Gyngor Môn, gan ailadrodd nad oedd modd iddynt "gadarnhau na gwadu a yw’r wybodaeth hon yn cael ei chadw" yn unol â'r Ddeddf.
Ymddiswyddo fel cynghorydd
Roedd Mr Huws yn cynrychioli ward Bethel a'r Felinheli ar ran Plaid Cymru, cyn iddo ymddiswyddo o Gyngor Gwynedd ar 18 Medi.
Nid yw’n eglur os oedd penderfyniad Mr Huws i adael y cyngor yn gysylltiedig â’r ymchwiliad i'w ymddygiad gan y tribiwnlys.
Roedd cwyn am Mr Huws wedi ei hystyried gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cyn i'r mater gael ei gyfeirio ymlaen at Banel Dyfarnu Cymru.
Mae Panel Dyfarnu Cymru yn dribiwnlys annibynnol, gyda'r gwaith o benderfynu ar honiadau o dorri rheolau gan aelodau etholedig o gynghorau'r wlad.
Côd ymddygiad
Roedd y tribiwnlys wedi ystyried os oedd Mr Huws wedi ymddwyn yn groes i un cymal penodol yn y côd ymddygiad i gynghorwyr.
Mae’r cymal hwnnw yn nodi bod yn rhaid i gynghorydd “beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy'n dwyn anfri ar eich swydd neu ar eich awdurdod.”
Yn gyn-ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Aberconwy yn 2011, roedd Iwan Huws yn gyn-Brif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri am gyfnod.
Mae wedi gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y gorffennol hefyd fel eu cyfarwyddwr dros Gymru.
Cafodd ei ethol yn gynghorydd sir yn 2022.
Mae Newyddion S4C wedi ceisio cysylltu gyda Mr Huws am ymateb.
