'Mae o am newid fy mywyd': Dyn o Ddeiniolen yn ennill £50,000 mewn bingo lleol

brian cashman.jpg

Mae dyn o Ddeiniolen yng Ngwynedd wedi dweud fod ennill swm o £50,000 mewn bingo lleol yr wythnos hon yn mynd i "newid ei fywyd".

Fe enillodd Brian Cashman, 63, y swm yn neuadd Apollo Bingo yng Nghaernarfon nos Iau.

"Ffantastig o noson neithiwr, do, nesh i guro £50,000, o'dd o dipyn bach o sioc," meddai wrth Newyddion S4C. 

"Mae o'n deimlad ffantastig, dwi'n meddwl na heddiw ma' 'di dechra sinkio fewn.

"O'n i'n deud wrth fy ffrindia' a hyn a 'llall a hanner rheiny ddim yn coelio 'mod i wedi curo fo, ond pan welson nhw'r post y bingo, oeddan nhw'n excited."

Ychwanegodd: "Dwi 'rioed 'di cael cyn gymaint o bres so dwi'm yn gwbo' be' mae o'n mynd i neud, dwi'n mynd i gael petha dwi ddim 'di gallu cael o'r blaen."

Mae Brian a'i wraig yn mynd i'r neuadd fingo yng Nghaernarfon yn rheolaidd. 

"Dwi'n mynd yn reit aml ar nos Iau 'dan ni'n mynd fwya' 'lly, ma hi'n dibynnu be' ma'r Mrs yn weithio a be' dwi'n weithio ond 'dan ni'n guaranteed o fynd yna dwy neu dair gwaith y mis ar ddydd Iau.

"Prynu cardyn, pan ti'n mynd i fewn drwy'r drws o'dd hi'n special night yna neithiwr, o'dd Apollo Bingo yn talu am rhan fwya'r ticedi felly nath o'm costio dim ond £2 i ni fynd i fewn."

'Helpu lot'

Mae Mr Cashman wedi ymddiswyddo o'i swydd yn ddiweddar fel Uwch Weithiwr Cymorth mewn ysbyty iechyd meddwl yn y gogledd, ac fe fydd yn dechrau swydd newydd yn y flwyddyn newydd. 

"Ma' 'na ddau beth da 'di digwydd, dwi 'di dod o un job i job newydd 'lly a ma'r £50,000 yn mynd i helpu wedyn unwaith fydd o 'di sinkio fewn a fydda i 'di gael o, ma' siwr fydda i'n mynd ar holiday."

Gyda chwe diwrnod i fynd tan y Nadolig, mae'r amseru yn berffaith yn ôl Mr Cashman. 

"Mae o'n bres 'dan ni 'rioed wedi ei gael o blaen so ma' hynny yn mynd i helpu lot arna ni efo 'Dolig."

'Un o diwrnodia gora fy mywyd'

Mae'n ddiolchgar iawn i staff y Bingo am eu holl help hefyd.

"Ma'r staff 'di bod yn ffantastig yng Nghaernarfon, ma'r manageress sydd 'na - nath hi neud y gwaith papur i gyd, big shoutout iddi hi 'lly, nath hi neud bopeth i fi.

"Un o diwrnodia gora fy mywyd i, definitely. Pan fydd y funds yna, ella neith o sinkio yn fwy i fewn... mae o'n mynd i fod yn eye-opener go iawn, gweld gymaint â hynna o bres yn y banc."

'Pawb isio dathlu hyn'

Lyndsey Williams ydy cyd-reolwr neuadd Apollo Bingo Caernarfon.

Wedi bod yn gweithio yn y clwb ers 10 mlynedd, dyma'r swm mwyaf iddi hi ei weld yn cael ei ennill.

"Mae o mor neis bod rywun lleol, rywun sy'n dod i'r clwb yn wythnosol wedi cael y siawns i ennill swm mor fawr, mae o'n swm sy'n newid bywyd rywun," meddai wrth Newyddion S4C.

"Idda fo ddod o clwb bach ni yn y gogledd, ma'r atmosphere, ma'r clod, ma' pawb jyst isio dathlu hyn, jyst i bobl w'bod bod o yn bosib."

"Mae o'n mynd i roi'n clwb bach ni ar y map hefyd."

Mae'r clwb hefyd yn hwb i bobl gymdeithasu yn ôl Ms Williams. 

"Especially i'r henoed fwy na neb. Weithia ma' nhw'n dod trwy drws ni a ni 'di'r unig sgwrs ma' nhw'n gael mewn diwrnod, ni 'di'r unig pryd o fwyd poeth ma' nhw'n gael mewn diwrnod," meddai. 

"Mae o'n helpu codi hyder pobl i fod yn y gymuned 'chos 'dan ni di deud 'Dewch ar ben eich hun, dewch mewn criw, dio'm ots' - ma' 'na groeso yma i chi bob tro. Un peth yda ni ydi teulu mawr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.