Anrhydeddu dyn o Gwm Cynon am ei gyfraniad eithriadol i'w gymuned
Mae dyn o'r Cymoedd wedi dweud ei fod yn benderfynol na fydd yr un plentyn yn wynebu'r heriau a wynebodd ef, a hynny drwy ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf mewn amryw o ffyrdd.
Fe fydd Anthony Trow o Gwm Cynon yn cael ei anrhydeddu fel rhan o raglen ar S4C nos Wener, sef 'Cymry Waw' a fydd yn dathlu pobl eithriadol ar draws y wlad sy'n gwneud gwahaniaeth.
Wedi plentyndod heriol, fe wynebodd Anthony heriau ar ddechrau ei fywyd.
"Dechreuad fi yn bywyd ddim yn hawdd iawn, fi a brodyr fi wedi tyfu lan gyda braidd dim," meddai wrth siarad ar raglen Cymry Waw.
"Colli mas trips ysgol, fi yn y queue dinner tickets, pawb arall yn chwarae yn egwyl nhw.
"Jyst yn teimlo am pawb, eisiau neud yn siŵr bod pawb yn cael be' ma' nhw'n haeddu."
'Role models da'
Mae Anthony yn rhedeg hwb bugeiliol i gefnogi disgyblion yn ei ysgol leol.
"I fi, does dim ots gyda fi beth yw'r potential, falle academaidd, falle jyst yn gallu cerdded lawr coridor, falle jyst yn gallu gweld bod 'na role models da o gwmpas," meddai.
Mae Anthony yn cynnig cymorth i ddisgyblion sy'n wynebu heriau tu hwnt i oriau ysgol.
Dywedodd Evan, sy'n ddisgybl yn yr ysgol: "Mae Mr Trow yn rhoi'r hyder i fod y pobl ni yn nawr.
"Mae angen plac."
Ychwanegodd Maddison: "Mae Mr Trow hefyd yn person mawr ar bod yn bositif, mae'n gallu rhoi positive spin ar sefyllfa."
'Pob plentyn yn haeddu teimlo magic y Nadolig'
Mae Anthony hefyd yn rhan o apêl Siôn Corn flynyddol i ddosbarthu anrhegion Nadolig i deuluoedd y Cwm, ac mae pobl yn gallu dod i Abercynon i siop ffrind Anthony gyda'u hanrhegion Nadolig.
"Basically beth yw e yw ni'n cael y stwff wedi ei roi i ni gan y gymuned, llwyth o bobl yn dod ag enwau a teuluoedd i ni, ac wedyn ni'n cadw eu dignity nhw i neud yn siŵr bod dim ond ni sy'n gw'bod ble mae popeth yn mynd," meddai Anthony.
"Ma' hi'n ardal rili tlawd, ond ni'n lwcus iawn oherwydd ma'r pobl sydd yn byw o gwmpas fan hyn yn rhoi a rhoi a rhoi.
"Mae pob plentyn yn haeddu cael teimlo y magic o'r Nadolig, dyna pam ni'n neud e."
Wedi bocsio ers yn blentyn, mae Anthony bellach yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf.
"Mae gen i lawer o ffrindiau sydd ar gyffuriau, sydd yn yfed drwy'r nos, faint o arian maen nhw yn costio'r NHS? Faint o arian fydd nhw'n costio i'r NHS?" meddai.
"Fi'n iach iawn, fi'n gael effaith anhygoel ar pobl o bob oedran, ma'r negatives yn reit lawr i gymharu â'r positives o ran gympaffio."
Ychwanegodd: "Fi'n gwybod sut mae plant yn ymateb i paffio, yn enwedig y rai sydd yn gallu mynd lawr y trywydd anghywir, ond ar ôl i nhw ddod am un sesiwn, ma' nhw'n dysgu'r disgyblaeth bod raid iddyn nhw wrando, ma' raid iddyn nhw ddechrau trio fel pawb arall."
Un sy'n rhan o ddosbarthiadau Anthony yn y gampfa yw Logan.
"Ma' fe'n family... ma' fe'n teulu mewn fan hyn," meddai.