'Mae wedi ein dinistrio': Teulu cyn-bartner John Gizzi'n galw am gosbau camdriniaeth ddomestig llymach

Samantha a Denise Farah (inset: Natasha Farah)

Rhybudd: Mae’r erthygl hon yn cynnwys manylion am hunanladdiad a thrais domestig ac fe allai’r cynnwys beri gofid.

Mae teulu dynes o Sir Conwy a ddioddefodd trais, bychanu a bygythiadau "erchyll" gan ei chyn-bartner wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod yn "brwydro" i sicrhau newid yn y gyfraith.

Cafodd John Gizzi, 55 oed, o Lanelwy, ei garcharu am bedair blynedd ac 11 mis yn gynharach y mis hwn yn dilyn dros flwyddyn o gamdriniaeth gorfforol a geiriol yn erbyn ei gyn-bartner, Natasha Farah.

Mae Ms Farah, 31 oed, yn fam i un ac yn dod o Landrillo-yn-Rhos.

Image
Natasha Farah
Natasha Farah

Mewn cyfweliad estynedig gyda Newyddion S4C, mae mam a chwaer Natasha, Denise a Samantha Farah, wedi disgrifio sawl enghraifft o drais a wynebodd y teulu dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys:

  • Ymddygiad o reoli a bychanu Natasha, gan gynnwys ei galw’n enwau a rheoli’r hyn yr oedd yn ei wisgo.
  • Bygythiadau i ladd Natasha a Samantha
  • Natasha a Samantha yn cael eu taro yn eu car gan gar 4x4 Gizzi mewn maes parcio, cyn ffoi a “rhedeg am eu bywydau”
  • Samantha yn cael ei thagu gan Gizzi mewn tafarn ym Mae Colwyn.

Plediodd y cyn-gangster Gizzi yn euog i dair trosedd fis Hydref, sef ymddygiad o reolaeth drwy orfodaeth, tagu bwriadol a methu â darparu cyfrinair ei ffôn i swyddogion yr heddlu.

Wrth ei garcharu am bedair blynedd ac 11 mis, dywedodd y Barnwr Simon Mills ei fod yn “un o'r achosion o ymddygiad rheolaethol gwaethaf, o fewn cyd-destun camdriniaeth ddomestig, y mae modd ei ddychmygu.”

Image
John gizzi
John Gizzi

Cafodd Natasha Farah ei chanfod gan Gizzi yn crogi yn ei chartref fis Ebrill eleni. 

Saith mis yn ddiweddarach, mae hi'n parhau yn yr ysbyty yn derbyn gofal dwys ddydd a nos gydag anafiadau "catastroffig" i'w hymennydd. 

Nid yw ei theulu yn sicr a fydd yn gallu siarad neu gerdded fyth eto.

Nid oes tystiolaeth mai John Gizzi oedd yn gyfrifol am yr anafiadau, ac mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel ymgais i gyflawni hunanladdiad.

Ers y digwyddiad, mae Samantha wedi bod yn gofalu am fab naw oed Natasha, Roman.

Dywedodd Denise Farah wrth Newyddion S4C: “Mae o wedi ein dinistrio fel teulu, torri ein calonnau a nawr mae Roman wedi'i adael heb fam.”

‘Red flags’

Dechreuodd y berthynas rhwng Gizzi a Natasha yn 2024. 

Dywedodd Denise ei bod wedi dechrau poeni am ei merch pan ddechreuodd newid y dillad yr oedd yn ei wisgo. Dywedodd bod Natasha wedi “stopio gadael hi i mewn” yn ogystal.

“Dyna sy'n digwydd. Daeth o rhyngom ni a doedd hi ddim yn gallu siarad hefo mam dim mwy. Mi oedd o’n ei rheoli,” meddai.

Dywedodd Samantha ei bod hefyd wedi gweld “ymddygiad seicotig” gan Gizzi yn gynnar y berthynas.

Image
Denise Farah gyda Natasha a Samantha
Natasha (canol) yn dathlu ei phen-blwydd gyda'i mam Denise a'i chwaer Samantha, fis cyn iddi ddioddef anaf difridol i'w hymennydd (Llun teulu)

“Roedd o'n ffiaidd tuag ataf i. Roedd o'n galw fi'n slag, yn dweud 'you've got daddy issues'. Roedd hynny'n lot i'w gymryd achos doedd neb wedi siarad hefo fi fel hynny o'r blaen. Roedd yn trio codi cywilydd arna i.

"Ac wedyn 'naeth o ddim gadael i ni adael. Fe ddaliodd ymlaen ar ddrws y car, roedd rhaid i mi zoomio i ffwrdd. Dywedodd o ei fod am fy rhoi 'six foot under'. 

"Mae hynny'n fygythiad i ladd - mae'n hynod fygythiol."

Ar ôl y digwyddiad hwnnw, dywedodd Samantha ei bod yn “ofnus” am ei chwaer a’i theulu. 

Fisoedd yn ddiweddarach, penderfynodd Samantha a’i chyn-gariad fynd i Ynys Môn am y diwrnod gyda Natasha a Roman. 

Dywedodd eu bod am “ddianc” am y diwrnod, gyda Gizzi yn “eu ffonio’n ddi-baid” ar ôl i Natasha flocio ei rif ar ei ffôn.

Ar ddiwedd y diwrnod, aeth Natasha a’i chwaer yn ôl i’w fflat yn Llandrillo-yn-Rhos ar frys i bacio bag er mwyn aros yng Nghaer y noson honno.

“Ar ôl bod yna am bum munud, agorais y drws cefn lle'r oedd car fy chwaer, ac roedd yn sefyll yno - mae fy nghorff yn crynu yn meddwl amdano...

"Y diwrnod hwnnw, ro'n i'n meddwl ei fod am ladd ni. Doedd o ddim yn stopio. Roedd yn torturio ni, yn gwybod na allwn ddianc.

"Ro'n i'n gallu gweld yr evil yn ei lygaid, yn syllu'n ddu. Ro'n i'n pledio efo fo, "plîs John, gad i ni fynd."

Fe wnaeth y tri adael y fflat gyda’i gilydd, gyda char 4x4 Mercedes John Gizzi'n rhwystro llwybr car Fiat y chwiorydd.

“Llwyddais i ddweud, 'ok John, parcia dy gar ac mi awn ni am goffi. Ac mi wnaeth o fy nghoelio i."

Dywedodd Samantha ei bod wedi gadael y maes parcio “ar gyflymdra” a mynd i faes parcio siop gerllaw er mwyn cuddio.

“Fe wnaethon ni symud y car yn araf i weld os oedd o wedi mynd. Ond yn anffodus, mi wnaeth o'n gweld ni wrth yr allanfa. Felly wrth i ni adael y maes parcio, fe wnaeth o 'rammio' ni yn ôl - hefo gymaint o rym, 'nath o daro ni yn ôl i'r maes parcio."

Ceisiodd Samantha yrru allan, ond fe darodd wal y maes parcio cyn i’r car fethu ag ail-danio.

“Wedyn fe wnaethon ni adael y car. Fe wnaethom redeg am ein bywydau a chuddio i lawr llwybr tywyll, yn crynu a llawn ofn. 

"Fe wnaethom ni aros yno tan ein bod yn teimlo'n ddiogel i fynd ar fws i Hen Golwyn. Roedd o'n hynod o drawmatig."

Tagu mewn tafarn

Ddau ddiwrnod cyn i Natasha gael ei chanfod yn ei chartref yn crogi, fe wnaeth John Gizzi dagu Samantha gyda’i ddwylo mewn tafarn ym Mae Colwyn. 

Yn ystod yr achos, llys cafodd lluniau CCTV o’r digwyddiad eu dangos i'r rheithgor, wedi i Gizzi bledio’n euog i dagu bwriadol.

“Mi wnaeth o fy nhagu gyda gymaint o rym ac mi wnes i ddisgyn i'r llawr. Mae gen i dal greithiau ar fy ngwddf oherwydd ei ewinedd, lle'r oedd yn cydio.

"Ar ôl hynny, roeddwn i mor ypset oherwydd doeddwn i byth wedi cael fy nghyffwrdd fel 'na gan ddyn o'r blaen. Doeddwn i erioed wedi profi trais domestig neu drais gan ddyn."

Gwelodd y llys hefyd fideo o Gizzi yn dweud mewn galwad ffôn y byddai’n “gorffen” Natasha.

‘Y diwrnod gwaethaf’

Disgrifiodd Denise Farah y profiad o weld ei merch yn yr ysbyty gydag anafiadau “catastroffig” i’w hymennydd, ar ôl i Natasha gael ei chanfod yn crogi ar 7 Ebrill eleni.

"Nid wyf erioed wedi teimlo fel hynny yn fy mywyd. Roedd o'n deimlad erchyll.

"Dwyt ti ddim yn hyd yn oed yn crio, mi wyt ti'n wylo mewn poen. Roeddwn i eisiau dinistrio'r stafell. Roedd o'n arswydus. Dydi o dal ddim yn teimlo'n wir."

Image
Cafodd protest ei gynnal y tu allan i'r llys wedi'r ddedfryd gan ffrindiau ac aelodau o deulu Natasha, yn galw am ddiwedd i drais domestig
Cafodd protest ei chynnal y tu allan i'r llys gan ffrindiau ac aelodau o deulu Natasha wedi dedfryd John Gizzi, yn galw am ddiwedd i drais yn erbyn menywod

Yn ystod yr achos, dywedodd y barnwr Simon Mills nad oedd tystiolaeth fod Gizzi yn gyfrifol am yr hyn a ddigwyddodd yng nghartref Natasha, ond y byddai Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio “heb os” pe bai tystiolaeth bellach yn dod i’r amlwg.

Ymgyrchu am ‘newid’

Mae deiseb bellach wedi ei sefydlu gan un o ffrindiau Natasha Farah yn galw am newid yn y gyfraith i orfodi cosbau llymach ar unigolion sy’n euog o achosion difrifol o gam-drin domestig ac ymddygiad rheolaethol. 

Mae’r ddeiseb wedi denu bron i 2,000 o lofnodion mewn chwe diwrnod hyd yma.

Wrth drafod y ddedfryd o bedair blynedd ac 11 mis o garchar i Gizzi, dywedodd Denise Farah: “Mae'n hollol annerbyniol. Felly a yw bywyd fy merch yn gyfwerth â dwy flynedd a hanner, ar ôl ymddygiad da? Roeddwn i'n numb ar ôl y gwrandawiad llys, numb.

"Nid oes dedfryd fydd yn ddigon hir i leddfu'r boen oedd o wedi achosi i ni fel teulu. Pedair blynedd ac 11 mis - a fyddai unrhyw un yn hapus efo hynny?

"Mae o wedi rheoli gogledd Cymru ers blynyddoedd. Rŵan da ni’n sefyll yn erbyn y bwystfilod sy’n rheoli a bwlio."

Ychwanegodd: “"Yn sicr dwi'n mynd i newid y gyfraith hon - 100%

"Ac mae mynd i gael ei galw'n Gyfraith Tasha, ac mae ymddygiad o reolaeth drwy orfodaeth yn mynd i gael dedfryd llawer iawn yn hirach.

"Mae'n rhaid iddo anfon y neges - os wyt ti'n ymddwyn yn dreisgar tuag at ddynes ac yn cael dwy flynedd a hanner gydag ymddygiad da - na fyddwn ni'n goddef hynny. Ai jôc yw hyn? 

"Tydi o ddim yn anfon y neges gywir allan ac rydym mewn epidemig nawr. Mae'n rhaid i bethau newid.

"Yn anffodus, fy merch Tasha yw'r person fydd yn gorfodi'r newid yma. Mi ddaw rhywbeth da allan o hyn."

'Chwalu bywydau'

Mae cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsed Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi galw am ailedrych ar ddedfryd Gizzi gan ofyn iddi gael ei chyfeirio at y Llys Apêl.

Wrth ymateb i'r ddedfryd, mae elusen Cymorth i Ferched wedi mynegi pryder am effaith o reolaeth drwy orfodaeth ar fenywod.

Image
Ann Williams o Gymorth i Ferched
Ann Williams o Gymorth i Ferched

Dywedodd Ann Williams o Cymorth i Ferched: “Mae'r sefyllfa yn ddybryd ofnadwy.

"Fel llinell gymorth 'da ni'n cael dros 600 o alwadau yn wythnosol. Mae nifer sylweddol yn sôn am orfodaeth ma’ nhw'n byw oddi dan. 

"Mae gorfodaeth fel hyn yn chwalu bywydau pobl a'n chwalu bywydau teuluoedd ac yn rhywbeth sy'n cael effaith hirdymor ma’ pobl yn byw hefo am byth.”

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â'r Swyddfa Gartref a Heddlu’r Gogledd am ymateb.

Prif lun: Samantha a Denise Farah, gyda llun o Natasha Farah.

Os ydych wedi cael eich effeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.