Dyn 65 oed yn pledio'n ddieuog i anafu person mewn pentref yng Ngwynedd

Llun: Google Maps
Hen Ysgol, Trefor.

Mae dyn 65 oed wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiadau o anafu yn fwriadol a bod â cyllell yn ei feddiant, yn dilyn digwyddiad ym mhentref Trefor yng Ngwynedd ym mis Hydref.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun, gwadodd Steven Parry o Hen Ysgol, Trefor, y cyhuddiadau yn ei erbyn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gartref ar ystad Hen Ysgol tua 18:00 ar 23 Hydref ar ôl adroddiadau bod dyn wedi cael anafiadau difrifol.

Bydd yr achos llawn yn ei erbyn yn dechrau fis Ebrill.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.