Dirwy i gwmni ailgylchu ar ôl i garthion lygru nant yng Nghaerfyrddin

Carthion

Mae cwmni ailgylchu o Gaerfyrddin wedi cael dirwy o £4,000 am ollwng gwastraff, gan gynnwys carthion heb eu trin.

Fe wnaeth y gollyngiad cyntaf o'i safle yn Nhre Ioan, Caerfyrddin lygru tua chilometr o Nant Tawelan, sy’n llifo i Afon Tywi.

Fe wnaeth Carmarthenshire Recycling and Environmental Services (CRES) bledio’n euog i ddau gyhuddiad yn Llys Ynadon Llanelli ar 19 Tachwedd.

Cafodd y cwmni ddirwy o £3,000 am y gollyngiad a lygrodd y nant ym mis Hydref 2025, a £1,000 am ollwng gwastraff hylifol ar y ddaear ar yr un safle ym mis Gorffennaf 2026. 

Bydd rhaid i’r cwmni hefyd dalu £7,933 mewn costau a gordal dioddefwr o £1,600.

Hylif llwyd

Aeth swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i Nant Tawelan ar 9 Hydref 2025 ar ôl cael gwybod am y llygredd. Roedden nhw’n gallu gweld hylif llwyd yn llifo o’r lan i’r nant. Roedd arogl cryf tebyg i garthion yno.

Fe wnaeth y swyddogion olrhain yr hylif i dancer ar safle’r cwmni. Roedd gwastraff o’r tancer wedi gollwng ar y ddaear ac yna wedi llifo i’r nant.

Roedd profion yn dangos lefelau uchel o amonia a gronynnau yn yr hylif, sy’n gyson â charthion heb eu trin neu wastraff o danc carthion. 

Roedd ansawdd y dŵr yn waeth am tua chilometr i lawr y nant o’r man lle roedd y gwastraff wedi mynd i mewn i’r dŵr.

Bywyd gwyllt

Yn ôl CNC, fe allai’r llygredd fod wedi achosi niwed sylweddol i bysgod a bywyd gwyllt arall yn y nant. 

Mae Afon Tywi, y mae Nant Tawelan yn llifo iddi, yn Ardal Gadwraeth Arbennig ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mewn cyfweliad dan rybudd, fe wnaeth cynrychiolydd ar ran y cwmni gyfaddef mai’r cwmni oedd wedi achosi’r llygredd, ond dywedodd mai damwain oedd hi.

Ar 21 Gorffennaf 2026, fe wnaeth swyddogion CNC olrhain yr ail ollyngiad i’r un ffynhonnell.

Dywedodd Alys Rees, Arweinydd Tîm Amgylchedd Sir Gaerfyrddin CNC: "Rydym yn falch ein bod wedi dod â'r achos hwn gerbron y llysoedd a sicrhau dedfryd am y troseddau hyn. 

"Mae Nant Tawelan yn llifo i Afon Tywi, un o afonydd gwarchodedig pwysicaf Cymru, ac mae digwyddiadau o'r fath yn gwbl annerbyniol.

"Mae'r achos hwn yn dangos ymrwymiad CNC i leihau llygredd, diogelu Afon Tywi a'i llednentydd, a dwyn y rhai sy'n gyfrifol am niwed amgylcheddol i gyfrif."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.