Cymru i gynnal Cwpan y Byd 2035 ar y cyd gyda Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Llun: Asiantaeth Huw Evans
Menywod pel-droed Cymru

Mae FIFA wedi cadarnhau y bydd Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cynnal Cwpan y Byd i Fenywod yn 2035.

Cais y pedair gwlad yw'r unig gais i gynnal y twrnamaint, ac fe gafodd y cais ei gymeradwyo mewn cyfarfod FIFA brynhawn ddydd Llun.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r DU gynnal Cwpan y Byd i Fenywod. Bydd 48 o dimau'n chwarae 104 o gemau dros gyfnod o 39 diwrnod, yn ôl cynllun y pedair gwlad.

Mae'r cais yn cynnig 19 stadiwn i gynnal y gemau. Mae 14 ohonyn nhw yn Lloegr, un yng Ngogledd Iwerddon, dwy yn yr Alban a dwy yng Nghymru, sef Stadiwm Principality a Stadiwm Dinas Caerdydd.

Gallai'r Cae Ras yn Wrecsam gael ei ychwanegu at y rhestr os bydd y clwb yn ehangu'r stadiwm eto erbyn canol y ddegawd nesaf.

Mae disgwyl i'r stadiwm gael ei ehangu i ddal 18,000 o gefnogwyr erbyn diwedd y gwaith ailddatblygu presennol. Ond bydd angen ehangu'r stadiwm eto cyn 2035 er mwyn bodloni gofynion FIFA.

Dywedodd Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru cyn y cyhoeddiad brynhawn Llun : “Mae Cymru wedi bod yn genedl bêl-droed ers 150 o flynyddoedd, a dydyn ni erioed wedi cynnal dim byd ar y raddfa hon.

“Byddai gweld gemau Cwpan y Byd yn cael eu chwarae yma, o flaen plant Cymru, yn newid wyneb pêl-droed yng Nghymru.

“Byddai'r newid i'w weld yn y clybiau, yn yr ysgolion ac yn nifer y merched fyddai'n tyfu i fyny yn gweld lle iddyn nhw eu hunain yn y gamp.”

Cafodd cais Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon sgôr o 4.3 allan o bump yn asesiad FIFA, a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach y mis hwn.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.