Gwaith ar Bont Menai wedi'i ohirio am chwe mis arall tan Hydref 2027

Pont Menai

Mae gwaith atgyweirio Pont Menai wedi cael ei ohirio am o leiaf chwe mis arall, gyda Llywodraeth Cymru bellach yn dweud na fydd y gwaith wedi'i gwblhau tan fis Hydref 2027.

Mae hynny bum mlynedd ers i'r gwaith ddechrau ar y bont hanesyddol ym mis Hydref 2022, yn dilyn pryderon am ei diogelwch a phroblemau strwythurol.

Roedd disgwyl i ail gam y gwaith ar y bont, sydd tua 200 mlwydd oed, gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2027.

Ond mae UK Highways A55 Ltd, sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r bont ar ran Llywodraeth Cymru, wedi cadarnhau y bydd y gwaith yn parhau tan o leiaf hydref 2027.

Y rheswm am yr oedi diweddaraf yw bod dŵr wedi cael ei ddarganfod yn treiddio i'r gwaith dur o dan y bont.

Nid oedd archwiliadau cynharach wedi canfod y broblem, ac roedd hynny'n golygu nad oedd modd gosod y system baent arfaethedig yn ddibynadwy.

Er mwyn osgoi oedi pellach, mae UK Highways A55 Ltd wedi aildrefnu gweddill y gwaith ac wedi chwilio am system baent arall sy'n gallu gwrthsefyll lleithder ac sy'n addas ar gyfer strwythurau treftadaeth.

Mae'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, wedi disgrifio'r oedi diweddaraf fel un "annerbyniol".

"Mae pobl wedi goddef oedi ac anghyfleustra ar y bont hon am ormod o amser, a dyna pam mae'r llywodraeth hon wedi gweithredu'n gyflym i gychwyn ar drydedd bont dros y Fenai," meddai.

"Roeddwn i'n hynod siomedig ac yn rhwystredig clywed gan y contractwyr y bydd eu rhaglen atgyweirio, sydd wedi gweld nifer o oediadau, yn cael ei gohirio unwaith eto.

"Rwyf wedi ei gwneud yn glir i UK Highways A55 Ltd ers ymgymryd â'r rôl hon pa mor bwysig yw cynnal momentwm a meithrin hyder yn y rhaglen waith, felly mae'r oedi diweddaraf hwn yn annerbyniol."

Yn gynharach eleni, datgelodd Newyddion S4C fod bron i £8.5 miliwn eisoes wedi'i wario ar y gwaith o atgyweirio Pont Menai ers 2022.

Dechreuodd y gwaith ar y bont ym mis Hydref 2022 yn dilyn pryderon ynghylch ei chyflwr strwythurol a'i diogelwch.

Ers hynny, mae'r rhaglen atgyweirio wedi wynebu sawl oedi.

Gyda'r dyddiad cwblhau bellach wedi'i symud i Hydref 2027, bydd y gwaith wedi para o leiaf bum mlynedd.

Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd am gynnydd y gwaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.