Bron i £8.5 miliwn wedi ei wario ar drwsio Pont Menai ers 2022
Bron i £8.5 miliwn wedi ei wario ar drwsio Pont Menai ers 2022
Gall Newyddion S4C ddatgelu fod bron i £8.5 miliwn wedi ei wario hyd yma ar y gwaith o drwsio Pont Menai ers 2022.
Mae'r gwaith atgyweirio ar y bont, sydd yn cysylltu Ynys Môn â'r tir mawr, wedi bod yn digwydd ers Hydref 2022 yn dilyn pryderon am ei diogelwch a phroblemau strwythurol.
Ers hynny, mae'r bont hanesyddol, sy'n dathlu ei 200 mlwyddiant eleni, wedi gorfod cau yn gyson.
Ddiwedd mis Awst, datgelodd Newyddion S4C nad yw Llywodraeth Cymru'n gwybod beth yw cost y gwaith o drwsio Pont Menai ers i'r gwaith hwnnw ddechrau ar ddiwedd 2022.
Cwmni UK Highways A55 Ltd sy'n gyfrifol am gostau cynnal a chadw'r bont, gan weithio ar ran Llywodraeth Cymru.
Ers cyhoeddi ein herthygl ym mis Awst, mae Newyddion S4C wedi astudio cyfrifon UK Highways A55 Ltd yn Nhŷ'r Cwmnïau.
Mae'r cyfrifon hyn yn rhoi darlun ariannol manwl o berfformiad y cwmni o flwyddyn i flwyddyn.
Ers 2023, mae cyfeiriad yn y cyfrifon blynyddol at 'ddarpariaeth' ('provision'), ar gyfer y gwaith atgyweirio sydd wedi codi ar Bont Menai, a'r costau sydd yn gysylltiedig.
Mae darpariaeth yn cyfeirio at arian sy'n cael ei gadw i un ochr ar gyfer costau y mae'r cwmni yn ymwybodol ohonynt, ond nad yw'n siŵr o'r union swm eto.
Y ffigyrau
Wrth archwilio'r cyfrifon am y cyfnod rhwng 2023 a 2025, mae Newyddion S4C wedi darganfod mai'r ffigwr diweddaraf am y gwariant ar Bont y Borth yw £8,472,000.
Ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2023, mae'r cyfrifon yn dangos fod darpariaeth wedi ei neilltuo ar gyfer y gwaith cynnal a chadw sylweddol yn ymwneud ag atgyweirio crogrodenni (hangers) y bont.
Fe arweiniodd hyn at swm o £7,190,000 yn cael ei roi o'r neilltu ar gyfer y gwaith dan sylw.
O'r arian yma oedd wrth gefn, roedd £5,073,000 yn weddill ar 31 Mawrth 2023 i gwblhau gwaith pellach, gan olygu fod £2,117,000 wedi ei wario yn y flwyddyn honno.
Ers hynny, mae gwaith sylweddol wedi bod yn digwydd arni, gan gynnwys gosod bolltau newydd ar drawstiau'r bont a gwaith sy'n gysylltiedig â cheblau cyfathrebu heb eu diogelu o dan y bont.
Yn ystod y flwyddyn ganlynol, sef y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024, fe gafodd swm o £1,246,000 ei ychwanegu at y ddarpariaeth, gan greu darpariaeth newydd o £6,319,000.
Yr union swm a gafodd ei wario ar y gwaith dros y cyfnod oedd £3,782,000, gan olygu fod £2,537,000 yn weddill.
Y cyfrifon blynyddol diweddaraf sydd ar gael yn Nhŷ'r Cwmnïau yw ar gyfer 2025.
Cafodd £528,000 ei ychwanegu at y ddarpariaeth yn y cyfnod yma i greu ffigwr newydd o £3,065,000.
Y gwir swm a gafodd ei wario yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025 oedd £2,573,000.
Drwy ychwanegu'r symiau a gafodd eu gwario dros y tair blynedd yma, y swm diweddaraf ar gael, sydd wedi ei wario ar Bont y Borth yw £8,472,000.
Mae darpariaeth o £492,000 yn weddill ar gyfer y gwaith.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni UK Highways A55 Ltd eu bod yn gweithio'n "agos gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwaith cynnal a chadw hanfodol" ar y bont ac y byddant yn "parhau i ddarparu'r buddsoddiad hanfodol i sicrhau dyfodol hir-dymor Pont y Borth a chwblhau amodau ein cytundeb DBFO wrth i ni baratoi i gyflwyno yn ôl."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda UK Highways A55 Ltd, ac mae eu cyfrifon ar gael yn gyhoeddus. Nid ydym yn cadw’r wybodaeth hon."
Wrth ymateb i'r ffigwr sydd wedi ei wario ar y bont hyd at 31 Mawrth 2025, dywedodd Jason O'Connell o blaid Reform, a'r Gweinidog Cysgodol dros yr Economi a Thrafnidiaeth: "Mae'r ffigyrau yr ydyn ni'n eu gweld ar Bont Menai yn arwydd clir o rwydwaith trafnidiaeth sy'n hen ffasiwn ac na all fynd i'r afael ag anghenion economi fodern.
"Mae miloedd o gerbydau yn croesi'r Fenai yn ddyddiol, ac mae'r cyfyngiadau parhaus, y gwaith trwsio a'r costau cynyddol yn cael effaith go iawn ar drigolion, busnesau a chymunedau ar draws Ynys Môn."
Ychwanegodd Janet Finch-Saunders, Aelod Ceidwadol o'r Senedd dros etholaeth Bangor Conwy Môn: "Mae'r rhain yn ffigyrau syfrdanol, sy'n pwysleisio'r angen am drydydd croesiad dros y Fenai. Mae cysylltedd gwael yn atal ein heconomi ac yn costio miloedd o bunnoedd.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo'n llwyr i drydydd croesiad ar draws y Fenai i helpu i dyfu economi gogledd Cymru."