'Bwystfil': Carcharu John Gizzi am droseddau trais domestig yn erbyn ei gyn-bartner
Rhybudd: Mae’r erthygl hon yn cynnwys manylion am drais domestig ac fe allai’r cynnwys beri gofid
Mae dyn 55 oed o Sir Ddinbych wedi derbyn dedfryd o dros bedair blynedd o garchar am gyfres o ymosodiadau treisgar ar ei gyn-bartner.
Mewn gwrandawiad fis Hydref, fe blediodd John Gizzi, o Lôn Cwttir, Llanelwy, yn euog i dair trosedd, sef ymddygiad o reolaeth drwy orfodaeth, tagu bwriadol a methu â darparu cyfrinair ei ffôn i swyddogion yr heddlu.
Wrth ei ddedfrydu i bedair blynedd ac 11 mis o garchar, dywedodd y Barnwr Simon Mills fod hwn yn “un o'r achosion o ymddygiad rheolaethol gwaethaf, o fewn cyd-destun camdriniaeth ddomestig, y mae modd ei ddychmygu.”
Yn ystod y gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau, clywodd y llys fod cyn-bartner Gizzi, Natasha Farah, o Landrillo-yn-rhos, wedi ei chanfod yn anymwybodol yn ei chartref fis Ebrill eleni.
Cafodd ei chludo i’r ysbyty ac mae Ms Farah yn parhau yno gydag anafiadau difrifol i’w hymennydd saith mis yn ddiweddarach.
Nid oedd tystiolaeth fod Gizzi yn gyfrifol am yr anafiadau, ond ar ôl y digwyddiad fe wnaeth yr heddlu gynnal ymchwiliad.
Clywodd y llys fod Gizzi wedi camdrin Natasha Farah ar lafar ac yn gorfforol am dros flwyddyn.
Dywedodd y bargyfreithiwr Elen Owen, yn erlyn, fod Gizzi wedi ymosod ar Ms Farah ar sawl achlysur, gan gynnwys ar Ŵyl San Steffan y llynedd, a Dydd Sant Ffolant a Sul y Mamau eleni.
Roedd hefyd wedi difrodi ei heiddo, a chymryd ei goriadau mewn ymgais i'w rheoli, clywodd y llys.
Clywodd y llys hefyd recordiad sain o Gizzi yn bygwth lladd Natasha Farah.
Ar achlysur arall, roedd wedi bygwth lladd Natasha a’i mab naw oed, Roman, ac fe wnaeth hefyd fygwth rhoi ei chwaer, Samantha Farah, “mewn twll”.
Roedd Gizzi hefyd wedi tagu chwaer Natasha, Samantha, mewn digwyddiad arall mewn tafarn ar 3 Ebrill eleni**,** ychydig ddyddiau cyn i Natasha gael ei chanfod gydag anafiadau difrifol.
'Rhedeg am ein bywydau'
Mewn datganiad am effaith y troseddau arni, disgrifiodd Samantha Farah un achlysur fis Ebrill eleni pan wnaeth hi a’i chwaer “redeg am eu bywydau” wrth ffoi rhag Gizzi.
Dywedodd Samantha fod Gizzi wedi ymosod ar Natasha yn ei fflat ar ôl i’r ddwy chwaer ddychwelyd o ddiwrnod yn ymweld â thraeth ar Ynys Môn.
Fe wnaeth y ddwy ffoi o’r adeilad a mynd i mewn i gar Fiat Natasha, ond fe wnaeth Gizzi eu dilyn yn ei gar 4x4 Mercedes. Fe wnaeth Gizzi orfodi car y chwiorydd i stopio a’u “trapio”, meddai Samantha. Roedd wedi eu "ramio" gyda'i gar gan fygwth trais yn eu herbyn.
“Ro’n i wir yn credu ei fod am ein lladd,” meddai Samantha.
“Roedd Tasha yn meddwl fod ganddo gyllell neu wn. Roedden ni’n pledio hefo fo, ond roedd o’n sgrechian arnom.”
Dywedodd Samantha, a oedd wrth lyw car ei chwaer, ei bod wedi gyrru i mewn i wal wrth geisio dianc i fan diogel. Doedd y car ddim yn ailgychwyn, felly penderfynodd y ddwy “redeg am eu bywydau” a llwyddo i ddianc.
“Dwi erioed wedi bod mor ofn yn fy mywyd,” ychwanegodd Samantha Farah.
Wrth roi datganiad emosiynol, dywedodd Samantha ei bod bellach yn gofalu am blentyn Natasha tra bod ei chwaer yn parhau yn yr ysbyty.
“Mae hyn oll wedi troi bywydau pawb yn ein teulu ben ei waered," meddai.
Doedd hi methu dioddef meddwl am y ffaith bod ei chwaer yn byw gyda "bwystfil," meddai.
Dywedodd ei bod hefyd wedi ceisio amddiffyn ei chwaer mewn tafarn. Fe wthiodd Gizzi, ond fe wnaeth o ymateb drwy ei thagu, meddai.
“Ro’n i’n teimlo fel fy mod am basio allan," meddai. "Ro’n i'n meddwl fy mod i am farw.”
'Rwyt ti wedi fy nhorri'
Dywedodd Ms Owen fod Gizzi, ar achlysur arall, wedi taflu pwysau ymarfer corff (dumbbell) tuag at Natasha a dyn arall oedd yn ceisio ei diogelu, mewn ymosodiad mewn campfa ym Mae Colwyn.
Disgrifiodd achlysur mewn sba ym Mae Cinmel pan roedd Gizzi yn cael pryd o fwyd gydag unigolyn arall, ac fe wthiodd Natasha, a oedd yn dal yn ei dillad, i mewn i’r pwll nofio.
Roedd Ms Farah wedi cwyno bod ergydion niferus i’w phen dros gyfnod o fisoedd wedi amharu ar ei chof.
Mewn un neges destun oedd ar ffôn Gizzi, dywedodd wrthi ei fod “am ei gorffen hi”.
Dywedodd Natasha Farah ei bod wedi canslo apwyntiadau trin gwallt oherwydd anafiadau i’w phen.
Dywedodd Natasha mewn un neges iddo: “Rwyt ti wedi fy nhorri.”
Dedfryd
Dywedodd y Barnwr Mills fod Gizzi â hanes o droseddu ac wedi treulio cyfnodau hir yn y carchar yn flaenorol.
Yn 2011, cafodd ei garcharu am 11 mlynedd am ei rôl fel arweinydd grŵp troseddol oedd yn gyfrifol am gyflenwi cyffuriau yng ngogledd Cymru. Roedd wedi ei erlyn 13 o weithiau am gyfanswm o 25 o droseddau.
Dywedodd y bargyfreithiwr Duncan Bould, yn amddiffyn, fod Gizzi yn dad i sawl plentyn a’i fod yn “bresenoldeb positif” yn eu bywydau.
Roedd hefyd wedi bod yn gefnogol i staff a chyd-garcharorion yng Ngharchar y Berwyn ers cael ei gadw yno.
“Mae wedi derbyn cyfrifoldeb am y difrod a’r trais mae wedi achosi,” meddai Mr Bould.
Wrth grynhoi, dywedodd Mr Mills wrth Gizzi y byddai’r troseddau dan sylw yn “ei ddilyn am byth.”
“Os oes gen ti enaid, mi fyddai hyn yn dy ddychryn am byth.”
Dywedodd hefyd nad oedd tystiolaeth fod Gizzi yn gyfrifol am yr hyn a ddigwyddodd yng nghartref Natasha ar 7 Ebrill, ond y byddai Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio “heb os” pe bai tystiolaeth bellach yn dod i’r amlwg.
Ymateb yr heddlu
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rebecca Donaghy o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’r pledion o euogrwydd a gofnodwyd gan John Gizzi yn yr achos hwn yn adlewyrchu natur ddifrifol ei droseddau, a’r ymddygiad o reolaeth drwy orfodaeth parhaus y bu’n ei arfer tuag at ei ddioddefwr dros gyfnod estynedig.
“Cafodd y patrwm hwn o ymddygiad effaith ddofn a pharhaol ar ei rhyddid, ei hannibyniaeth, ei hyder, a’i hymdeimlad o ddiogelwch.
“Rwy’n ymwybodol iawn o’r effaith y mae’r achos hwn wedi’i gael hefyd ar deulu agos y dioddefwr, ac rwy’n cydnabod eu dewrder a’u hamynedd, mewn cyfnod sydd wedi bod yn hynod anodd ac emosiynol iddynt.
“Cyfaddefodd Gizzi hefyd iddo dagu menyw arall yn fwriadol - gweithred o drais sy’n hynod ddifrifol.
“Hoffwn gydnabod y dewrder sydd ei angen ar ddioddefwyr cam-drin domestig i ddod ymlaen ac i gydweithio ag ymchwiliad troseddol.”