Pam bod pryderon y gallai affêr fyrstio’r swigen AI?
Mae gwerth un o gwmnïau mwyaf y byd - a hyder yn y diwydiant AI ehangach - yn y fantol yn sgil honiadau am affer rhwng prif weithredwr a menyw sydd wedi ei hamau o fod yn ysbiwr ar ran Tsieina.
Nvidia yw un o gwmnïau mwyaf y byd, gyda gwerth o tua $4 triliwn, ond mae pris ei gyfranddaliadau wedi gostwng tua thraean ers ei uchafbwynt ddechrau mis Hydref, gan gynnwys y cwymp ar ôl i’r farchnad gau nos Fercher.
Mae yna bryderon hefyd y gallai trafferthion y cwmni, sy’n cynhyrchu’r unedau prosesu sy’n cynnal modelau deallusrwydd artiffisial cyfoes, arwain at gwymp ehangach yng ngwerth cwmnïau AI.
Gostyngodd pris cyfranddaliadau Nvidia 8.6% arall wrth fasnachu ar ôl i farchnad stoc yr Unol Daleithiau gau nos Fercher, oherwydd pryderon y gallai bwrdd Nvidia gael gwared ar y prif weithredwr Jensen Huang.
Fe helpodd Jensen Huang i adeiladu cwmni Nvidia dros dri degawd, ac nid oes olynydd amlwg iddo yn y swydd.
Daw hynny ar ôl adroddiadau ei fod wedi cael dwy berthynas y tu allan i’w briodas, gan gynnwys un â menyw sydd dan amheuaeth o fod â chysylltiadau â gwasanaethau cudd-wybodaeth Tsieina.
Beth yw'r cysylltiad â Tsieina?
Alice Huang, sydd hefyd yn defnyddio’r enw Huang Le, yw un o’r menywod dan sylw.
Mae’n fenyw fusnes o Tsieina ac yn gyn-swyddog gweithredol gyda Megaspeed International, cwmni yn Singapore sy’n ymwneud â chanolfannau data a chyfrifiadura deallusrwydd artiffisial.
Yn ôl adroddiadau yn y New York Times, roedd swyddogion cudd-wybodaeth America wedi dod i’r casgliad bod gwasanaethau cudd-wybodaeth Tsieina wedi’i recriwtio i gasglu gwybodaeth drwy ei pherthynas â Jensen Huang.
Ond nid yw’r dystiolaeth gudd-wybodaeth sy’n sail i’r honiad wedi’i chyhoeddi.
Fe wnaeth Jensen Huang gydnabod mewn neges at staff ar 8 Tachwedd ei fod wedi bod yn anffyddlon i’w wraig, ac ymddiheuro am hynny.
Nid oedd ei neges yn enwi’r fenyw arall dan sylw.
Mae llywodraeth Tsieina hefyd wedi gwrthod yr honiadau am ysbïo, gan eu disgrifio fel rhai di-sail, a dywedodd y wasg yn yr Unol Daleithiau nad oedd Alice Huang na Megaspeed chwaith wedi ymateb i gais am sylw.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Yn eu datganiad ar 8 Tachwedd, dywedodd aelodau bwrdd Nvidia nad oedd ganddyn nhw reswm i gredu bod cyfrinachau’r cwmni na diogelwch cenedlaethol wedi’u peryglu, ond y byddai’r holl wybodaeth sydd ar gael yn cael ei archwilio'n fanwl.
Ar 10 Tachwedd, cadarnhaodd y bwrdd fod cyfreithwyr allanol wedi’u penodi i gynnal yr ymchwiliad.
Yna, nos Fercher, fe wnaeth The New York Times adrodd bod Mr Huang wedi cael affêr gydag ail fenyw, sef aelod o’i dîm gweithredol.
Fe wnaeth The Wall Street Journal adrodd bod y bwrdd yn paratoi i’w ddiswyddo.
Yn ôl Reuters, roedd bwrdd Nvidia yn cyfarfod yn hwyr nos Fercher, amser yr Unol Daleithiau, i benderfynu ar ei ddyfodol yn y cwmni.
Pe bai Mr Huang yn cael ei ddiswyddo, gallai hynny ychwanegu at ansicrwydd ynghylch cyfeiriad Nvidia a chyflymder y buddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial.
Gan fod cwmnïau technoleg mawr yn cyfrif am gyfran sylweddol o werth mynegai S&P 500 yr Unol Daleithiau, gallai cwymp yn eu cyfranddaliadau lusgo’r mynegai ehangach i lawr hefyd, gan effeithio ar fuddsoddiadau a chronfeydd pensiwn ledled y byd.