Lluniau y dylai'r heddlu fod wedi'u dileu yn dal ar gael i dechnoleg adnabod wynebau
Mae rhai lluniau o bobl a gafodd eu tynnu pan oedden nhw'n yn nalfa'r heddlu yn dal i gael eu cadw, er y dylent fod wedi'u dileu, yn ôl adroddiad newydd.
Mae hyn yn golygu bod y lluniau yn dal ar gael i systemau sy'n cael eu defnyddio gan yr heddlu i adnabod pobl yn ystod ymchwiliadau troseddol.
Mae corff sy'n arolygu heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi rhybuddio y gallai hyn danseilio hyder y cyhoedd yn y dechnoleg.
Sut mae'r dechnoleg yn gweithio?
Wrth ymchwilio i drosedd, gall yr heddlu ddefnyddio'r dechnoleg i gymharu llun o rywun, er enghraifft o gamerâu teledu cylch cyfyng, â lluniau sydd eisoes ar gronfa ddata'r heddlu.
Mae'r system wedyn yn awgrymu pobl a allai fod yn cyfateb i'r llun.
Ond nid yw hyn yn profi mai'r un person sydd yn y ddau lun, ac mae'n rhaid i swyddogion gynnal gwiriadau pellach.
Yn ôl adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi, nid oedd rhai swyddogion llai profiadol yn deall hyn.
Fe wnaeth yr arolygwyr ddarganfod hefyd fod nifer fach o achosion lle'r oedd swyddogion wedi dibynnu gormod ar y dechnoleg, gan arwain at gamau ymchwilio amhriodol.
Mae'r adroddiad yn rhybuddio y gallai hyn arwain at adnabod neu arestio'r person anghywir.
Pryderon am wiriadau
Mae'n ofynnol i heddluoedd wirio o leiaf 1% o'r achosion lle mae'r dechnoleg wedi cael ei defnyddio, er mwyn sicrhau bod y rheolau'n cael eu dilyn.
Ond yn ôl ffigyrau a gafodd eu hystyried gan yr arolygwyr, dim ond dau heddlu yng Nghymru a Lloegr oedd wedi gwirio'r nifer cywir o achosion.
Roedd saith llu heb benodi rhywun i gynnal y gwiriadau, tra bod 22 naill ai heb gyflwyno gwybodaeth am eu gwiriadau neu wedi cyflwyno gwybodaeth anghyflawn.
Roedd 10 heddlu wedi gwirio mwy na'r 1% sy'n ofynnol.
Dywedodd yr arolygwyr fod angen gwneud mwy i sicrhau bod yr heddlu yn defnyddio'r dechnoleg yn gywir.
Galw am well rheolau
Fe wnaeth yr arolygwyr ymweld â saith heddlu, yn cynnwys Heddlu Gwent, yn ogystal â'r Asiantaeth Droseddu.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad nad oedd pob heddlu yn defnyddio'r dechnoleg yn yr un ffordd, ac nad oedd y gwiriadau a'r oruchwyliaeth wastad yn ddigonol.
Mae'r arolygwyr wedi galw am reolau cliriach, gwell hyfforddiant i swyddogion a mwy o oruchwyliaeth.
Daw hyn wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi cynlluniau i gyflwyno deddfau llymach ar ddefnydd yr heddlu o dechnoleg adnabod wynebau byw.
Mae'r dechnoleg honno ychydig yn wahanol, gan ei bod yn defnyddio camerâu i sganio wynebau pobl mewn mannau cyhoeddus a'u cymharu â rhestr o bobl y mae'r heddlu yn chwilio amdanynt.
Mae system newydd hefyd yn cael ei phrofi yn dilyn pryderon a gafodd eu codi yn 2024, y gallai rhai grwpiau o bobl, gan gynnwys pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a menywod, fod yn fwy tebygol o ymddangos mewn canlyniadau chwilio.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn sicrhau bod yr heddlu yn defnyddio'r dechnoleg mewn ffordd gymesur, a dim ond pan fydd rheswm dros gredu bod pobl y maent yn chwilio amdanynt mewn ardal benodol.