Reform yn boicotio Senedd Cymru ar ôl i aelod o'r blaid gael ei wahardd rhag siarad

Reform Boycott

Mae Reform wedi cyhoeddi eu bod yn boicotio Senedd Cymru wedi i un o aelodau'r blaid gael ei wahardd rhag siarad ar ôl iddo honni bod pobl wyn o Brydain yn cael eu disodli.

Cafodd Joe Martin, AS Reform UK, ei wahardd ddydd Mawrth ar ôl i'r Llywydd, Huw Irranca-Davies ddisgrifio ei sylwadau fel rhai “gwahaniaethol” a “sarhaus”.

Cyhoeddodd arweinydd Reform yng Nghymru Helen Jenner ddydd Mercher na fyddai'r blaid yn mynd i'r cyfarfod llawn a hynny "mewn cefnogaeth" i Joe Martin. 

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Martin, yr Aelod o’r Senedd dros Gaerdydd Penarth: “Ga'i ddatganiad gan eich Llywodraeth am y newid demograffig sy’n arwain at ddisodli pobl wyn o Brydain yn y DU?

“Oherwydd mae graddfa’r newid wedi bod yn syfrdanol.

“Mae mewnfudo torfol a chyfraddau genedigaethau gwahanol yn golygu, ymhen 37 mlynedd yn unig, yn 2063, y byddwn yn leiafrif yn ein gwlad ein hunain.

“Mae’r newid hwnnw eisoes wedi digwydd yn Llundain, Birmingham, Caerlŷr, Slough, Luton a Manceinion, ac nid wyf am iddo ddigwydd yma.

“Yn wir, ar bob cyfle, mae mwyafrif yr etholwyr wedi dymuno gweld llai o fewnfudo er mwyn sicrhau bod eu cenedl yn cael ei diogelu.

“Nid parth economaidd yw cenedl, nid gwesty ydy hi, ac nid elusen ydy hi chwaith.

“Teulu ydy hi, sy’n gallu croesawu pobl o bob hil os ydy hynny'n cael ei wneud ar gyfradd synhwyrol, ond nid os caiff ei disodli’n llwyr.”

'Llywodraeth i bawb'

Fe wnaeth y Trefnydd Heledd Fychan AS ymateb drwy ofyn am ddyfarniad ynghylch a oedd y sylwadau’n cydymffurfio â rheolau’r Senedd.

“Mae gennym ddyletswydd tuag at bob un aelod o’r cymunedau rydym yn eu cynrychioli,” meddai.

“Rwy’n gwrthod rhaniadau a chasineb. Yn gynharach, cawsom gwestiwn i’r Prif Weinidog am wrthsemitiaeth.

“Ni allwn wahaniaethu rhwng pobl ar sail eu crefydd, eu rhywioldeb na lliw eu croen.

“Rydym yn Llywodraeth i bawb yma yng Nghymru, ac mae disgwyl i ni fod yn Senedd i bawb yma yng Nghymru.

“Rwy’n gwrthod yn llwyr y rhaniadau sy’n cael eu lledu gan yr aelodau hynny.”

'Ymyrraeth ar ryddid llefaru'

Wrth siarad o risiau'r Senedd ddydd Mercher, dywedodd Helen Jenner: "Rydych chi gyd yn ymwybodol o beth ddigwyddodd ddoe yn y Siambr. Fe gafodd Joe Martin wybod nad oedd bellach yn cael siarad yn y Senedd, yn y cyfarfod llawn oherwydd yr hyn y gwnaeth ei ddweud a'i gyfraniad. 

"Rydyn ni'n teimlo fod hyn yn sgil pwysau gormodol gan y blaid sy'n llywodraethu sydd ddim yn hoffi clywed yr hyn sydd gennym ni i'w ddweud. 

"Mae'n ymyrraeth ar ryddid llefaru. Ni fyddai unrhyw beth wedi digwydd i Joe pe bai wedi dweud hyn ar y stryd felly pam dylai gael ei dawelu yn y Senedd yma yng Nghymru? 

Ychwanegodd Helen Jenner: "O'r herwydd, rydyn ni wedi penderfynu gwneud safiad a'n safiad ni yw'r canlynol: Os ydych chi'n tawelu un ohonom ni, rydych chi'n tawelu ni i gyd. 

"Ni fyddwn yn mynd i'r cyfarfod heddiw, dyna'n safiad ni ar y mater. Rydyn ni wir yn teimlo ein bod ni yma i siarad dros ein hetholwyr, dros y bobl wnaeth bleidleisio drosom ni ac rydyn ni'n cael ein tawelu. 

"Pan ydyn ni'n cael ein tawelu, mae safbwyntiau ein hetholwyr yn cael eu tawelu hefyd. 'Dan ni ddim yn mynd i roi i fyny efo fo ddim mwy."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.