Sir Benfro: Plentyn 13 oed wedi ei anafu mewn gwrthdrawiad e-feic

Bush Hill, Pembroke

Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai plentyn 13 gafodd ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn ymwneud ag e-feic yn Sir Benfro ddydd Llun.

Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Bush Hill ym Mhenfro tua 14.00 ddydd Llun yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad.

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans a’r ambiwlans awyr hefyd eu galw i’r lleoliad.

Mewn diweddariad ddydd Mercher, dywedodd y llu bod y gwrthdrawiad yn ymwneud â pherson 16 oed ar e-feic a phlentyn 13 oed oedd ar feic pedal gyda chymorth trydan.

Cafodd y plentyn 13 oed ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr yng nghwmni ei deulu, gyda’r heddlu’n adrodd ddydd Llun ei fod gydag anafiadau all beryglu bywyd.

Dywedodd y llu ddydd Mercher fod y plentyn yn parhau mewn cyflwr difrifol ond bellach yn sefydlog.

Cafodd y person 16 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus.

Mae’r plentyn bellach wedi’i ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau’r heddlu barhau.

Cafodd y ffordd ei chau wedi’r digwyddiad, a’i hail-agor tua 20.40 yn ddiweddarach yn y diwrnod.

Mae’r llu yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal ar adeg y gwrthdrawiad ac sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101, neu anfon neges i wefan neu gyfrifon cyfyngau cymdeithasol Heddlu Dyfed-Powys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.